Sut mae gwasanaeth rheithgor yn gweithio

Os cewch wŷs rheithgor yn y post, rhaid i chi ymateb o fewn 7 diwrnod a chadarnhau a allwch chi fod yn bresennol.

Dewiswyd eich enw ar hap o’r gofrestr etholiadol.

Byddwch yn rhan o reithgor o 12 o bobl a fydd yn penderfynu ar ganlyniad treial troseddol.

Gallwch wylio fideo am wasanaeth rheithgor. Mae yna fersiwn Saesneg o’r fideo hefyd.

Mae yna reolau gwahanol ar gyfer gwasanaeth rheithgor yn yr Alban a gwasanaeth rheithgor yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r cyfarwyddyd hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gwasanaeth rheithgor a’r coronafeirws (COVID-19)

Os ydych wedi cael gwŷs rheithgor, mae angen i chi fod yn bresennol ar y diwrnod y cawsoch eich gwysio neu eich cyfarwyddo i ddod i’r llys.

Dywedwch wrth y llys os ydych yn teimlo’n sâl, neu os oes gennych symptomau COVID-19 neu haint anadlol arall.

Darllenwch fwy am y mesurau sydd ar waith wrth fynd i lys neu wneud gwasanaeth rheithgor.

Pa mor hir y mae gwasanaeth rheithgor yn para

Fel arfer, mae gwasanaeth rheithgor yn para hyd at 10 diwrnod gwaith.

Os yw’r treial yn debygol o bara mwy na 10 diwrnod, bydd staff y rheithgor yn rhoi gwybod i chi. Os yw’r treial yn fyrrach na 10 diwrnod, efallai y gofynnir i chi fod yn rheithiwr mewn treialon eraill.

Fel arfer bydd angen i chi fod yn y llys rhwng 10am a 5:30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ond gall yr amseroedd amrywio.

Bydd angen i chi gyrraedd y llys yn gynharach ar eich diwrnod cyntaf. Edrychwch ar eich llythyr gwŷs i gael gwybod yr union amser.

Beth allwch ei hawlio

Ni fyddwch yn cael eich talu am wneud gwasanaeth rheithgor, ond gallwch hawlio rhywfaint o arian yn ôl os byddwch yn colli enillion. Gallwch hefyd hawlio rhai costau, er enghraifft teithio.

Darganfyddwch beth allwch chi ei hawlio: