Skip to main content
Emergency Alerts

This is a new service that is being trialled – your feedback will help us to improve it.

Am Rybuddion Argyfwng


Does dim rhybuddion argyfwng ar hyn o bryd.


Gwasanaeth llywodraeth y DU yw Rhybuddion Argyfwng sy’n rhoi rhybudd a chyngor mewn argyfwng sy’n peryglu bywyd.

Does dim angen i'r llywodraeth wybod eich rhif ffôn na'ch lleoliad er mwyn anfon rhybudd atoch.

Rhoi gwybod am sgamiau a gwe-rwydo

Ni fydd y gwasanaeth Rhybuddion Argyfwng byth yn anfon negeseuon e-bost atoch chi na byth yn gofyn i chi roi eich manylion personol. Mae arweiniad am y gwasanaeth a manylion rhybuddion y gorffennol ar gael ar y safle hwn. Gallwch chi hefyd wirio ai rhybudd go iawn rydych chi wedi ei dderbyn.

Os cewch chi neges e-bost, gallai fod yn ymgais i we-rwydo neu sgam. Rhowch wybod am unrhyw beth sy'n ymddangos yn amheus i chi.

Rhesymau pam y gallech gael rhybudd

Gallech gael rhybuddion am unrhyw fath o argyfwng sy’n peryglu bywyd, megis:

  • tanau gwyllt
  • llifogydd difrifol
  • stormydd eithafol

Anfonir rhybuddion argyfwng yn unig drwy:

  • y gwasanaethau brys
  • adrannau'r llywodraeth, asiantaethau a chyrff cyhoeddus sy'n ymdrin ag argyfyngau

Beth sy'n digwydd pan gewch chi rybudd argyfwng

Gallai eich ffôn symudol neu dabled:

  • wneud sŵn uchel tebyg i seiren, hyd yn oed os yw ar osodiad tawel
  • dirgrynu
  • darllen y rhybudd yn uchel

Bydd y sŵn a'r dirgryniad yn parhau am ryw 10 eiliad.

Bydd rhybudd yn cynnwys rhif ffôn neu ddolen at wefan GOV.UK am ragor o wybodaeth.

Cewch rybuddion ar sail eich lleoliad presennol – nid lle rydych chi'n byw neu'n gweithio. Does dim angen i chi droi gwasanaethau lleoliad ymlaen i gael rhybuddion.

Beth sydd angen i chi ei wneud

Pan gewch chi rybudd, stopiwch beth rydych chi'n ei wneud a dilynwch y cyfarwyddiadau yn y rhybudd.

Os ydych chi'n gyrru neu'n reidio pan gewch chi rybudd

Peidiwch â darllen nac ymateb i rybudd argyfwng wrth yrru neu reidio.

Dewch o hyd i rywle diogel a chyfreithion i stopio cyn darllen y neges. Os nad oes unrhyw le diogel a chyfreithlon i stopio, a neb arall yn y cerbyd i ddarllen y rhybudd, gallwch wrando ar newyddion ar radio byw i gael gwybod am yr argyfwng.

Mae defnyddio dyfais llaw wrth yrru neu reidio yn erbyn y gyfraith.

Os na allwch chi dderbyn rhybuddion argyfwng

Os nad oes gennych chi ddyfais gydweddol, rhoddir gwybod o hyd i chi am argyfwng. Mae gan y gwasanaethau brys ffyrdd eraill o'ch rhybuddio pan fydd bygythiad i fywyd.

Ni fydd rhybuddion argyfwng yn disodli newyddion lleol, radio, teledu na'r cyfryngau cymdeithasol.

Os ydych chi'n fyddar, yn drwm eich clyw, yn ddall neu'n rhannol ddall

Os oes gennych nam ar eich golwg neu'ch clyw, bydd signalau sylw sain a dirgrynu yn rhoi gwybod i chi fod gennych chi rybudd argyfwng os yw hysbysiadau hygyrchedd wedi eu galluogi ar eich ffôn symudol neu dabled.

Ieithoedd y rhybuddion

Anfonir rhybuddion argyfwng yn y Saesneg. Yng Nghymru, gellir hefyd eu hanfon yn y Gymraeg.