Gwneud cais gwrthrych am wybodaeth i CThEM
Dysgwch sut i wneud cais i gael mynediad at ddata personol sydd gan CThEM amdanoch chi, neu am rywun sydd wedi marw.
Trosolwg
Mae gennych yr hawl i ofyn am gael mynediad at eich data personol; gelwir hyn yn gais gwrthrych am wybodaeth (SAR).
Mae hyn yn eich galluogi i gael copi o’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch a gwirio ein bod yn ei phrosesu’n gyfreithlon.
Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, mae gennym hawl gyfreithiol i godi ffi resymol arnoch os yw’ch cais am fynediad yn ddi-sail neu’n ormodol. Gallwn hefyd wrthod bodloni’ch cais yn yr amgylchiadau hyn.
Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau tuag at ddiogelu data o ddifrif. Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn esbonio sut yr ydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol amdanoch chi yn unol â chyfraith diogelu data.
Byddwn yn gweithredu’r cais yn ddi-oed, cyn pen mis i’w gael. Gallwn ymestyn yr amser i ymateb o ddeufis arall os yw’r cais yn gymhleth neu os ydym wedi cael llawer o geisiadau gan yr un person.
Gallwch ofyn am unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch, megis:
- hanes cyflogaeth
- cofnod enillion
- treth a dalwyd
- cyfraniadau Yswiriant Gwladol a dalwyd
- budd-daliadau a gafwyd
- cofnod o ohebiaeth ysgrifenedig neu alwadau ffôn
Gallwch ofyn i’ch cyfreithiwr, eich asiant treth neu aelod o’ch teulu ofyn am wybodaeth bersonol ar eich rhan. Bydd angen i chi lenwi ac argraffu ffurflen ganiatâd CThEM neu ysgrifennu llythyr sy’n cadarnhau’r union wybodaeth y gallwn ei hanfon atynt. Bydd angen iddynt gynnwys y caniatâd hwn gyda’u cais a’i anfon drwy’r post.
Dysgwch fwy am beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn gwneud cais gwrthrych am wybodaeth ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Gwneud SAR i CThEM
Os ydych eisoes yn delio ag un o’n hymgynghorwyr achos, gallwch gysylltu â nhw er mwyn gofyn am eich gwybodaeth.
Cyfrif Treth Personol
Gallwch fewngofnodi i’ch Cyfrif Treth Personol neu greu un er mwyn cael mynediad at eich data personol ar gyfer y 5 mlynedd diwethaf.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch na’r hyn a ddangosir bydd angen i chi gysylltu â ni.
Gwneud cais ar-lein
Gallwch lenwi’r ffurflen a’i hanfon ar-lein neu ei hargraffu a’i hanfon i’r cyfeiriad post.
Gofynnwch am wybodaeth am:
- eich credydau treth, Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, 30 awr o Ofal Plant sy’n Rhad ac am Ddim, Treth Incwm, Hunanasesiad, Budd-dal Plant, TAW, cofnodion tollau a chofnodion eraill
- eich cofnod cyflogaeth, gan gynnwys blwyddyn dreth, cyflogwr, enillion, cofnod Yswiriant Gwladol a threth a dalwyd
Gwneud cais dros y ffôn neu drwy sgwrs dros y we
Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM er mwyn gofyn am wybodaeth.
Gwneud cais ysgrifenedig
Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch am y canlynol:
- yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch
- y blynyddoedd perthnasol y mae angen yr wybodaeth arnoch ar eu cyfer
- y rheswm dros y cais
Bydd angen i chi hefyd gadarnhau pwy ydych drwy anfon y manylion canlynol at CThEM:
- eich enw llawn
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- eich dyddiad geni
- hanes eich cyfeiriad dros y 5 mlynedd diwethaf
- eich llofnod gwreiddiol (nid oes angen hwn ar gyfer ceisiadau ar-lein)
Dylai SARs sy’n ymwneud â Threth Incwm neu Yswiriant Gwladol gael eu hanfon i:
SARS/DPU
Cyllid a Thollau EM
Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM
HMRC
BX9 1ST
Anfonwch SARs sy’n ymwneud â chredydau treth, Budd-dal Plant, TAW, tollau a chofnodion eraill at y Swyddog Diogelu Data yn y swyddfa CThEM rydych wedi bod yn delio â hi.
Gofyn am eich hanes cyflogaeth er mwyn hawlio iawndal
Gallwch wneud cais i gael gwybodaeth am eich hanes cyflogaeth er mwyn ategu hawliad am iawndal neu gymorth.
Gofyn am wybodaeth am rywun sydd wedi marw
Gallwch wneud cais i gael gwybodaeth rhywun sydd wedi marw er mwyn setlo Yswiriant Gwladol neu Dreth Incwm os oes gennych ganiatâd cyfreithiol i wneud hynny ar ran ei ystâd.
Gofyn am wybodaeth gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Dilynwch yr arweiniad ar gyfer Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 June 2021 + show all updates
-
Overview and Make a SAR to HMRC sections have been updated.
-
Information about where to send a SAR for Income Tax has been updated.
-
The 'Make a SAR to HMRC' apply online section has been updated.
-
Information about your rights to request personal information, any fees you may have to pay, and how long this may take has been added to the guidance.
-
Address to send Subject Access Requests has been updated.
-
Information about making a subject access request for tax credits, Income Tax, Child Benefit, VAT, customs and other records has been added.
-
The address to send the subject access request has been updated.
-
First published.