Canllawiau

Credyd Cynhwysol: gwybodaeth bellach i deuluoedd

Diweddarwyd 8 April 2024

1. Y diffiniad o deulu

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn diffinio teulu fel hawlydd sengl neu hawlwyr mewn cwpl sy’n gyfrifol am un neu fwy o blant neu bobl ifanc sy’n gymwys (rhywun 16 - 19 oed sydd mewn addysg llawn amser nad yw’n addysg uwch neu mewn hyfforddiant).

Os ydych yn ofalwr teulu a ffrindiau, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel ‘Kinship carer’, sef rhywun sydd wedi cymryd cyfrifoldeb dros blentyn neu lysblentyn sydd ddim yn blentyn i chi oherwydd:

  • nid oes gan y plentyn rieni neu fod ganddynt rieni sy’n methu gofalu am y plentyn

  • mae’n debygol y byddai’r plentyn fel arall yn cael eu gofalu amdanynt gan awdurdod lleol oherwydd pryderon am les y plentyn

Gall unrhyw un wneud cais am Gredyd Cynhwysol – nid pawb all gael Credyd Cynhwysol, mae’n dibynu ar yr amgylchiadau.

2. Sut mae Credyd Cynhwysol yn eich cefnogi chi a’ch teulu

Mae Credyd Cynhwysol yn cefnogi eich teulu trwy daliadau misol rheolaidd, na fydd o reidrwydd yn dod i ben pan fyddwch yn dechrau gweithio.

Bydd Credyd Cynhwysol yn eich helpu i gyfuno gweithio gyda bod yn rhiant ac yn ei gwneud yn haws i chi gymryd swyddi rhan amser, hyblyg neu dros dro i’ch helpu i gael sgiliau gwerthfawr ac osgoi bylchau mewn CV.

Mae eich taliad Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar eich enillion, dim faint o oriau rydych yn eu gweithio – sy’n golygu mwy o hyblygrwydd i chi. Gallwch wneud cais am ystod ehangach o swyddi a dychwelyd i waith yn gynt oherwydd mae Credyd Cynhwysol yn ychwanegu at eich enillion os ydych ar incwm isel.

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gallech barhau i gael cymorth a chyngor ar gynyddu eich enillion tra rydych mewn gwaith.

3. Cymorth i blant

Telir Credyd Cynhwysol fel un taliad misol. Mae hyn yn cynnwys symiau i helpu cefnogi’ch plant.

Gallwch gael swm ychwanegol ar gyfer mwy na 2 o blant os:

Efallai y cewch y swm ychwanegol os byddwch yn dechrau gofalu am blentyn arall, yn dibynnu ar ba bryd y cawsant eu geni a faint o blant sydd gennych.

Bydd Credyd Cynhwysol yn cynnwys y swm ychwanegol hwn ar gyfer eich plant hyd nes:

  • diwedd mis Awst yn dilyn pen-blwydd pob plentyn yn 16 oed, neu

  • diwedd mis Awst ar ôl eu pen-blwydd yn 19 oed ar gyfer pob plentyn sy’n byw gartref o hyd ac sy’n cymryd rhan mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwy

Mae addysg neu hyfforddiant cymeradwy yn golygu eu bod naill ai: 

  • wedi ymrestru ar gwrs am fwy na 12 awr yr wythnos yn ystod amser tymor, ac yn astudio am gymwysterau fel TGAU, Lefel A, BTEC, Scottish Highers, SVQ neu NVQ hyd at lefel 3 

  • wedi cael eu derbyn ar hyfforddiant cymeradwy (gwiriwch gyda’r darparwr hyfforddiant os and ydych yn siwr)

4. Cymorth i blant anabl

Mae’r ychwanegiad plentyn anabl o Gredyd Cynhwysol yn helpu gyda’r costau ychwanegol o fagu plentyn anabl.

Bydd yr ychwanegiad Plentyn Anabl yn cael ei dalu naill ai ar gyfradd is neu uwch:

Mae’r gyfradd is ar gyfer plentyn sydd yn:

  • cael unrhyw gyfradd o unrhyw elfen o Lwfans Byw i’r Anabl ac eithrio’r gyfradd uchaf o’r elfen ofal

  • cael unrhyw gyfradd o unrhyw elfen o Daliad Annibyniaeth Personol ac eithrio’r gyfradd uwch o’r elfen bywyd bob dydd

Mae’r gyfradd uwch ar gyfer plentyn sydd yn:

  • cael y gyfradd uchf o’r elfen ofal o Lwfans Byw i’r Anabl

  • cael y gyfradd uwch o’r elfen bywyd bob dydd o Daliad Annibyniaeth Personol

  • ddall neu â nam difrifol ar y golwg

5. Cymorth gyda gofal plant

Os ydych yn rhiant gallwch hawlio yn ôl hyd at 85% o’ch costau gofal plant gwirioneddol a dalwyd allan.

Mewn unrhyw fis mae’r taliad hwn yn cael ei gapio. Gallech gael uchafswm o daliad gofal plant o:

  • £1,014.63 ar gyfer un plentyn

  • £1,739.37 ar gyfer 2 neu fwy o blant.

Os ydych yn gwneud cais gyda phartner, fel arfer bydd angen i’r ddau ohonoch fod mewn gwaith i dderbyn cymorth gyda chostau gofal plant cofrestredig. Mae’r help hwn ar gael pa waeth faint o oriau rydych yn eu gweithio.

Dywedwch wrthym yn syth pan fydd gennych gynnig swydd bendant. Gallwch hawlio costau gofal plant am o leiaf mis cyn i’ch swydd ddechrau.

Gallwch hawlio costau gofal plant am o leiaf mis ar ôl i’ch cyflogaeth ddod i ben.

Darllenwch fwy am gostau gofal plant a Chredyd Cynhwysol

Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym pan fydd eich amgylchiadau’n newid trwy fewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.

6. Pwy all wneud cais?

I gael Credyd Cynhwysol mae’n rhaid i chi:

  • fod yn byw yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon

  • bod yn 18 oed neu drosodd

  • bod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth

  • peidio â bod mewn addysg llawn amser

  • peidio â bod gyda chynilion neu gyfalaf dros £16,000

Gall unrhyw un wneud cais am Gredyd Cynhwysol – nid pawb all gael Credyd Cynhwysol, mae’n dibynu ar yr amgylchiadau.

Os ydych dros yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn, gallwch wneud cais os oes gennych bartner sydd o dan yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn. O 15 Mai 2019 ni fydd y mwyafrif o gyplau yn gallu hawlio Credyd Pensiwn nes bod y ddau bartner wedi cyrraedd oed cymhwyso Credyd Pensiwn.

Mewn rhai achosion efallai y gallwch gael Credyd Cynhwysol os ydych yn 16 neu 17 oed neu’n fyfyriwr llawn amser.

Mae’n rhaid i chi wneud cais ar y cyd fel cwpwl os ydych yn byw gyda’ch partner. Os nad yw un ohonoch yn gymwys, bydd eu cynilion ac incwm hwy yn parhau i gael ei gymryd i ystyriaeth.

Os ydych chi a’ch partner yn gwneud cais fel cwpwl mae’n rhaid i chi hefyd:

  • fyw yn yr un cyfeiriad

  • bod yn briod a’ch gilydd, yn bartneriaid sifil i’ch gilydd neu’n byw gyda’ch gilydd fel petaech yn briod

Darganfyddwch os gallwch wneud cais.

Myfyrwyr a phobl ar gredydau treth sydd wedi derbyn Hysbysiad Trosglwyddo gan DWP

Os ydych yn derbyn Hysbysiad Trosglwyddo gan DWP, yna nid yw rhai rheolau cymhwysedd Credyd Cynhwysol arferol yn berthnasol i chi. Y rhain yw:

  • os ydych yn derbyn credydau treth, gallwch wneud cais hyd yn oed os oes gennych arian, cynilion neu fuddsoddiadau o fwy na £16,000. Ar ôl 12 mis, bydd rheolau cymhwysedd arferol yn berthnasol

  • os ydych yn fyfyriwr, gallwch wneud cais os ydych chi neu’ch partner mewn addysg uwch llawn amser, fel mynd i’r brifysgol

Darganfyddwch fwy am symud i Gredyd Cynhwysol os ydych wedi derbyn Hysbysiad Trosglwyddo.

7. Yn gyfnewid am eich Credyd Cynhwysol

Os oes gennych blant ac rydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, bydd angen i chi enwebu prif ofalwr. Os ydych yn rhiant unigol, chi fydd y prif ofalwr yn awtomatig.

Os nad chi yw’r prif ofalwr ac nad ydych yn gweithio yn llawn amser, fel arfer bydd disgwyl i chi chwilio am waith llawn amser.

Os mai chi yw’r prif ofalwr, bydd beth a ddisgwylir gennych yn gyfnewid am gael Credyd Cynhwysol yn dibynnu ar oedran y plentyn ieuengaf yn eich cartref:

Oedran eich plentyn ieuengaf: Eich cyfrifoldebau
Dan 1 oed Nid fydd disgwyl i chi chwilio am waith.
1 oed Nid fydd disgwyl i chi chwilio am waith. Yr unig weithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith y bydd disgwyl i chi ei wneud yw i gael apwyntiadau rheolaidd i drafod cynlluniau i symud i mewn i waith yn y dyfodol.
2 oed Nid fydd disgwyl i chi chwilio am waith. Yr unig weithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith y bydd disgwyl i chi eu gwneud yw i gael apwyntiadau rheolaidd gyda Chredyd Cynhwysol a gweithgareddau paratoi at waith, fel ysgrifennu eich CV.
Rhwng 3 a 12 oed Bydd disgwyl i chi weithio uchafswm o 30 awr yr wythnos, neu dreulio hyd at 30 awr yr wythnos ar weithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith fel gwneud cais am swyddi.
13 oed a throsodd Bydd disgwyl i chi weithio hyd at 35 awr yr wythnos, neu dreulio hyd at 35 awr yr wythnos ar weithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith fel gwneud cais am swyddi.

Gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith, cyflyrau iechyd a chyfrifoldebau gofalu 

Gallai eich gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith gael eu lleihau neu eu dileu ymhellach os:

  • mae gennych gyflwr iechyd

  • mae gennych gyfrifoldebau gofalu am berson anabl

  • mae gan eich plentyn neu blentyn maeth anghenion gofal eithriadol

  • mae diffyg gofal plant am ddim, priodol neu fforddiadwy yn eich ardal

Trafodwch eich amgylchiadau personol gyda’ch anogwr gwaith. Bydd y math o waith, lleoliad, amseroedd teithio ac oriau y mae angen i chi fod ar gael yn seiliedig ar eich sefyllfa. 

Gofalwyr maeth

Os mai chi yw’r prif ofalwr maeth mewn cwpl maethu, neu ofalwr maeth unigol, mae angen i chi fynychu cyfweliadau i drafod cynlluniau ar gyfer symud i’r gwaith yn y dyfodol nes bod y plentyn yn 16 oed.

Gofalwyr ‘teulu a ffrindiau’

Yng Nghymru a Lloegr, mae gofalwr teulu a ffrindiau hefyd yn cael ei adnabod fel person cysylltiedig neu ofalwr sy’n berthynas. Yn yr Alban fe’u gelwir yn ‘connected persons carer’ neu ‘informal kinship carer’. 

Fel gofalwr teulu a ffrindiau, nid oes angen i chi weithio na gwneud gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith os yw’r plentyn wedi ymuno â’ch aelwyd o fewn y 12 mis diwethaf, ac mae’r plentyn rhwng 1 ac 16 oed.

Os nad ydych eisoes yn gweithio, rhaid i chi fynychu cyfweliadau i drafod cynlluniau ar gyfer symud i waith yn y dyfodol.

Os ydych eisoes yn gweithio neu’n dewis dechrau gweithio, gall Credyd Cynhwysol helpu i dalu am eich costau gofal plant.

Ar ddiwedd y cyfnod o 12 mis, bydd y pethau sy’n gysylltiedig â gwaith y mae angen i chi eu gwneud yn seiliedig ar oedran eich plentyn ieuengaf.

Gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith

Gyda Chredyd Cynhwysol, byddwch yn cael help i nodi’ch sgiliau a’r mathau o weithgareddau a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i waith. Bydd y rhain yn cael eu nodi yn eich ymrwymiad hawlydd.

Gall gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith y gallech fod angen eu gwneud cynnwys:

  • ffonio eich anogwr gwaith

  • creu a chynnal proffil ar-lein

  • gwella eich sgiliau chwiliad gwaith

  • cofrestru gydag asiantaeth cyflogaeth

  • chwilio am swyddi

  • gwneud cais am swyddi

  • chwilio am eirda

  • cymryd rhan mewn cyrsiau hyfforddi

  • camau eraill y cytunwyd arnynt a fydd yn cynyddu eich tebygrwydd o gael swydd

8. Ymrwymiad hawlydd

Ymrwymiad hawlydd yw eich cofnod o’r cyfrifoldebau rydych wedi’u derbyn mewn cyfnewid am gael Credyd Cynhwysol a’r goblygiadau o beidio â’u cwrdd. Gall eich taliadau Credyd Cynhwysol gael eu torri os na fyddwch yn cwrdd â’ch gofynion.

Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol fel cwpl, bydd angen i’r ddau ohonoch dderbyn ymrwymiad hawlydd. Bydd gennych eich Ymrwymiad Hawlydd eich hunan a gall un chi gael ei effeithio os yw eich partner yn dechrau gweithio neu fod eu hamgylchiadau yn newid.

9. Sancsiynau

Os nad ydych yn gwneud yr hyn rydych chi wedi cytuno i’w wneud i ddod o hyd i waith yn eich ymrwymiad hawlydd, er enghraifft, methu mynychu apwyntiadau neu droi i lawr cynigion am swyddi efallai y byddwch yn cael sancsiwn.

Mae sancsiwn yn ostyngiad yn eich budd-dal sy’n cael ei osod os credwn nad ydych wedi cwblhau gweithgaredd gorfodol rydych wedi cytuno ei wneud yn eich Ymrwymiad Hawlydd ac nad ydych yn gallu rhoi rheswm da i egluro pam. Sancsiynau yw’r dewis olaf a bob amser fe ofynnir i chi am eich rhesymau dros eich gweithredoedd cyn i benderfyniad gael ei wneud.

Os yw sancsiwn yn cael ei roi ar eich Credyd Cynhwysol byddwn yn dweud wrthych faint y byddwch yn ei golli ac am ba hyd.

10. Os ydych yn cael credydau treth ar hyn o bryd

Mae Credyd Cynhwysol yn disodli Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith.

Os ydych yn cael credydau treth, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth oni bai:

Ni allwch hawlio Credyd Cynhwysol a chredydau treth ar yr un pryd.

11. Taliadau Credyd Cynhwysol

Byddwch yn derbyn taliad Credyd Cynhwysol misol - dwywaith y mis ar gyfer rhai pobl yn yr Alban.

Os ydych yn hawlio gyda phartner, bydd hwn yn cwmpasu’r ddau ohonoch. Bydd hwn yn cael ei dalu i gyfrif addas o’ch dewis chi, a all fod yn gyfrif ar y cyd neu gyfrif sengl yn unai eich enw chi neu enw eich partner.

Bydd oedolion eraill sy’n byw yn yr un cartref sy’n gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yn cael eu talu ar wahân.

Mae taliadau misol yn cyd-fynd a’r ffordd mae’r rhan fwyaf o gyflogau yn cael eu talu. Gall hyn eich helpu i baratoi ar gyfer a rheoli’r byd gwaith wrth i chi ddod i arfer â thrin eich arian yn fisol.

12. Sut mae’r taliad yn cael ei wneud i fyny

Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei wneud i fyny o symiau gwahanol yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Gall gynnwys cymorth ar gyfer costau tai, plant a gofal plant yn ogystal â chymorth ar gyfer pobl anabl a gofalwyr.

Os yw eich Credyd Cynhwysol yn cynnwys help tuag at eich rhent y chi fydd yn gyfrifol am ddefnyddio’r arian hwn i dalu eich landlord eich hunan.

Os ydych yn byw yn yr Alban gofynnir i chi os ydych eisiau i’r swm ar gyfer tai gael ei dalu yn syth i’ch landlord.

Mae eich taliad Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar eich enillion, nid faint o oriau rydych yn eu gweithio. Mae hyn yn golygu bod y system yn fwy hyblyg ac yn ei gwneud yn haws i chi gymryd gwaith, gan wybod y byddwch bob amser yn well eich byd os ydych yn gwneud hynny.

Wrth i’ch enillion gynyddu, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn lleihau yn raddol.

13. Oa nad yw eich partner yn caniatáu mynediad i chi i’r taliad

Os oes gennych unrhyw bryderon am gael mynediad at eich taliadau ac rydych angen trafod trefniadau talu amgen, gallwch gysylltu â’ch anogwr gwaith drwy fewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol.

Mae trefniadau talu amgen yn cael eu hystyried ar sail achos wrth achos ac yn cael a’u hasesu yn ôl eu rhinweddau unigol. Mae hyn yn caniatáu i daliad cartref i gael ei rannu. Lle bynnag y bo’n bosibl, bydd y trefniadau talu amgen hyn dros dro tra rydych yn cymryd camau i wella’r ffordd rydych yn rheoli eich arian.

14. Sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio gyda’r cynllun Gofal Plant Di-dreth?

Darganfyddwch am y Cynllun Gofal Plant Di-dreth a chostau gofal plant Credyd Cynhwysol i’ch helpu i wneud penderfyniad.

15. Budd-dal Plant

Bydd Budd-dal Plant yn parhau i gael ei dalu ar wahân ac ni fydd yn effeithio ar eich taliadau Credyd Cynhwysol.

16. Taliadau cynhaliaeth plant

Ni fydd unrhyw daliadau cynhaliaeth plant a gewch yn effeithio ar eich taliadau Credyd Cynhwysol.

17. Beth fydd yn digwydd os byddaf i neu fy mhartner yn cael swydd?

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau pan fydd eich amgylchiadau’n newid, gan gynnwys pan fyddwch yn dechrau gweithio, ennill mwy neu’n gweithio mwy o oriau. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gallech barhau i gael cymorth a chyngor ar gynyddu eich enillion tra rydych mewn gwaith.

Gallwch ennill swm penodol cyn i’ch taliadau Credyd Cynhwysol gael eu lleihau. Gelwir hyn yn eich lwfans gwaith. Os ydych yn ennill llai na hyn, bydd unrhyw beth rydych yn ei ennill yn incwm ychwanegol y gallwch ei gadw.

Os nad ydych yn dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau eich bod wedi dechrau gweithio, ni fyddant yn gwybod pam nad ydych bellach yn mynychu eich apwyntiadau, a byddant yn cymryd yn ganiataol nad ydych bellach yn dymuno cael Credyd Cynhwysol. Gall hyn olygu eich bod yn colli allan ar daliadau budd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.

18. Newid mewn amgylchiadau

Mae angen i chi ddweud am newid i’ch amgylchiadau er mwn i chi barhau i gael y swm cywir bob mis.

Efallai bydd eich cais yn cael ei stopio neu ei leihau os na fyddwch yn dweud am newid yn eich amgylchiadau ar unwaith.

Gall newidiadau gynnwys:

  • dod o hyd i neu orffen swydd

  • cael plentyn

  • symud i mewn gyda’ch partner

  • dechrau gofalu am blentyn

  • symud i gyfeiriad newydd

  • newid eich manylion banc

  • eich rhent yn mynd i fyny neu i lawr

  • newidiadau i’ch cyflwr iechyd

  • dod yn rhy sâl i weithio neu i gyfarfod â’ch anogwr gwaith

  • newidiadau i’ch enillion (dim ond os ydych yn hunangyflogedig)

Gallwch ddweud am newid mewn amgylchiadau drwy fewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.