Canllawiau

Y Dreth Deunydd Pacio Plastig: camau i’w cymryd

Os ydych wedi gweithgynhyrchu, neu wedi mewnforio, 10 tunnell neu fwy o ddeunydd pacio plastig yn ystod y 12 mis diwethaf, efallai y bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y dreth.

Mae angen i chi gofrestru ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig os ydych:

  • yn disgwyl gweithgynhyrchu yn y DU, neu fewnforio i’r DU, 10 tunnell neu fwy o gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig yn ystod y 30 diwrnod nesaf
  • wedi gweithgynhyrchu yn y DU, neu fewnforio i’r DU, 10 tunnell neu fwy o gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig yn ystod y 12 mis diwethaf

Bydd angen i chi dalu’r Dreth Deunydd Pacio Plastig os ydych wedi gweithgynhyrchu neu fewnforio cydrannau deunydd pacio plastig sy’n cynnwys llai na 30% o blastig wedi’i ailgylchu.

Ni ddylai deunydd pacio gynnwys plastig wedi’i ailgylchu oni bai ei fod wedi’i ganiatáu o dan reoliadau eraill a safonau diogelwch bwyd.

Daeth y dreth i rym ar 1 Ebrill 2022, a chaiff ei chodi ar gyfradd o:

  • £200 y dunnell fetrig o 1 Ebrill 2022 ymlaen
  • £210.82 y dunnell fetrig o 1 Ebrill 2023 ymlaen
  • £217.85 y dunnell o 1 Ebrill 2024 ymlaen

Yr hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud

  1. Gwiriwch pa ddeunydd pacio sy’n agored i’r Dreth Deunydd Pacio Plastig a diffiniadau cydrannau gorffenedig ac addasiadau sylweddol, er mwyn darganfod a yw’r deunydd pacio rydych yn ei weithgynhyrchu neu’n ei fewnforio yn agored i’r dreth.

  2. Cyfrifwch bwysau’r deunydd pacio rydych yn ei weithgynhyrchu neu’n ei fewnforio, i ddarganfod a oes rhaid i chi gofrestru ar gyfer y dreth.

  3. Dysgwch sut mae cofrestru.

  4. Gwiriwch pa gofnodion a chyfrifon y mae’n rhaid i chi eu cadw a sut mae cynnal diwydrwydd dyladwy.

  5. Dysgwch a allwch gael rhyddhad treth ar gydrannau sydd wedi eu hallforio a’u trosi.

  6. Dysgwch sut i gyflwyno’ch Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig.

## Cael help a chymorth

Os oes gennych gwestiwn ynghylch y Dreth Deunydd Pacio Plastig ac na allwch ddod o hyd i’r ateb yn yr arweiniad ar GOV.UK, gallwch ofyn i CThEM ei ateb. Dylech wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

I ddefnyddio’r ffurflen ar-lein i anfon cwestiwn, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn anfon eich cwestiwn.

Cyhoeddwyd ar 4 November 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 January 2024 + show all updates
  1. The rate of tax from 1 April 2024 has been added and is £217.85 per tonne.

  2. You must now look back 12 months from the last day of the month, to check how much finished plastic packaging components you manufactured and imported, instead of looking back from 1 April 2022.

  3. The rate of tax from 1 April 2023 has been added and is £210.82 per tonne.

  4. Added translation

  5. A link to guidance on how to carry out due diligence has been added.

  6. A link to information about which records and accounts you must keep for Plastic Packaging Tax has been added.

  7. First published.