Trafod y treial

Peidiwch â thrafod y treial gydag unrhyw un nes y bydd wedi gorffen, ac eithrio gydag aelodau eraill y rheithgor yn yr ystafell drafod.

Ar ôl y treial, ni ddylech siarad am yr hyn a ddigwyddodd yn yr ystafell drafod, hyd yn oed gydag aelodau’r teulu. Gallwch siarad am yr hyn a ddigwyddodd yn y llys.

Peidiwch â rhoi sylwadau am y treial ar wefannau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook neu Twitter - hyd yn oed ar ôl i’r treial ddod i ben. Mae hyn yn ddirmyg llys a gallwch gael dirwy neu eich anfon i’r carchar.

Os bydd rhywun yn dod atoch i geisio siarad am y treial

Dywedwch wrth swyddog llys os bydd rhywun yn cysylltu â chi ynglŷn â’r achos. Os daw rhywun atoch i geisio siarad am y treial y tu allan i’r llys, dywedwch wrth swyddog heddlu.

Os bydd y treial yn peri gofid ichi

Efallai y bydd y treial yn peri gofid i chi ac y byddwch eisiau siarad â rhywun yn breifat. Siaradwch â staff y llys - byddant yn rhoi cyngor i chi.

Am gymorth emosiynol, siaradwch â’ch meddyg teulu i gael gwybod pa gymorth sydd ar gael. Gallwch hefyd gysylltu â’r Samariaid - er na allant roi cyngor.