Canllawiau

Diweddariad am wasanaethau DVLA

Diweddariadau am wasanaethau DVLA.

Ewch ar-lein

Ein gwasanaethau ar-lein yw’r ffordd gyflymaf, hawsaf ac, yn aml, rataf i ddelio â ni. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio’n gwasanaethau ar-lein lle bo modd. Os ydych yn gwneud cais ar-lein, dylech dderbyn eich trwydded yrru neu dystysgrif gofrestru cerbyd (V5CW) o fewn 5 diwrnod. Dyma rai o’n gwasanaethau ar-lein mwyaf poblogaidd:

Cofiwch, os ydych yn adnewyddu eich trwydded yrru cerdyn-llun, ac ni allwch ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein, gallwch wneud hwn yn gyflym a hawdd mewn canghennau Swyddfa’r Post sy’n delio â gwasanaethau DVLA. Mae’n gyflymach na phostio eich cais atom felly gwiriwch os ydych yn gymwys i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Drwy ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, gallwch ddisgwyl i’ch trwydded yrru gael ei chyhoeddi o fewn 5 diwrnod.

Gwasanaethau cownter swyddfa flaen

Ar ôl cyfnod o adolygu rôl gwasanaethau cownter swyddfa flaen, mae’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) wedi dyfarnu contract i Swyddfa’r Post Cyf i ddarparu rhai gwasanaethau DVLA. Dechreuodd y contract ar 1 Ebrill 2024 ac mae am flwyddyn, gydag opsiwn am 2 estyniad posibl pellach o un flynedd.

O dan y contract newydd, gall cwsmeriaid ddewis ymweld â changhennau perthnasol Swyddfa’r Post i drethu cerbyd neu adnewyddu trwydded yrru cerdyn-llun 10 mlynedd.

Yn ogystal â’r gwasanaethau cownter swyddfa flaen a gynigir yn Swyddfa’r Post, gall cwsmeriaid ddefnyddio GOV.UK ar gyfer gwasanaethau DVLA gan gynnwys adnewyddu eich trwydded yrru ar-lein a threthu eich cerbyd. Gallwch hefyd drethu’ch cerbyd dros y ffôn drwy ffonio 0300 123 4321.

Os oes arnoch angen trwydded yrru ryngwladol (IDP) i deithio dramor, gallwch gael un yn bersonol o rai siopau sydd â PayPoint.

Gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio

Nid oes unrhyw waith cynnal a chadw wedi’i gynllunio ar unrhyw un o’n gwasanaethau ar-lein.

Ceisiadau papur

Mae ein holl wasanaethau’n gweithredu o fewn amserau prosesu arferol.

Caniatewch 4 wythnos i’ch dogfennau newydd gael eu hanfon atoch os ydych yn gwneud cais drwy’r post. Peidiwch â’n ffonio ni o fewn y 4 wythnos hynny os gwelwch yn dda gan fydd eich cais yn cael ei brosesu ac ni fyddwn yn gallu darparu rhagor o wybodaeth.

Ceisiadau am drwyddedau gyrru meddygol (ceisiadau papur)

Os ydych wedi gwneud cais am eich trwydded yrru gyntaf, neu i adnewyddu neu amnewid eich trwydded yrru gyfredol ac nad ydych wedi datgan cyflwr meddygol, bydd hyn yn cymryd yn hirach. Peidiwch â chysylltu â DVLA i gael diweddariad os gwelwch yn dda, gan y byddwn yn cysylltu cyn gynted â bod penderfyniad trwyddedu wedi cael ei wneud neu os oes arnom angen rhagor o wybodaeth gennych chi neu’ch gweithiwr meddygol proffesiynol.

Wrth ystyried cais i gyhoeddi trwydded yrru, rydym yn anelu i wneud penderfyniad cyn gynted â phosibl ond lle mae angen gwybodaeth ychwanegol gan feddyg gyrrwr neu’r gyrrwr ei hunain, rydym yn llwyr ddibynnol ar dderbyn y wybodaeth hon cyn y gellir gwneud penderfyniad.

Gyrru tra bod cais gyda DVLA

Cofiwch, yn gyfreithiol mae’n rhaid ichi sicrhau eich bod bob amser yn bodloni’r safonau meddygol ar gyfer ffitrwydd i yrru wrth yrru. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am yrru â chyflwr meddygol.

Os yw’ch cais (gan gynnwys os ydych wedi datgan cyflwr meddygol) wedi cael ei anfon i DVLA efallai y byddwch yn gallu parhau i yrru tra rydym yn prosesu eich cais, yn ddarostyngedig i fodloni meini prawf penodol. Mae hyn yn gymwys ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o geisiadau, felly gwiriwch y meini prawf i weld os yw’n bosib y byddwch yn gallu parhau i yrru drwy ddarllen y daflen ganllaw ‘Gaf i yrru tra bod fy nghais gyda DVLA?’.

Dogfennau adnabod

Os bydd angen ichi gynnwys prawf adnabod gyda’ch cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon yr hyn sy’n ofynnol yn unig a’ch bod yn gwirio’r gofynion ar GOV.UK cyn ichi bostio’ch cais.

Nid oes angen anfon pasbort y DU atom os byddwch wedi nodi rhif pasbort ar eich ffurflen gais.

Os oes angen ichi bostio dogfennau ID gwreiddiol fel pasbortau neu Ganiatâd Preswylio Biometrig atom, rydym yn argymell eich bod yn ystyried defnyddio post cofrestredig.

Cyhoeddwyd ar 13 May 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 April 2024 + show all updates
  1. Updated IDP provider information

  2. Updated information for customers to get an IDP

  3. Added 'Front office counter services' section.

  4. reference to vehicle tax reminder letters (V11), removed.

  5. Added section about vehicle tax reminder letters (V11).

  6. Updated Planned maintenance - "There is no upcoming planned maintenance on any of our online services."

  7. Updated Planned Maintenance section with a list of planned outages for Monday 7 August between 8pm and 10pm.

  8. Updated page with 'There is no upcoming planned maintenance on any of our online services'.

  9. Planned maintenance information added.

  10. Update to 'Planned maintenance': "There is no upcoming planned maintenance on any of our online services."

  11. Updated planned maintenance section with service outages taking place on 31 March 2023.

  12. Completion of essential maintenance on Sunday 5 March.

  13. Planned maintenance for Sunday 5 March 2023.

  14. - Paper applications processing times removed. - 'Planned Maintenance' subsection added. - 'Why are these taking longer?' subsection updated.

  15. First published.