Cyfarwyddyd ymarfer 80: coronafeirws (COVID-19): gwybodaeth ddefnyddiol i drawsgludwyr
Diweddarwyd 16 January 2023
Applies to England and Wales
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1. Llofnodi gweithredoedd a dogfennau
1.1 Awdurdodau lleol yn cyflawni gweithredoedd
Ar hyn o bryd, ni all llawer o awdurdodau lleol wneud trefniadau ar gyfer cyflawni gweithredoedd yn unol â’u trefniadau arbennig sefydledig â Chofrestrfa Tir EF. Mae nifer ohonynt yn newid eu cyfansoddiad i awdurdodi dulliau eraill o gyflawni. Hyd nes clywir yn wahanol, byddwn yn derbyn cyflawni lle mae awdurdod lleol hefyd yn ardystio y gall, o dan ei gyfansoddiad, gyflawni gweithred yn ddilys heblaw yn unol â’i drefniadau arbennig.
Rhaid i’r dystysgrif ganlynol gael ei chyflwyno gyda’r cais wedi ei lofnodi gan drawsgludwr unigol a gyflogir gan yr awdurdod lleol perthnasol gan ddatgan bod y weithred wedi cael ei chyflawni’n gywir ac yn briodol yn unol â chyfansoddiad y Cyngor.
“Yr wyf i [enw’r trawsgludwr sy’n ardystio] trawsgludwr a gyflogir gan [enw’r awdurdod] yn ardystio bod y trosglwyddiad [neu weithred arall a gyflwynir i’w chofrestru] sy’n ddyddiedig [dyddiad y weithred] yn cael ei wneud trwy awdurdod y Cyngor ac wedi cael ei gyflawni’n gywir ac yn briodol yn unol â chyfansoddiad y Cyngor.”
1.2 Datganiadau statudol
Rhaid i’r dogfennu hyn gael eu llofnodi mewn inc gwlyb.
2. Gwneud ceisiadau i Gofrestrfa Tir EF
2.1 Dulliau o gyflwyno ceisiadau
Gall cwsmeriaid busnes gyflwyno ceisiadau ar-lein ar gyfer prosesu cyflymach, costau is a llwybr archwilio. Cofrestru ar gyfer E-wasanaethau busnes.
Fel arall, gellir cyflwyno ceisiadau trwy’r post gan ddefnyddio ein cyfeiriadau safonol, oni bai ein bod wedi dweud wrthych i anfon eich ceisiadau neu ohebiaeth i gyfeiriad arall neu am fod eich cais ar gyfer:
-
Pridiannau Tir neu chwiliad o’r mynegai enwau perchnogion ar ffurflen PN1
Rydym yn caniatáu i’r rhan fwyaf o geisiadau Pridiannau Tir gael eu gwneud trwy ebost, trwy atodi copïau PDF o ffurflenni cais ac unrhyw dystiolaeth gefnogol. Rhaid ichi gael cyfrif Debyd Uniongyrchol newidiol er mwyn gallu gwneud hyn. Ychwanegwyd adran 6.1.3 newydd at practice guide 63: land charges: registration, official search, office copy and cancellation. Nid yw’r newid hwn i’n hymarfer yn cynnwys y ceisiadau hynny y gellir eu gwneud eisoes trwy’r porthol neu Business Gateway.
Ac eithrio’r rhan fwyaf o geisiadau Pridiannau Tir (gweler adran 6.1.3 o practice guide 63: land charges: registration, official search, office copy and cancellation), nid oes modd anfon ceisiadau i Gofrestrfa Tir EF trwy ebost.
2.2 Cyflwyno cais ar ran cwmni arall trwy ddefnyddio’r porthol
Gellir cyflwyno ceisiadau trwy’r porthol ar ran cwmni arall. Fodd bynnag, rhaid i banel 7 ffurflen AP1 (‘Anfonir y cais hwn i’r Gofrestrfa Tir gan’), neu banel cyfatebol y brif ffurflen gais lle na ddefnyddir ffurflen AP1, nodi manylion y cwmni sy’n cyflwyno’r cais oherwydd dim ond y cwmni sy’n cyflwyno sydd wedi cytuno i gael ei rwymo gan Amodau Defnydd y porthol.
Bydd y canlynol yn wir am y cwmni sy’n cyflwyno:
-
bydd y taliad am ein ffi yn cael ei gymryd o’i gyfrif
-
bydd yn cael unrhyw geisiadau am wybodaeth (ymholiadau) sy’n codi
-
bydd yn gorfod rhoi unrhyw dystysgrifau sy’n ofynnol
2.3 Cyfnodau blaenoriaeth
Os cewch oedi wrth gyflwyno cais i newid cofrestr a bod perygl i hyn barhau y tu hwnt i’r cyfnod blaenoriaeth a roddir gan chwiliad sy’n gwarchod, fe’ch cynghorir i gyflwyno chwiliad newydd i gael cyfnod blaenoriaeth newydd. Fodd bynnag, dylid nodi na fydd chwiliad o’r fath yn estyn y cyfnod blaenoriaeth gwreiddiol. Gweler adran 4.3 o gyfarwyddyd ymarfer 12: chwiliadau swyddogol am ragor o wybodaeth. Fe’ch cynghorir i beidio â chyflwyno ceisiadau i newid cofrestr anghyflawn er mwyn cadw blaenoriaeth oherwydd nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i lacio ein polisi gwrthod na’n gofynion cofrestru.
2.4 ‘Diwrnodau gwaith yr amharwyd arnynt’
Mae pŵer gan y Prif Gofrestrydd Tir i ardystio diwrnodau gwaith fel ‘diwrnodau gwaith yr amharwyd arnynt’ os yw’n fodlon bod digwyddiad neu amgylchiadau ar y diwrnodau hynny yn debygol o achosi amhariad sylweddol yn ein gweithrediadau arferol. Mae diwrnodau gwaith yr amharwyd arnynt yn cael eu trin fel rhai nad ydynt yn ddiwrnodau gwaith at ddiben cyfrifo cyfnodau blaenoriaeth a chyfnodau rhybudd. Byddai’r Prif Gofrestrydd Tir yn cymryd y cam hwn mewn amgylchiadau eithriadol yn unig a chyda’r cyhoeddusrwydd priodol.
2.5 Gwarchod budd trwy gyfrwng rhybudd
Os na allwch gyflwyno cais i gwblhau gwarediad cofrestradwy trwy gofrestru ond mae gan eich cleient fudd a all gael ei warchod trwy gyfrwng rhybudd, gall cais gael ei wneud i warchod blaenoriaeth y budd hwnnw, er enghraifft trwy gyfrwng rhybudd unochrog. Cyfeiriwch at gyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti am ragor o wybodaeth.
2.6 Ceisiadau anghyflawn
Os ydych wedi cyflwyno cais anghyflawn ac nid yw wedi cael ei wrthod, rhaid ichi anfon y ddogfen neu’r wybodaeth sy’n eisiau atom cyn gynted ag y bo ar gael. Nid oes yn rhaid ichi aros inni anfon cais am wybodaeth (ymholiad) atoch. Os ydych yn gwsmer e-wasanaethau busnes, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ‘Reply to requisition’ yn y porthol i anfon gwybodaeth ychwanegol atom a gellir defnyddio’r gwasanaeth hwn unrhyw bryd ym mywyd y cais, gan gynnwys cyn inni anfon cais am wybodaeth (ymholiad) atoch.
2.7 Atwrneiaethau wedi eu hardystio gan swyddogion gweithredol cyfreithiol
Byddwn yn derbyn copïau o atwrneiaethau wedi eu hardystio gan weithredwyr cyfreithiol hyd nes clywir yn wahanol.
3. Ar ôl i gais gael ei gyflwyno
3.1 Polisi dileu
Ailddechreuodd y drefn o ddileu ceisiadau sydd â cheisiadau am wybodaeth (ymholiadau) heb eu trin ar 16 Tachwedd 2020 a byddwn yn anfon rhybuddion am ddileu, gan roi 4 wythnos ichi ymateb i’n hymholiadau, ar bob cais lle anfonwn ymholiad cyn 1 Chwefror 2021. Bydd y rhybudd am ddileu yn rhoi gwybodaeth ynghylch sut i wneud cais am estyniad pellach o amser, os na allwch ymateb o hyd. Hyd nes y cewch y rhybudd am ddileu, nid oes yn rhaid ichi gysylltu â ni i wneud cais ar gyfer unrhyw estyniad amser. Mae adran 3 o gyfarwyddyd ymarfer 50: gweithdrefnau ar gyfer ymholi a dileu yyn cynnwys rhagor o fanylion am wneud cais ar gyfer estyniad amser.
Os ydym wedi anfon ymholiad ar eich cais ar neu ar ôl 1 Chwefror 2021, dim ond o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir adran 2 o gyfarwyddyd ymarfer 50: trefnau ar gyfer ymholiadau a dileu y byddwn yn eich rhybuddio am ddileu.
3.2 Sut i gyflymu cais
Gall trawsgludwyr ofyn i gais gael ei gyflymu trwy ddefnyddio Application Enquiry ym mhorthol Cofrestrfa Tir EF. Rhaid ichi atodi tystiolaeth i ddangos fod y cais yn un brys. Byddwn yn prosesu’r cais yn gynt os ydym yn cymeradwyo’r cais. Defnyddiwch ein ffurflen gysylltu i anfon neges atom os nad oes mynediad gennych i’r porthol.
Peidiwch â defnyddio ‘Reply to requisition’ i anfon cais i gyflymu.
Os ydych wedi defnyddio ‘Reply to requisition’ ar gyfer anfon cais i gyflymu er 23 Mawrth 2020, rhaid ichi ailgyflwyno eich cais trwy ‘Application Enquiry’.
Gallwch barhau i ddefnyddio ‘Reply to requisition’ i roi unrhyw wybodaeth arall inni neu i atodi dogfennau sy’n eisiau ac sy’n gysylltiedig â chais.
Os yw’n ofynnol i’ch cais a gafodd ei gyflymu gael arolwg gan yr Arolwg Ordnans, caiff ei oedi am y rhesymau a nodir isod.
3.3 Ceisiadau y mae’n ofynnol iddynt gael arolwg
Caiff ein harolygon eu prosesu gan yr Arolwg Ordnans, sydd wedi gohirio gwasanaethau arolygu dros dro yn dilyn canllawiau’r llywodraeth ar gyfer y coronafeirws (COVID-19). Ei flaenoriaeth yw sicrhau iechyd a diogelwch staff a chwsmeriaid. Mae’r Arolwg Ordnans wedi ailgychwyn gwaith arolygu maes yng Nghymru a Lloegr os yw iechyd a diogelwch yn caniatáu hynny. Bydd arolygwyr Arolwg Ordnans yn cysylltu â chwsmeriaid yn uniongyrchol trwy ddefnyddio’r manylion cysylltu a ddarperir i wneud apwyntiadau cyn cynnal arolwg.
3.4 Estyniadau ar gyfer rhybuddion
Yn gyffredinol, byddwn yn cytuno i estyn cyfnod rhybudd, neu’n caniatáu cyfnod pellach ar gyfer cyflwyno gwrthwynebiad, am unrhyw reswm sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Ceir rhai amgylchiadau pan na fyddwn yn gallu gwneud hynny, gan gynnwys:
-
lle mae’r rheol berthnasol o dan Reolau Cofrestru Tir 2003 yn pennu cyfnod neu gyfnod mwyaf. Er na all y cyfnod mwyaf ei hun gael ei estyn, efallai y byddwn yn gallu terfynu’r cais o dan sylw er mwyn caniatáu ar gyfer ymatebion hwyr. Enghraifft o ble y gallem wneud hynny fyddai caniatáu ar gyfer gwrthwynebiad hwyr yn erbyn cais i gofnodi cyfyngiad
-
lle mae’r cofrestrydd yn cyflwyno rhybudd am gais i ddileu rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf neu ddileu rhybudd unochrog. Ar ddiwedd y cyfnod penodedig, na ellir ei estyn y tu hwnt i’r nifer mwyaf o ddiwrnodau, mae rhwymedigaeth ar y cofrestrydd i ddileu’r rhybuddiad neu’r rhybudd unochrog yn absenoldeb gwrthwynebiad
-
lle mae’r cyfnod ar gyfer cyflwyno gwrthrybudd ar gyfer cais i gofrestru fel perchennog gan sgwatiwr o dan Atodlen 6 i Ddeddf Cofrestrfa Tir 2002. Mae gwrthrybudd yn aneffeithiol pan fydd y cyfnod rhybudd wedi dod i ben.
3.5 Cyrchu lawrlwythiadau PDF (amser gweld estynedig)
Rydym wedi estyn yr amser sydd gennych i gyrchu ffeiliau PDF eich sefydliad ar y porthol dros dro. Mae cyfnod casglu lawrlwythiad PDF wedi cael ei estyn o 30 i 90 diwrnod.
3.6 Ceisiadau am wybodaeth (ymholiadau) a anfonir trwy ebost a staff ar ffyrlo
Ein polisi safonol yw:
-
lle cafodd cais ei gyflwyno trwy ddefnyddio’r Gwasanaeth Cofrestru Dogfen electronig (e-DRS), anfonir ceisiadau am wybodaeth (ymholiadau) i’r cyfeiriad ebost a ddewisir gennych yn y cyflwyniad e-DRS (gyda’r cyfeiriad ebost hwn yn drech nag unrhyw gyfeiriad ebost arall a ddatgelir yn y ffurflen cais wedi ei sganio neu ddogfennaeth arall)
-
lle cafodd y cais ei gyflwyno trwy’r post, anfonir ceisiadau i’r cyfeiriad ebost a nodir ar y ffurflen gais
Dylid sicrhau eich bod yn rhoi cyfeiriad ebost arall yn eich neges allan o’r swyddfa (a bod y neges hon yn parhau i gael ei rhoi mewn ymateb i negeseuon ebost niferus o’r un ffynhonnell); byddwn yn anfon y cais i’r cyfeiriad hwnnw. Fel arall, os ydych yn ymwybodol o geisiadau sy’n aros i’w prosesu lle byddai ceisiadau trwy ebost yn cael eu hanfon at staff ar ffyrlo yn unol â’n polisi safonol, gallwch ofyn i geisiadau am wybodaeth gael eu hanfon i gyfeiriad gwahanol trwy ddefnyddio’r swyddogaeth ‘Reply to requisition’ ar y porthol.
3.7 Cwblhau
Byddwn yn ystyried ac yn cwblhau ceisiadau, yn amodol ar unrhyw bwyntiau ymholi sydd heb eu hateb neu faterion eraill a all godi, cyn gynted ag y gallwn. Ni allwn roi amserlen gwblhau fanwl oherwydd effaith y coronafeirws (COVID-19) ar ein hadnoddau o ran gweithwyr cais. Edrychwch am ddiweddariadau am ein gwasanaethau.
4. Rhai darnau o ddeddfwriaeth gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19) sy’n berthnasol i drawsgludwyr
Mae nifer o fesurau dros dro wedi cael eu cyflwyno i roi sylw i’r anawsterau sy’n codi o ganlyniad i bandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae, neu gall, mesurau o’r fath fod yn destun adolygu a newid o bryd i’w gilydd ac ni fwriedir i’r cyfarwyddyd hwn fod yn gynhwysfawr. Mae rhai mesurau sy’n berthnasol i drawsgludwyr wedi eu nodi isod.
4.1 Estyn y cyfnod ar gyfer cofrestru arwystl cwmni gyda Thŷ’r Cwmnïau
O dan Reoliadau Cwmnïau ac ati (Gofynion Ffeilio) (Addasiadau Dros Dro) 2020, ar gyfer arwystl a grëwyd ar neu ar ôl 6 Mehefin 2020, cynyddodd y cyfnod i roi manylion arwystl i Dŷ’r Cwmnïau yn awtomatig i 31 diwrnod. Dechreuodd y cyfnod hwn o 31 diwrnod ar y diwrnod ar ôl y dyddiad y cafodd yr arwystl ei greu. Mae’r newid hwn yn gymwys i arwystlon a grëwyd cyn 5 Ebrill 2021. O 5 Ebrill 2021, mae’r cyfnod estyn arferol o 21 diwrnod yn gymwys.
Mae hyn yn gymwys i bob cwmni y DU, partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig, UK Societas a Grwpiau Budd Economaidd y DU.
Os yw’r llys eisoes wedi estyn y cyfnod i ddarparu’r arwystl, nid yw’r estyniad yn gymwys. Dylai’r unigolyn sy’n cyflwyno’r arwystl gydymffurfio â’r terfyn amser a roddir gan y llys.
4.2 Treth Tir Toll Stamp a Threth Trafodiadau Tir
Ar 8 Gorffennaf 2020, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys gyfraddau gostyngol dros dro ar gyfer Treth Tir Toll Stamp ar gyfer eiddo preswyl. Ar 14 Gorffennaf 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newidiadau i ardrethi preswyl a bandiau Treth Trafodiadau Tir. Sylwer nad yw hyn yn newid y dystiolaeth Treth Tir Toll Stamp/Treth Trafodiadau Tir y mae’n rhaid ei chyflwyno i gefnogi cais i gofrestru. Cyfeiriwch at adran 6.2 o gyfarwyddyd ymarfer 50: gweithdrefnau ymholi a dileu am ragor o wybodaeth.
4.3 Terfynu prydles ar fforffediad
Mae Deddf y Coronafeirws 2020 yn atal dros dro pwerau ailfynediad a fforffediad landlordiaid ar gyfer peidio â thalu rhent. Mae adrannau 81 ac 82 o Ddeddf y Coronafeirws 2020 yn ymwneud â gorchmynion llys ar gyfer meddiannu eiddo preswyl a masnachol oherwydd peidio â thalu rhent. Felly, yn achos ceisiadau lle mae’r dystiolaeth yn dangos bod yr hawl ailfynediad neu fforffediad am beidio â thalu rhent wedi ei gorfodi yn ystod y cyfnod perthnasol, ni chaiff y ceisiadau eu derbyn. Gall y cyfnod perthnasol gael ei estyn gan reoliadau.
Ar gyfer tenantiaethau busnes, mae’r cyfnod perthnasol, fel y’i hestynnir, yn rhedeg ar hyn o bryd o 26 Mawrth 2020 i 25 Mawrth 2022 ar gyfer Cymru a Lloegr.
Cyfeiriwch at gyfarwyddyd ymarfer 26: prydlesi: terfynu am ragor o fanylion.
4.4 Ansolfedd Corfforaethol (Datodiad)
Mae Deddf Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol 2020 (y daeth y rhan fwyaf ohoni i rym ar 26 Mehefin 2020) wedi rhoi cyfres o fesurau yn eu lle i ddiwygio’r gyfraith ansolfedd a’r gyfraith cwmnïau er mwyn helpu busnesau i ddelio ag effaith economaidd y coronafeirws (COVID-19). Effaith paragraff 7 o Atodlen 10 o’r Ddeddf yw bod y gorchymyn i’w ystyried yn ddi-rym:
-
lle mae credydwr wedi cyflwyno deiseb ar gyfer dirwyn cwmni i ben (boed wedi ei gofrestru neu heb ei gofrestru) ar neu ar ôl 27 Ebrill 2020
-
lle mae’r llys wedi gwneud gorchymyn dirwyn i ben ar neu ar ôl 27 Ebrill 2020 ond cyn i Atodlen 10 ddod i rym ar 26 Mehefin 2020, a
-
lle nad oedd y gorchymyn yn un y byddai’r llys wedi ei wneud pe byddai Atodlen 10 wedi bod mewn grym ar y pryd
O ganlyniad, nid yw’n debygol y caiff unrhyw gais sy’n dibynnu ar orchymyn dirwyn i ben a wnaed rhwng 27 Ebrill 2020 a 25 Mehefin 2020 yn gynwysedig ei dderbyn. Fodd bynnag, bydd yn rhaid ystyried pob cais ar ei deilyngdod ei hun.
Daeth newidiadau pellach i Atodlen 10 i rym ar 29 Medi 2021 fel:
-
bod y cyfyngiadau ar ddirwyn i ben ar gyfer ôl-ddyledion rhent masnachol (yn unig) a grëwyd yn ystod y pandemig yn parhau rhwng 1 Hydref 2021 a 31 Mawrth 2022 (i alluogi gweithrediad cynllun cyflafareddu rhent) (ni all credydwr ddeisebu am ddirwyn i ben oni bai y gall brofi nad yw peidio â thalu yn gysylltiedig â’r pandemig)
-
daeth y cyfyngiadau ar ddirwyn i ben rhwymedigaethau heblaw rhent masnachol i ben ar 30 Medi 2021, ond wedi hynny tan 31 Mawrth 2022:
- codir y trothwy dyled ar gyfer deiseb dirwyn i ben i £10,000, a
- rhaid i gredydwyr roi 21 diwrnod i fusnesau dyled wneud cynigion talu cyn dechrau gweithredu dirwyn i ben
5. Pethau i’w cofio
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.