Sut i hawlio treuliau

Gwnewch gais am dreuliau ar ddiwedd eich gwasanaeth rheithgor - a dim mwy na 12 mis ar ôl i’ch gwasanaeth rheithgor ddechrau.

Fel arfer byddwch yn cael eich talu o fewn 7 i 10 diwrnod gwaith ar ôl ichi gyflwyno’ch ffurflen.

Efallai y bydd y llys yn gallu talu eich treuliau yn ystod y treial os yw’n debygol o bara am amser hir neu os ydych yn wynebu caledi ariannol. Gofynnwch i staff y rheithgor am fwy o wybodaeth.

Costau bwyd, diod a theithio

Llenwch y ffurflen gais a gawsoch ar ddechrau eich gwasanaeth rheithgor. Dychwelwch hi i’r llys gyda’r derbynebau perthnasol.

Colli enillion

Mae’r hyn sydd angen i chi ei wneud yn dibynnu ar pa un a ydych yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig.

Os ydych chi’n weithiwr cyflogedig

Mae angen i’ch cyflogwr lenwi ffurflen golli enillion os yw wedi dweud wrthych nad yw’n mynd i’ch talu yn ystod y gwasanaeth rheithgor. Dewch â’r ffurflen i’r llys ar ddiwrnod cyntaf eich gwasanaeth rheithgor.

Os ydych yn hunangyflogedig

Llenwch ffurflen golli enillion ar gyfer gweithwyr hunangyflogedig. Bydd angen i chi gynnwys tystiolaeth o enillion a gollwyd, fel eich ffurflen dreth ddiweddaraf.

Costau gofal a gofal plant

Mae angen i chi a’r gofalwr lenwi’r ffurflen dreuliau gofal i hawlio costau y tu allan i’ch trefniadau gofal arferol.

Os ydych chi’n defnyddio gwarchodwr plant cofrestredig, mae angen i’r gwarchodwr ysgrifennu ei rif Ofsted ar y ffurflen. Os yw aelod o’r teulu neu ffrind yn gofalu am eich plant, rhaid iddynt ysgrifennu llythyr yn dweud faint o oriau y maent wedi gofalu am eich plentyn.

Dewch â thystysgrif geni neu basbort eich plentyn i’r llys yn ystod eich gwasanaeth neu atodwch gopi at y ffurflen hawlio.

Dychwelwch y ffurflen i’r llys gyda thystiolaeth o gost y gofal, er enghraifft anfonebau neu dderbynebau.

Cwestiynau am dreuliau

Cysylltwch â’r llys lle gwnaethoch eich gwasanaeth rheithgor os oes gennych gwestiynau am dreuliau.