Profi cyhoeddus y system Rhybuddion Argyfwng
Prawf cenedlaethol ar ddod ar 7 Medi 2025
Bydd y llywodraeth yn cynnal prawf cenedlaethol o system Rhybuddion Argyfwng y DU ar 7 Medi 2025 am 3yh.
Anfonir y rhybudd -prawf at bob ffôn symudol 4G a 5G cydweddol a thabledi cydweddol ledled y DU.
Mae hyn yn dilyn y prawf cenedlaethol llwyddiannus cyntaf ym mis Ebrill 2023.
Pam fod y prawf yn cymryd lle
Mae profi rheolaidd yn sicrhau bod y system yn gweithredu’n gywir, pe bai ei hangen mewn argyfwng.
Ni fwriedir i’r prawf eich hysbysu o berygl go iawn ac ni fydd rhaid i chi gymryd unrhyw gamau pellach.
Sut bydd y prawf yn edrych ac yn swnio
Mae hysbysiad argyfwng yn edrych ac yn swnio’n dra gwahanol i fathau eraill o negeseuon y gallwch eu cael ar eich ffôn. Byddwch yn clywed sŵn uchel, tebyg i seiren a bydd eich ffôn yn dirgrynu.
Os oes gennych nam ar eich golwg neu'ch clyw, bydd signalau sylw sain a dirgrynu yn rhoi gwybod i chi eich bod wedi cael y prawf.
Optio allan o’r prawf
Gallwch optio allan o rybuddion argyfwng, gan gynnwys y prawf cenedlaethol, ond dylech eu cadw ymlaen er eich diogelwch eich hun. Dysgwch fwy am sut i optio allan o rybuddion argyfwng.