Sut mae'r rhybuddion argyfwng yn gweithio

Mewn argyfwng, bydd mastiau ffonau symudol yn yr ardal oddi amgylch yn darlledu rhybudd. Bydd pob ffôn symudol neu lechen gydweddol o fewn cyrraedd y mastiau hyn yn cael y rhybudd.

Mae rhybuddion argyfwng yn gweithio ar bob un o rwydweithiau ffôn 4G a 5G y DU.

Does dim angen bod eich ffôn symudol na'ch llechen wedi'u cysylltu â data symudol neu wifi i gael rhybuddion.

Mae rhybuddion argyfwng yn rhad ac am ddim. Does dim angen i chi lofnodi ar eu cyfer na lawrlwytho ap.

Rhesymau na chewch chi rybuddion

Ni chewch chi rybuddion os yw eich dyfais:

  • wedi ei diffodd neu ar fodd awyren
  • wedi ei chysylltu â rhwydwaith 2G neu 3G
  • ar wifi yn unig
  • yn anghydweddol

Ffonau symudol a dyfeisiau eraill cydweddol

Gwnewch yn siŵr fod gan eich dyfais yr holl ddiweddariadau meddalwedd diweddaraf.

Mae rhybuddion argyfwng yn gweithio ar y canlynol:

  • Ffonau iPhone sy'n rhedeg iOS 14.5 neu systemau diweddarach
  • Ffonau a llechi Android sy'n rhedeg Android 11 neu systemau diweddarach

Os oes gennych chi fersiwn Android cynharach, efallai y bydd modd o hyd i chi gael rhybuddion. I wirio, chwiliwch osodiadau'ch dyfais am ‘osodiadau argyfwng’.

Os hoffech weld rhybudd eto

I weld rhybudd eto, ewch i rybuddion presennol neu rybuddion y gorffennol.

Gallwch chi hefyd chwilio am rybuddion argyfwng ar eich ffôn symudol neu'ch llechen.

Os cewch chi negeseuon atgoffa am rybudd

Efallai y caiff ffonau symudol a llechi Android fwy nag un neges atgoffa am yr un rhybudd argyfwng. Gallwch ddiffodd y negeseuon rhybudd hyn trwy'r gosodiadau ‘rhybuddion argyfwng’ ar eich dyfais.

Optio allan o rybuddion argyfwng

Gallwch optio allan o rybuddion argyfwng, ond dylech eu cadw ymlaen er eich diogelwch eich hun.

I optio allan:

    1. Chwiliwch am ‘rybuddion argyfwng’ yn eich gosodiadau.
    2. Diffoddwch ‘rybuddion difrifol’ a ‘rhybuddion eithafol’.

Os byddwch chi'n dal i dderbyn rhybuddion, cysylltwch â gwneuthurwr eich dyfais i gael cymorth.

Eich data personol

Does dim angen bod gan y gwasanaethau brys na llywodraeth y DU eich rhif ffôn er mwyn anfon rhybudd atoch chi.

Ni chaiff data amdanoch chi, eich dyfais na'ch lleoliad eu casglu na'u rhannu.