Profion gweithredwyr
Yn achlysurol, bydd y llywodraeth a gweithredwyr rhwydweithiau symudol yn cynnal profion gweithredwyr.
Mae hyn er mwyn asesu gwelliannau technolegol sydd wedi eu gwneud i’r gwasanaeth rhybuddion argyfwng.
Ni fydd y rhan fwyaf o ffonau symudol a thabledi’n cael rhybudd prawf gweithredwr.
Bydd gan y rhybuddion hyn 'gweithredwr' bob amser yn y teitl a byddant yn cadarnhau nad oes angen gweithredu. Nid yw profion gweithredwr yn eich rhybuddio am berygl gwirioneddol.
Os cewch rybudd prawf gweithredwr, gall eich ffôn wneud sain debyg i seiren uchel am tua 10 eiliad, oni bai ei fod ar ddull tawel.
Optio allan o hysbysiadau prawf gweithredwr
Mae’r ffordd rydych chi’n optio allan yn dibynnu ar ba ffôn sydd gennych chi. Os ydych chi’n parhau i gael rhybuddion prawf gweithredydd ar ôl optio allan, cysylltwch â’ch gwneuthurwr ffôn am help.
Ffonau Android a thabledi
I atal derbyn rhybuddion profion gweithredydd, chwiliwch osodiadau eich ffôn am ‘rybuddion argyfwng’ a diffoddwch ‘rybuddion prawf’, ‘rhybuddion ymarfer’, ‘wedi’u diffinio gan weithredydd’ a ‘rhybuddion gweithredydd’. Os na allwch chi eu gweld yn eich gosodiadau:
- agorwch eich ap galwadau ffôn
- defnyddiwch y bysellbad i fewngofnodi *#*#2627#*#*
- chwiliwch osodiadau eich ffôn am ‘rybuddion argyfwng’ a diffoddwch ‘rybuddion prawf’, ‘rhybuddion ymarfer’, ‘wedi’u diffinio gan weithredydd’ a ‘rhybuddion gweithredydd’
Ffonau symudol a thabledi eraill
Yn dibynnu ar fersiwn gwneuthurwr a meddalwedd eich ffôn, gellir galw gosodiadau rhybuddion brys yn enwau gwahanol, megis ‘rhybuddion argyfwng diwifr’ neu ‘ddarllediadau argyfwng’.
Gellir dod o hyd i’r gosodiadau fel arfer mewn un o’r ffyrdd canlynol. Ewch i:
- ‘neges’, wedyn ‘gosodiadau negeseuon’, wedyn ‘rhybuddion argyfwng diwifr’, wedyn ‘rhybudd’
- ‘gosodiadau’, wedyn ‘synau’, wedyn ‘uwch’, wedyn ‘darllediadau argyfwng’
- ‘gosodiadau’, wedyn ‘gosodiadau cyffredinol’, wedyn ‘rhybuddion argyfwng’
Wedyn diffoddwch ‘rhybuddion prawf’, ‘rhybuddion ymarfer’, ‘rhybuddion wedi’u diffinio gan weithredydd’ a ‘rhybuddion gweithredydd’.