Ymateb i'r wŷs

Mae’n rhaid i chi ymateb i’ch gwŷs rheithgor o fewn 7 diwrnod o’i chael.

Gallwch naill ai:

Gallwch gael dirwy o hyd at £1,000 os na fyddwch yn dychwelyd y ffurflen neu’n dod i’r llys i wasanaethu ar y rheithgor.

Ar ôl i chi ymateb

Bydd y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor yn anfon llythyr atoch i gadarnhau manylion eich gwasanaeth rheithgor, gan gynnwys pryd a ble y bydd yn digwydd.

Os gwnaethoch ofyn am newid y dyddiad neu gael eich esgusodi, bydd y llythyr yn egluro a dderbyniwyd eich cais.

Bydd angen i chi ddod â’ch gwŷs neu eich llythyr cadarnhau i’r llys gyda chi ar ddiwrnod cyntaf eich gwasanaeth rheithgor.

Cael help

Cysylltwch â’r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor os oes gennych gwestiynau am wasanaeth rheithgor neu am benderfyniad.

Efallai y bydd y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor yn gallu newid lleoliad eich gwasanaeth rheithgor os ydych wedi cael eich galw i lys ymhell o ble rydych chi’n byw. Er enghraifft, os ydych chi wedi symud tŷ yn ddiweddar neu os ydych chi yn y brifysgol a’ch bod chi wedi cael eich galw i lys ger eich cartref teuluol.

Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor
E-bost: ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Rhif ffôn i siaradwyr Cymraeg: 0300 303 5173
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am i 5pm
Dydd Gwener, 9am i 4.30pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Cysylltwch â’r llys os ydych:

  • angen cyfarwyddiadau
  • os oes gennych gwestiwn am hawlio treuliau