Beth allwch ei hawlio os nad ydych yn gweithio

Ni fyddwch yn cael eich talu am wasanaethu ar reithgor, ond gallwch hawlio rhywfaint o arian yn ôl os effeithir ar eich enillion. Am bob diwrnod rydych chi yn y llys, fel arfer gallwch hawlio:

  • hyd at £64.95 i helpu i dalu am golli enillion a chost unrhyw ofal neu ofal plant y tu allan i’ch trefniadau arferol
  • £5.71 ar gyfer bwyd a diod
  • cost teithio i’r llys ac o’r llys

Byddwch yn cael gwybod sut i hawlio treuliau ar ôl i’ch gwasanaeth rheithgor ddod i ben.

Gallwch ofyn am gael gohirio eich gwasanaeth rheithgor os na allwch wasanaethu ar reithgor ar y dyddiadau yn eich llythyr gwŷs.

Os ydych yn cael budd-daliadau neu gymorth ariannol

Dangoswch eich gwŷs rheithgor i’ch swyddfa fudd-daliadau neu eich hyfforddwr gwaith cyn gynted ag y byddwch yn ei chael.

Byddwch yn dal i gael cymorth ariannol a budd-daliadau (fel Credyd Cynhwysol) am yr 8 wythnos gyntaf. Ar ôl hynny, bydd y llys yn rhoi ffurflen colli enillion i chi er mwyn ichi ei rhoi i’ch swyddfa fudd-daliadau neu hyfforddwr gwaith.

Beth allwch ei hawlio

Mae yna gyfyngiad ar faint allwch chi ei hawlio am bob diwrnod rydych yn y llys.

Costau gofal plant a chostau gofal eraill os nad ydych yn gweithio

Mae faint y gallwch ei hawlio ar gyfer costau gofal yn dibynnu ar hyd eich gwasanaeth rheithgor a faint o oriau y byddwch chi’n eu treulio yn y llys bob diwrnod.

Am 10 diwrnod cyntaf y gwasanaeth rheithgor, gallwch hawlio hyd at:

  • £64.95 y diwrnod os ydych yn treulio mwy na 4 awr yn y llys
  • £32.47 y diwrnod os ydych yn treulio 4 awr neu lai yn y llys

Os yw eich gwasanaeth rheithgor yn para’n hirach na 10 diwrnod gwaith, mae’r swm y gallwch ei hawlio yn cynyddu. Byddwch yn gallu hawlio hyd at:

  • £129.91 y diwrnod os ydych yn treulio mwy na 4 awr yn y llys
  • £64.95 y diwrnod os ydych yn treulio 4 awr neu lai yn y llys

Costau teithio a pharcio

Mae’r swm y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar sut rydych yn teithio i’r llys.

Sut rydych yn teithio i’r llys Bydd y llys yn talu
Bws neu drên danddaearol Cost y tocyn
Trên Cost y tocyn (tocyn dwy ffordd safonol)
Beic 9.6c y filltir
Beic modur 31.4c y filltir
Car 31.4c y filltir - gwiriwch a fydd y llys yn talu am gostau parcio
Car – gydag un rheithiwr arall fel teithiwr 4.2c y filltir
Car - ar gyfer pob teithiwr ychwanegol 3.2c y filltir
Tacsi Y pris – gofynnwch am ganiatâd gan y llys cyn defnyddio tacsi

Bwyd a diod

Mae faint y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar faint o oriau rydych chi’n eu treulio yn y llys bob diwrnod.

Amser a dreulir bob diwrnod Bydd y llys yn talu hyd at
Hyd at ac yn cynnwys 10 awr y diwrnod £5.71 y diwrnod
Dros 10 awr y diwrnod £12.17 y diwrnod

Amcangyfrifwch eich treuliau

Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell i wirio beth y gallwch ei hawlio.