Canllawiau

Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd

Efallai y gallwch wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) Dull Newydd gyda neu yn lle Credyd Cynhwysol (UC), yn dibynnu ar eich cofnod Yswiriant Gwladol.

Trosolwg

Os ydych yn ddi-waith neu’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd efallai y gallwch gael Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) Dull Newydd.

Mae JSA Dull Newydd yn daliad bob bythefnos a ellir gwneud cais amdano ar ei ben ei hun neu ar yr un pryd a Chredyd Cynhwysol.

Mae JSA Dull Newydd yn fudd-dal sy’n seiliedig ar gyfraniadau. Fel arfer mae hyn yn golygu efallai y gallech ei gael os ydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG), fel arfer yn y 2 flynedd dreth lawn cyn y flwyddyn rydych yn gwneud cais ynddo. Gall credydau Yswiriant Gwladol hefyd gyfrif.

Os ydych yn gymwys, gallwch gael JSA Dull Newydd am hyd at 182 diwrnod. Ar ôl hyn bydd eich anogwr gwaith yn siarad gyda chi am eich opsiynau.

Os ydych yn gymwys am JSA Dull Newydd a Chredyd Cynhwysol, bydd unrhyw JSA Dull Newydd a gewch yn cael ei gymryd i ystyriaeth fel incwm ar gyfer Credyd Cynhwysol.

Pam ddylwn i wneud cais am JSA Dull Newydd?

Ni fydd eich cynilion, cyfalaf ac incwm chi (neu gynilion, cyfalaf ac incwm eich partner) yn cael ei gymryd i ystyried wrth wneud cais am JSA Dull Newydd. Fodd bynnag, gall eich enillion neu unrhyw daliad rydych yn ei gael o bensiwn effeithio’r swm y gallech ei gael.

Tra rydych yn cael JSA Dull Newydd byddwch yn cael dyfarniad o gredydau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 a all helpu tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth a budd-daliadau eraill sy’n seiliedig ar gyfraniadau yn y dyfodol. Mae’n daliad rheolaidd bob pythefnos.

Mae’r tabl canlynol yn dangos beth allech chi wneud cais amdano yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

Eich sefyllfa JSA Dull Newydd Credyd Cynhwysol
Rydych yn ddi-waith neu’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd ac rydych angen cymorth rhwng swyddi.

Rydych wedi talu a/neu wedi cael eich credydu gyda chyfraniadau YG dosbarth 1 yn y 2 i 3 mlynedd diwethaf fel gweithiwr cyflogedig.
Gallwch wneud cais am JSA Dull Newydd - hyd yn oed os yw eich partner yn gweithio neu fod gennych chi a’ch partner gynilion dros £16,000. Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os oes gennych chi (a’ch partner) blant neu gostau tai.

Gallwch hefyd wneud cais am Gredyd Cynhwysol os oes gennych chi (a’ch partner) £16,000 neu lai o gynilion rhyngoch.

Bydd incwm eich partner yn cael ei gymryd i ystyriaeth oherwydd byddwch angen gwneud cais am Gredyd Cynhwysol fel cwpwl.

Bydd unrhyw JSA Dull Newydd a gewch hefyd yn cael ei gymryd i ystyriaeth fel incwm, ond gallech ddal i gael Credyd Cynhwysol.
Rydych yn ddi-waith neu’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd. Rydych angen cymorth rhwng swyddi ac nid ydych wedi talu neu gael eich credydu gydag unrhyw gyfraniadau Dosbarth 1 YG, fel arfer yn y 2 i 3 mlynedd diwethaf. Rydych yn annhebygol o gael JSA Dull Newydd os nad ydych wedi talu neu gael eich credydu gyda chyfraniadau YG. Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os oes gennych chi (a’ch partner) blant neu gostau tai.

Gallwch hefyd wneud cais am Gredyd Cynhwysol os oes gennych chi (a’ch partner) £16,000 neu lai o gynilion rhyngoch.

Bydd incwm eich partner yn cael ei gymryd i ystyriaeth oherwydd byddwch angen gwneud cais am Gredyd Cynhwysol fel cwpwl.
Rydych yn ddi-waith neu’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd.

Rydych wedi talu a/neu wedi cael eich credydu gyda chyfraniadau YG dosbarth 1, fel arfer yn y 2 i 3 mlynedd diwethaf fel gweithiwr cyflogedig.

Rhyngoch chi, mae gennych chi a’ch partner fwy na £16,000 mewn cynilion.
Gallwch wneud cais am JSA Dull Newydd.

Nid yw JSA Dull Newydd yn cael ei effeithio gan eich cynilion chi a’ch partner.
Rydych yn annhebygol o gael Credyd Cynhwysol oherwydd bod eich cynilion yn rhy uchel.
Rydych yn ddi-waith neu’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd.

Rydych wedi talu a/neu wedi cael eich credydu gyda chyfraniadau YG dosbarth 1, fel arfer yn y 2 i 3 mlynedd diwethaf fel gweithiwr cyflogedig.

Mae eich partner yn gweithio.

Rhyngoch chi, mae gennych chi a’ch partner llai na £16,000 mewn cynilion.
Gallwch wneud cais am JSA Dull Newydd, oherwydd nad yw gwaith eich partner yn effeithio eich hawl. Gallwch hefyd wneud cais am Gredyd Cynhwysol oherwydd bod gennych chi a’ch partner llai na £16,000 mewn cynilion.

Bydd incwm eich partner yn cael ei gymryd i ystyriaeth oherwydd byddwch angen gwneud cais am Gredyd Cynhwysol fel cwpwl.

Bydd unrhyw JSA Dull Newydd a gewch hefyd yn cael ei gymryd i ystyriaeth fel incwm, ond gallech ddal i gael Credyd Cynhwysol.
Rydych yn ddi-waith neu’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd.

Rydych yn cael incwm o bensiwn gan gyflogaeth flaenorol.

Rydych wedi talu a/neu wedi cael eich credydu gyda chyfraniadau YG dosbarth 1, fel arfer yn y 2 i 3 mlynedd diwethaf fel gweithiwr cyflogedig.
Gallwch wneud cais am JSA Dull Newydd.

Efallai bydd eich incwm o bensiwn yn cael ei gymryd i ystyriaeth.
Os oes gennych chi a’ch partner llai na £16,000 o gynilion, efallai gallech hefyd gael Credyd Cynhwysol.

Bydd eich incwm o bensiwn yn cael ei gymryd i ystyriaeth.

Bydd unrhyw JSA Dull Newydd a gewch hefyd yn cael ei gymryd i ystyriaeth fel incwm, ond gallech ddal gael Credyd Cynhwysol.
Rydych yn ddi-waith neu’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd.

Mae gennych blant.

Rydych wedi talu a/neu wedi cael eich credydu gyda chyfraniadau YG dosbarth 1, fel arfer yn y 2 i 3 mlynedd diwethaf fel gweithiwr cyflogedig.
Gallwch wneud cais am JSA Dull Newydd oherwydd eich bod wedi talu/cael eich credydu gyda chyfraniadau YG, felly efallai byddwch yn gymwys.

Nid yw JSA Dull Newydd yn cynnwys symiau ychwanegol ar gyfer plant.
Gallwch hefyd wneud cais am Gredyd Cynhwysol gan ei fod yn asesiad i’r cartref a gallwch gael swm ar gyfer plant.
Rydych yn ddi-waith neu’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd.

Rydych yn byw mewn llety rhent, neu mae gennych forgais neu fenthyciad cartref, ac rydych angen help i dalu’r gost.

Rydych wedi talu a/neu wedi cael eich credydu gyda chyfraniadau YG dosbarth 1, fel arfer yn y 2 i 3 mlynedd diwethaf fel gweithiwr cyflogedig.
Gallwch wneud cais am JSA Dull Newydd oherwydd eich bod wedi talu/cael eich credydu gyda chyfraniadau YG, felly efallai byddwch yn gymwys.

Nid yw JSA Dull Newydd yn cynnwys swm ychwanegol ar gyfer costau tai.
Gallwch hefyd wneud cais am Gredyd Cynhwysol gan ei fod yn asesiad i’r cartref a gallwch gael swm ar gyfer eich costau tai.

Cymhwyster

I gael JSA Dull Newydd fel arfer byddwch wedi bod angen gweithio fel gweithiwr cyflogedig o fewn y 2 i 3 mlynedd diwethaf ac wedi gwneud (neu gael eich credydu gyda) chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1.

Byddwch hefyd angen bod yn ddi-waith neu’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd.

Bydd angen i chi hefyd gymryd camau rhesymol i chwilio am waith.

Os oes gennych salwch neu anabledd sy’n eich stopio rhag gweithio ni allwch gael JSA Dull Newydd, ond efallai byddwch yn gallu cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ‘Dull Newydd’.

Sut i wneud cais

I wneud cais, bydd angen eich:

  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Manylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu (neu fanylion aelod o’r teulu neu ffrind gallwch ymddiried ynddynt)
  • Manylion cyflogaeth am y 6 mis diwethaf, gan gynnwys manylion cyswllt eich cyflogwr a’r dyddiadau roeddech yn gweithio iddynt
  • Llythyr datgan pensiwn preifat

Gwneud cais ar-lein

Ni allwch wneud cais ar-lein os ydych o dan 18 oed.

Gwneud Cais am JSA dull newydd

Os na allwch wneud cais ar-lein neu os oes angen fformatiau arall arnoch

Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych rhwng 16 a 17 oed
  • mae angen help arnoch i wneud cais
  • mae angen i gyfathrebiadau gael eu hanfon atoch mewn fformat arall, fel braille, print bras neu CD sain

Ar ôl i chi wneud eich cais

Os rhoddoch eich rhif ffôn symudol neu gyfeiriad e-bost yn eich cais ar-lein, byddwch yn cael neges destun neu e-bost i gadarnhau ei fod wedi’i gyflwyno.

Yna bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cysylltu â chi o fewn 14 diwrnod o wneud cais. Byddwch naill ai yn:

  • cael eich gwahodd i gyfweliad yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol
  • derbyn llythyr i esbonio pam nad ydych yn gymwys i gael JSA

Nid oes angen i chi gysylltu â DWP oni bai ei bod hi’n fwy na 14 diwrnod ers i chi wneud cais ac nad ydych wedi clywed gennym.

Eich cyfweliad JSA

Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, rhaid i chi fynychu. Bydd yn cael ei gynnal yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.

Gofynnir rhai cwestiynau i chi i gadarnhau pwy ydych ac yna byddwch yn dod i gytundeb ynghylch pa gamau y byddwch yn eu cymryd i chwilio am waith.

Bydd angen i chi ddod â’r canlynol i gyd:

  • un prawf adnabod ffotograffig
  • un prawf o gyfeiriad
  • un prawf hunaniaeth pellach

Os oes gennych P45 gan eich cyflogwr, dewch â hwn i’ch cyfweliad. Gallwch hefyd ddefnyddio hwn fel eich prawf hunaniaeth pellach.

Prawf ffotograffig o hunaniaeth

Gall hyn gynnwys unrhyw un o’r canlynol, nad yw wedi dod i ben:

  • pasbort o unrhyw wlad
  • Trwydded yrru cerdyn â llun llawn neu dros dro y DU
  • cerdyn adnabod y lluoedd arfog
  • cerdyn adnabod yr heddlu
  • Cerdyn adnabod y GIG sy’n cynnwys biometrig
  • cardiau adnabod gyda logo Cynllun Prawf o Safonau Oedran (PASS)
  • cerdyn adnabod cenedlaethol tramor, ond nid cardiau adnabod a gyhoeddwyd o dan Gynllun Hunaniaeth Genedlaethol y DU
  • trwydded breswylio, tystysgrif gofrestru neu ddogfen arall sy’n dangos eich hawl i fyw’n barhaol yn y DU, os ydych yn Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’n wladolyn Swisaidd
  • cerdyn preswylio parhaol a roddir i aelod o deulu gwladolyn o’r AEE neu’r Swistir
  • trwydded breswylio fiometrig sy’n dangos eich bod yn cael aros yn y DU am 6 mis neu fwy
  • dogfen statws mewnfudo neu ddogfen deithio arall sy’n dangos eich bod yn cael aros yn y DU am gyfnod amhenodol
  • tystysgrif cofrestru neu frodori fel dinesydd Prydeinig, sy’n dangos eich bod yn cael gweithio yn y DU
  • trwydded yrru cerdyn â llun tramor gyda thrwydded yrru ryngwladol, sy’n ddilys am hyd at 12 mis hyd at y dyddiad y daethoch i mewn i’r DU

Prawf o gyfeiriad

Gall hyn gynnwys unrhyw un o’r canlynol:

  • datganiad cyfredol y dreth cyngor
  • Trwydded yrru cerdyn â llun llawn neu dros dro y DU (os nad yw eisoes yn cael ei defnyddio fel hunaniaeth ffotograffig bersonol)
  • Trwydded yrru bapur llawn y DU
  • hysbysiad treth diweddaraf gan CThEF, er enghraifft, asesiad treth, datganiad cyfrif, neu hysbysiad o godio, ond nid P45 neu P60
  • unrhyw ohebiaeth arall gan CThEF
  • datganiad morgais gan fenthyciwr cydnabyddedig
  • cerdyn rhent cyngor lleol neu gytundeb tenantiaeth
  • prawf o’r gofrestr etholiadol eich bod yn byw yn y cyfeiriad
  • llythyr gan eich cyflogwr
  • datganiad cyfrif benthyciad personol
  • dogfennau cofrestru cerbydau
  • llythyr gan gyfrifydd neu gyfreithiwr
  • llythyr gan ysgol, coleg neu brifysgol
  • dogfennau benthyciadau myfyrwyr
  • polisïau sicrwydd bywyd neu yswiriant
  • polisïau yswiriant adeiladau, cynnwys neu gerbydau
  • banc, cymdeithas adeiladu, cerdyn credyd neu ddatganiad undeb credyd, dyddiedig o fewn y 6 mis diwethaf
  • contract neu ddatganiad ffôn symudol, wedi’i ddyddio o fewn y 6 mis diwethaf
  • bil ffôn llinell dir, dyddiedig o fewn y 6 mis diwethaf
  • bil cyfleustodau, dyddiedig o fewn y 6 mis diwethaf, er enghraifft: nwy, dŵr, trydany
  • tystysgrif gan gyflenwr cyfleustodau sy’n dangos eich bod yn defnyddio trefniant talu ymlaen llaw yn eich cyfeiriad, dyddiedig o fewn y 6 mis diwethaf

Prawf adnabod pellach

Yn ogystal â thystiolaeth ffotograffig a phrawf o gyfeiriad, bydd angen i chi ddod â dogfen arall i brofi pwy ydych chi. Gall hyn gynnwys unrhyw un o’r canlynol:

  • P45 neu P60
  • llyfr cyfrifon cynilo
  • llyfr sieciau personol
  • cerdyn debyd, credyd neu siop cyfredol gyda datganiad yn cadarnhau’r manylion ar y cerdyn.

Neu unrhyw un o’r canlynol os nad ydynt eisoes wedi’u defnyddio i brofi eich cyfeiriad:

  • hysbysiad treth diweddaraf gan CThEF, er enghraifft, asesiad treth, datganiad cyfrif, neu hysbysiad codio
  • dogfennau benthyciadau myfyrwyr
  • datganiad cyfredol y dreth gyngor
  • datganiad morgais gan fenthyciwr cydnabyddedig
  • cerdyn rhent cyngor lleol neu gytundeb tenantiaeth
  • datganiad cyfrif benthyciad personol
  • polisïau sicrwydd bywyd neu yswiriant
  • polisïau adeiladu, cynnwys neu yswiriant cerbyd
  • slip cyflog neu ddatganiad pensiwn cyfredol neu ddiweddar, wedi’i ddyddio o fewn y 6 mis diwethaf
  • banc, cymdeithas adeiladu, cerdyn credyd neu ddatganiad undeb credyd, dyddiedig o fewn y 6 mis diwethaf
  • contract neu ddatganiad ffôn symudol, wedi’i ddyddio o fewn y 6 mis diwethaf
  • bil ffôn llinell dir, dyddiedig o fewn y 6 mis diwethaf
  • bil cyfleustodau, dyddiedig o fewn y 6 mis diwethaf, er enghraifft: nwy, dŵr, trydan
  • tystysgrif gan gyflenwr cyfleustodau sy’n dangos eich bod yn defnyddio trefniant talu ymlaen llaw yn eich cyfeiriad, dyddiedig o fewn y 6 mis diwethaf

Gellir defnyddio biliau cyfleustodau ar gyfer prawf o gyfeiriad ac fel prawf adnabod pellach os ydynt gan gyflenwyr gwahanol.

Cymorth yn eich cyfweliad

Gallwch fynd â rhywun gyda chi i’ch cyfweliad JSA.

Cysylltwch â’ch Canolfan Byd Gwaith cyn y cyfweliad os oes angen cymorth arnoch oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd (er enghraifft, os ydych yn fyddar ac angen cyfieithydd iaith arwyddion).

Llofnodwch gytundeb i chwilio am waith (‘Ymrwymiad Hawlydd’)

Yn eich cyfweliad JSA, rhaid i chi lofnodi cytundeb ynghylch pa gamau y byddwch yn eu cymryd i chwilio am swydd. Gelwir hyn yn ‘Ymrwymiad Hawlydd’.

Byddwch chi a’ch anogwr gwaith yn cytuno ar yr hyn sy’n mynd yn eich Ymrwymiad Hawlydd. Gallai hyn gynnwys:

  • beth sydd angen i chi ei wneud i chwilio am waith - er enghraifft cofrestru gydag asiantaethau recriwtio, ysgrifennu CV
  • faint o oriau sydd angen i chi eu treulio yn chwilio am waith bob wythnos

Bydd yr hyn rydych chi’n cytuno i’w wneud yn dibynnu ar bethau fel:

  • eich iechyd
  • eich cyfrifoldebau gartref
  • faint o help sydd ei angen arnoch i gael gwaith neu gynyddu eich incwm Efallai y bydd eich JSA yn cael ei leihau neu ei atal os nad ydych yn gwneud yr hyn rydych wedi cytuno iddo yn eich Ymrwymiad Hawlydd ac na allwch roi rheswm da.

Os ydych yn anghytuno gyda phenderfyniad

Gallwch herio penderfyniad am eich cais. Mae hwn yn cael ei alw’n gofyn am ailystyriaeth orfodol.

Cyhoeddwyd ar 6 December 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 January 2024 + show all updates
  1. Added a link to NI Direct for if you're in Northern Ireland and cannot apply for New Style Jobseeker’s Allowance online or need alternative formats.

  2. Updated the guidance on what happens after you make your claim to make it clearer.

  3. The time it takes for DWP to contact you after you apply for New Style JSA has changed from within 10 days to within 14 days.

  4. Added translation

  5. Updated guidance because you'll need to attend a face to face interview at a jobcentre after you make a new claim for New Style Jobseeker's Allowance. Included list of documents you'll need to take to the interview to prove your identity.

  6. Added guidance that you must attend a phone interview when you make a claim New Style Jobseeker's Allowance and you are eligible for the benefit and explained what happens at the interview.

  7. From 27 January 2021 you can claim New Style JSA if you’re getting Severe Disability Premium (SDP), or if you received SDP in the last month and are still eligible for it.

  8. Replaced guidance that you do not need to go to an appointment with a work coach at the moment with new guidance that DWP will make an appointment to talk to you, either over the phone or face-to-face.

  9. Updated the eligibility conditions to explain you need to take reasonable steps to look for work while following the guidance on working safely during coronavirus.

  10. Removed requirement to show you’re looking for work from the 'Eligibility' section because of coronavirus. Added eligibility guidance for people on furlough or getting Self-Employment Income Support grant. Added information you'll need before you start your application.

  11. The guidance on how to apply has been updated because of coronavirus (COVID-19).

  12. New Style Jobseeker's Allowance (JSA) content updated and print and fold guide added.

  13. Removed references to Universal Credit full service and live service.

  14. Updated page to reflect that new claims to Universal Credit can now be made by households with more than 2 children.

  15. Updated Welsh version to reflect how the severe disability premium might affect a claim.

  16. Added information about Severe Disability Premium and how it may affect your claim to new style Jobseeker's Allowance.

  17. Added translation

  18. Next Generation Text (NGT) relay and Welsh language telephone line numbers updated.

  19. How to claim section updated and Next Generation Text number added.

  20. Updated to show that Universal Credit is now available everywhere in Great Britain.

  21. Universal Credit live service telephone helpline opening hours changed to 9am to 4pm.

  22. Added translation

  23. Added translation

  24. Added translation

  25. Added information about if you have more than 2 children.

  26. Updated for changes to who can claim new style Jobseeker's Allowance from 1 January 2018 if you don't live in a Universal Credit full service area.

  27. Updated guide with new 0800 freephone numbers for Universal Credit.

  28. How to claim new style Jobseeker's Allowance information updated.

  29. First published.