Canllawiau

Llenwi ffurflenni ID1 ac ID2

Canllaw ar lenwi ffurflenni ID1: Tystysgrif hunaniaeth ar gyfer unigolyn preifat, ac ID2: Tystysgrif hunaniaeth ar gyfer corff corfforedig.

Applies to England and Wales

Tystiolaeth hunaniaeth

Rhaid ichi ddarparu tystiolaeth hunaniaeth ar gyfer unrhyw barti (a’r sawl sy’n cyflwyno’r cais os yw’n wahanol) sydd heb gynrychiolaeth gyfreithiol.

Rhaid i’r dystiolaeth fod ar ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 a rhaid i bob person unigol sy’n barti i’r trafodion uchod sydd heb gynrychiolaeth gyfreithiol eu llenwi. Mae’r gofyniad hwn yn gymwys i unigolion preifat a chyrff corfforaethol fel cwmnïau.

Mae’r ddwy ffurflen ar gael i’w llwytho i lawr yn rhad ac am ddim o’n gwefan neu trwy ffonio’n cymorth i gwsmeriaid. Rhaid i ddwy ran y ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 a gyflwynir i gefnogi cais gael eu dyddio a’u llofnodi dim mwy na thri mis cyn adeg y cyflwyno.

Nid yw ffurflenni ID1 ac ID2 wedi eu llenwi yn agored i’r cyhoedd eu harchwilio ac fel rheol ni all person wneud cais am gopi swyddogol ohonynt. Ceir darpariaethau arbennig yn Rheolau Cofrestru Tir 2003 i ganiatáu archwiliad gan unigolion penodol, mewn rhai sefyllfaoedd sy’n gysylltiedig ag achosion llys, ansolfedd ac ymchwiliadau rhwymedigaeth treth. Rydym yn gobeithio y byddwch yn deall pam y mae angen tystiolaeth hunaniaeth arnom. Er y gall y gofyniad hwn ymddangos yn faich, credwn ei fod yn hanfodol i helpu i frwydro yn erbyn lladrad hunaniaeth a thwyll. Mae ein gofynion yn debyg i’r gwiriadau hunaniaeth a wneir gan sefydliadau eraill, gan gynnwys banciau.

Rhybudd am dwyll


Os oes gofyniad i gadarnhau hunaniaeth neu i ddarparu tystiolaeth hunaniaeth, ac rydych yn rhoi gwybodaeth mewn modd anonest neu’n gwneud datganiad y gwyddoch ei fod, neu a allai fod yn anwir neu’n gamarweiniol, ac yn bwriadu, trwy wneud hynny, gynnig mantais i chi neu rywun arall, neu achosi colled neu’r risg o golled i rywun arall, gallech fod yn cyflawni’r trosedd o dwyll o dan adran 1 o Ddeddf Twyll 2006, a’r uchafgosb ar gyfer hyn yw carchar o 10 mlynedd neu ddirwy ddiderfyn, neu’r ddau.

Pryd ac ar gyfer pwy y bydd angen cadarnhad o hunaniaeth ar Gofrestrfa Tir EF

Mae angen cadarnhad o hunaniaeth arnom ar gyfer y mathau o drafodion a’r bobl a ddangosir yn y tabl canlynol, yn ogystal â’r unigolyn sy’n cyflwyno’r cais, os yw’n wahanol. Gweler hefyd yr eithriadau a grybwyllir islaw’r tabl.

Gofynion cadarnhau hunaniaeth

Cais Unigolion y mae cadarnhad o hunaniaeth yn ofynnol ar eu cyfer
Trosglwyddo tir neu drosglwyddo morgais (p’un ai yw am arian ai peidio. Mae hefyd yn cynnwys trosglwyddiadau i benodi neu ddiswyddo ymddiriedolwr a chydsyniadau gan gynrychiolwyr personol Trosglwyddwr (gwerthwr), Trosglwyddai (prynwr), unrhyw atwrnai sy’n gweithredu ar ran y gwerthwr neu’r prynwr, unrhyw gynrychiolydd personol
Prydles (p’un ai yw am arian ai peidio) Landlord, Tenant, unrhyw atwrnai sy’n gweithredu ar ran y landlord neu’r tenant
Ildio prydles gofrestredig: cais i gau’r teitl prydlesol (yn cynnwys ildio trwy drosglwyddiad a thrwy weithredu’r gyfraith) Landlord, Tenant, unrhyw atwrnai sy’n gweithredu ar ran y landlord neu’r tenant
Morgais (arwystl): o dir cofrestredig neu dir digofrestredig ar gofrestriad cyntaf gorfodol Rhoddwr benthyg (arwystlai), Cymerwr benthyg (arwystlwr) unrhyw atwrnai sy’n gweithredu ar ran y rhoddwr benthyg neu’r cymerwr benthyg
Rhyddhau morgais ar bapur ar ffurflen DS1 neu ffurflen DS3 Rhoddwr benthyg
Mae cofrestriad cyntaf gorfodol yn esbonio pryd bydd cais am gofrestriad cyntaf yn orfodol Gwerthwr neu landlord, Prynwr neu denant, unrhyw atwrnai sy’n gweithredu ar ran yr uchod
Cofrestriad cyntaf gwirfoddol ond dim ond lle collwyd y gweithredoedd ac nid yw’r ceisydd yn drawsgludwr neu’n gorff corfforaethol adnabyddus a gollodd y gweithredoedd eu hunain Ceisydd am gofrestriad cyntaf fel perchennog y tir, gan gynnwys lle mai cynrychiolydd personol yw’r ceisydd, unrhyw atwrnai ar gyfer y ceisydd
Newid enw trwy weithred newid enw, datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd Yr unigolyn sy’n newid ei enw (yn ei enw newydd)
Newid cyfeiriad Yr unigolyn sy’n newid ei gyfeiriad

Eithriadau

Ceir rhai eithriadau, a nodir yn llawn yng nghyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth: trawsgludwyr. Y prif eithriadau sy’n effeithio ar geisiadau a anfonir gan rai nad ydynt yn drawsgludwyr lle nad oes angen cadarnhad o hunaniaeth arnom ar gyfer rhai neu bob parti yw:

  • prydles neu arwystl sy’n cael ei nodi’n unig yn y gofrestr
  • ceisiadau gwirfoddol am gofrestriad cyntaf oni bai bod y gweithredoedd teitl wedi cael eu colli neu eu dinistrio

Nid oes angen cadarnhad o hunaniaeth chwaith ar gyfer rhai partïon sydd eisoes yn gorfod anfon tystiolaeth o’u penodiad atom. Mae hyn yn cynnwys ymddiriedolwyr mewn methdaliad, datodwyr a dirprwyon Ddeddf Iechyd Meddwl (mae rhestr lawn ar gael yng nghyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth: trawsgludwyr). Mae’r eithriad hwn yn berthnasol pan fyddant yn bartïon i weithred, a phan fyddant yn anfon y cais o dan sylw atom eu hunain hefyd.

Sylwer er hynny bod cadarnhad o hunaniaeth yn ofynnol o hyd ar gyfer y buddiolwr o dan gydsyniad neu’r trosglwyddai o dan drosglwyddiad, a hefyd ar gyfer unrhyw unigolyn sy’n cyflwyno’r cais (oni bai mai ef/hi yw’r ymddiriedolwr mewn methdaliad ac ati, fel y cyfeirir ato yn y paragraff uchod). Mae hyn yn berthnasol mewn sefyllfaoedd lle y mae’r tir eisoes yn gofrestredig a hefyd lle gwneir cais am gofrestriad cyntaf gorfodol. Yn ychwanegol at yr uchod, nid oes angen cadarnhad o hunaniaeth arnom lle nad yw gwir werth y tir o dan sylw yn y gwarediad yn uwch na £6,000.

Llenwi ffurflenni ID1 ac ID2

Rhaid i unigolion preifat lenwi ffurflen ID1 a rhaid i gyrff corfforaethol lenwi ffurflen ID2.

Pan fydd parti i drafodiad yn cynnwys mwy nag un person, rhaid i bob un ohonynt lenwi ffurflen ID ar wahân a chyflwyno tystiolaeth o’u hunaniaeth.

Mae’r enghreifftiau canlynol yn helpu i ddangos pryd y mae tystiolaeth hunaniaeth yn ofynnol ac ar gyfer pwy.

  • mae cymydog A yn gwerthu rhan o’i ardd gefn i Gymydog B. Nid oes un ohonynt yn defnyddio trawsgludwr ac mae’r ddau yn unigolion preifat. Mae Cymydog B wedyn yn cyflwyno’r cais i gofrestru.

Mae angen ffurflenni ID1 ar wahân arnom gan Gymydog A fel y trosglwyddwr a Chymydog B fel y trosglwyddai.

  • Mae C yn morgeisio ei heiddo i D, sy’n gwneud cais i gofrestru’r morgais. Nid oes un ohonynt yn defnyddio trawsgludwr ac mae’r ddau yn unigolion preifat.

Mae angen ffurflenni ID1 ar wahân arnom gan C fel cymerwr benthyg a D fel rhoddwr benthyg.

  • mae E ac F yn trosglwyddo eu heiddo trwy rodd i G. Mae H yn cyflwyno’r cais i gofrestru ar ran G. Mae pob un yn unigolion preifat.

Bydd angen ffurflenni ID1 ar wahân arnom ar gyfer E ac F fel cyd-drosglwyddwyr, G fel y trosglwyddai a H fel yr unigolyn sy’n cyflwyno’r cais.

  • mae J, cwmni, yn rhyddhau morgais ac yn rhoi DS1 ar bapur i K, unigolyn preifat. Mae K yn cyflwyno’r rhyddhau ar gyfer cofrestru.

Bydd angen ffurflen ID2 ar gyfer J arnom a ffurflen ID1 ar gyfer K.

  • mae L yn gwerthu ei dŷ i M ond yn penodi atwrnai N i gyflawni’r trosglwyddiad. Mae M yn cyflwyno’r cais i gofrestru. Unigolion preifat yw L, M ac N.

Bydd angen ffurflenni ID1 ar wahân arnom ar gyfer L, M ac N.

Pa rannau o’r ffurflen i’w llenwi

Rhaid ichi lenwi adran A.

Rhaid i Adran B gael ei llenwi gan drawsgludwr, Swyddog Gweithredol Cyfreithiol Siartredig neu Ymarferydd Profiant Trwyddedig (a reoleiddir gan Gyngor y Trawsgludwyr Trwyddedig).

Cadarnhau hunaniaeth

Gallwch gael eich hunaniaeth wedi ei chadarnhau gan:

  • drawsgludwr
  • Swyddog Gweithredol Cyfreithiol Siartredig
  • Ymarferydd Profiant Trwyddedig (a reoleiddir gan Gyngor y Trawsgludwyr Trwyddedig)
  • pobl sy’n gweithio mewn proffesiwn penodol.

Efallai bydd trawsgludwyr, Swyddogion Gweithredol Cyfreithiol Siartredig neu Ymarferyddion Profiant yn codi tâl am y gwasanaeth hwn. Gweler adran 9 o gyfarwyddyd ymarfer 67 am restr lawn o broffesiynau a dderbynnir a’r ffurflenni sy’n ofynnol ar gyfer cadarnhau gan berson nad yw’n drawsgludwr.

Bydd angen ichi gymryd y dystiolaeth hunaniaeth a grybwyllir yn adran B3 ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 gyda chi, ynghyd â llun pasbort a dynnwyd yn ystod y tri mis diwethaf (bydd angen dau gopi o’r llun arnoch os ydych yn mynd i drawsgludwr, oherwydd bydd angen copi ar gyfer eu cofnodion). Rhaid i’r llun gael ei argraffu ar bapur ffotograffig a rhaid bod eich wyneb i’w weld yn glir. Gall ffurflenni hunaniaeth gael eu gwrthod os nad yw hyn yn wir.

Os yw trawsgludwr yn cadarnhau eich hunaniaeth ac yna rydych yn cyflwyno’ch cais trwy’r post, gallwn wneud gwiriadau ychwanegol i fodloni ein hunain bod popeth mewn trefn.

Er mwyn dod o fewn diffiniad trawsgludwr yn rheol 217A o Reolau Cofrestru Tir 2003 rhaid i unigolyn gael ei awdurdodi o dan Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 i ddarparu gwasanaethau trawsgludo; i bob pwrpas rhaid iddynt gael tystysgrif ymarfer. Os gwneir y cadarnhau gan unigolyn sydd wedi nodi’n glir ar y ffurflen ID ei fod wedi ymddeol neu nad yw’n ymarfer, mae’n debygol y caiff ymholiad ei godi. Ni all paragyfreithwyr gadarnhau hunaniaeth chwaith gan nad ydynt yn dod o fewn diffiniad rheol 217A o drawsgludwr. Nid yw pob Swyddog Gweithredol Cyfreithiol Siartredig ac Ymarferydd Profiant Trwyddedig yn drawsgludwr, ond mae Cofrestrfa Tir EF wedi cytuno y gall y rhain gadarnhau hunaniaeth at ddibenion cofrestru tir.

Cadarnhau hunaniaeth pobl sy’n byw dramor

Pan fo person yn preswylio dramor ac nid yw’n bosibl i’w hunaniaeth gael ei chadarnhau gan drawsgludwr y DU, dylai adran B ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 gael ei llenwi a’i llofnodi gan gyfreithiwr neu notari cyhoeddus sy’n gymwys i ymarfer yn y wlad y mae’r unigolyn yn byw ynddi. Dylai’r ffurflen gael ei diwygio i gynnwys cadarnhad o’r wlad y mae’r cyfreithiwr neu’r notari cyhoeddus yn gymwys i ymarfer ynddi, cadarnhad eu bod yn gymwys i ymarfer ac enw a chyfeiriad y corff gyda’r hwn y maent yn gofrestredig i ymarfer.

Bydd ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 yn ofynnol bob amser. Ni ellir defnyddio’r opsiwn yn ffurflenni AP1, FR1 a DS2 y cymerwyd camau digonol i gadarnhau hunaniaeth rhywun.

Cadarnhau hunaniaeth gan swyddog sy’n gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU sy’n gweithredu dramor

Pan fydd aelod o luoedd arfog y DU yn gwasanaethu dramor, gall gael ei hunaniaeth wedi ei chadarnhau gan swyddog sydd hefyd yn gwasanaethu dramor gydag ef. Yn y sefyllfa hon, rhaid i’r cadarnhäwr ddarparu ei rif pasbort.

Gofynion hunaniaeth lle mae dau neu ragor o geisiadau yn cael eu cyflwyno ar yr un pryd

Os ydych yn bwriadu cyflwyno dau neu ragor o geisiadau ar yr un pryd, ac yn yr un swyddfa, a’r un bobl yw’r partïon gyfer y ceisiadau hynny (sydd heb gynrychiolaeth gyfreithiol), dim ond un set o dystiolaeth hunaniaeth ar gyfer pob un o’r partïon hynny ar gyfer yr holl geisiadau y mae’n rhaid ei darparu.

Os bydd y partïon yn y ceisiadau (sydd heb gynrychiolaeth gyfreithiol) yn wahanol, bydd tystiolaeth hunaniaeth yn ofynnol ar gyfer pob parti ar wahân.

Eiddo lle nad yw’r gwir werth dros 6,000

Nid oes yn rhaid ichi gadarnhau hunaniaeth y rheiny sy’n ymwneud â thrafodion lle nad yw gwir werth y tir sy’n destun y gwarediad dros £6,000. Yn yr achosion hyn gallwch yn lle hynny gyflwyno tystysgrif gan rywun sy’n gymwys i roi prisiadau eiddo yn cadarnhau gwerth y tir, er enghraifft gwerthwr tai, arolygwr tir, prisiwr tir ac eiddo neu arwerthwr sy’n dal cymhwyster gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig neu ryw berson arall sydd â chymhwyster tebyg.

Gallwch ddarparu tystiolaeth hunaniaeth o hyd os yw’n well gennych, ac rydym hefyd yn cadw’r hawl i fynnu tystiolaeth hunaniaeth ar ffurflen ID1 neu ffurflen ID2, mewn unrhyw achos penodol.

Trefniadau llythyr cyfleuster

Mae Cofrestrfa Tir EF wedi cyhoeddi ‘llythyrau cyfleuster’ ar gyfer nifer gyfyngedig o bobl sy’n ymwneud yn rheolaidd â Chofrestrfa Tir EF. Mae’r rhain yn eithrio’r unigolion hyn o’n gofynion hunaniaeth arferol. Rhaid amgáu copi o’r llythyr cyfleuster gydag unrhyw gais lle mae angen cadarnhad o hunaniaeth fel arfer, yn lle ffurflen ID1 neu ffurflen ID2.

Dim ond lle nad yw gwerth yr eiddo’n uwch na £100,000 y gellir defnyddio llythyr cyfleuster.

Ar hyn o bryd, mae Cofrestrfa Tir EF yn derbyn ceisiadau am lythyrau cyfleuster a fydd yn ddilys am gyfnod o 12 mis. Os caiff llythyr cyfleuster ei adnewyddu ar ôl y 12 mis, bydd cyflwyno ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 pellach yn ofynnol.

Cymorth pellach yn ofynnol

Os oes angen cymorth pellach arnoch oherwydd eich cyflwr neu amgylchiadau, cysylltwch â ni.

Anfon eich ffurflenni

Anfonwch y ffurflen(ni) wedi ei llenwi i’n Canolfan Dinasyddion – gweler cyfeiriad Cofrestrfa Tir EF ar gyfer ceisiadau.

Cyhoeddwyd ar 19 August 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 February 2024 + show all updates
  1. Guidance amended as a result of amendments to form ID3 and the withdrawal of form ID4.

  2. The guidance has been amended as CLC-regulated licensed probate practitioners can now verify identity on forms ID1 and ID2.

  3. Following a review of our practice, a personal representative who assents or transfers land has been removed from the exception status and must now provide evidence of identity with any such application.

  4. Amended to reflect our current identity policy which is contained in practice guide 67.

  5. Updated to reflect our current identity policy.

  6. The guidance has been amended as we will currently accept forms ID1 and ID2 dated up to 6 months before lodgement.

  7. We've added a link to practice guide 67a: temporary changes to HM Land Registry’s evidence of identity requirements. The guide provides information on how to verify your identity for land registration purposes during the coronavirus (COVID-19) outbreak. We've also updated the 'Facility letter arrangements' section to advise we're not accepting applications for new facility letters until further notice.

  8. CILEx Conveyancing Practitioners, Chartered Legal Executive Conveyancing Practitioners, Chartered Legal Executives and officers of the UK armed forces for members of the UK armed forces serving overseas can now also verify identity.

  9. First published.