Canllawiau

Credyd Cynhwysol a myfyrwyr

Cyfarwyddyd am wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych yn fyfyriwr.

Applies to England, Scotland and Wales

Mae Credyd Cynhwysol yn daliad misol i helpu gyda’ch costau byw. Efallai gallech ei gael os ydych ar incwm isel neu’n ddi-waith.

Astudio llawn amser

Fel arfer, ni allwch gael Credyd Cynhwysol os ydych yn astudio’n llawn amser. Mae rhai eithriadau.

Efallai gallech gael Credyd Cynhwysol os ydych yn astudio’n llawn amser ac mae unrhyw un o’r canlynol yn gymwys:

  • rydych yn 21 oed neu’n iau, mewn addysg nad yw’n addysg uwch llawn amser a heb gefnogaeth rhiant
  • rydych yn gyfrifol am blentyn
  • rydych yn byw gyda’ch partner ac maent yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol
  • rydych wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn ac yn byw gyda phartner sydd o dan yr oedran hwnnw
  • rydych wedi derbyn Hysbysiad Trosglwyddo yn dweud wrthych i symud i Gredyd Cynhwysol
  • rydych yn anabl ac wedi cael eich asesu fel bod gennych allu cyfyngedig i weithio cyn dechrau eich cwrs ac rydych yn cael:

    • Taliad Annibyniaeth Personol
    • Lwfans Byw i’r Anabl
    • Taliad Anabledd Plant yn yr Alban
    • Lwfans Gweini
    • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog

Efallai gallwch hefyd gael Credyd Cynhwysol os ydych yn astudio ar gwrs llawn amser nad yw’n addysg uwch, nid ydych yn cael benthyciad myfyriwr na grant cynhaliaeth, ac rydych ar gael i weithio. Os yw’r cwrs yn fwy na 12 awr yr wythnos, mae hyn ond yn berthnasol o 1 Medi ar ôl eich penblwydd yn 19 oed. Mae hyn oherwydd gall eich rhieni hawlio budd-daliadau ar eich cyfer cyn y dyddiad hwnnw.

Efallai cewch eich gofyn i ddarparu tystiolaeth o’r cwrs rydych yn ei wneud.

21 oed neu’n iau, mewn addysg nad yw’n addysg uwch a heb gefnogaeth rhiant

Mae hyn yn cynnwys os ydych wedi gadael gofal a ddarperir gan y cyngor lleol neu rydych heb gefnogaeth rhiant.

Efallai byddwch yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol os:

  • rydych yn dilyn cwrs addysg llawn amser [(#enghreifftiau-o-gyrsiau-llawn-amser-nad-ywn-addysg-uwch) neu hyfforddiant a ddechreuodd cyn i chi gyrraedd 21 oed
  • rydych yn cyrraedd 21 oed tra eich bod ar y cwrs

Gallwch barhau i gael Credyd Cynhwysol hyd nes:

  • diwedd y flwyddyn academaidd rydych yn cyrraedd 21 oed
  • diwedd y cwrs, os bydd yn dod i ben cyn i chi gyrraedd 21 oed

Rydych yn gyfrifol am blentyn

Efallai bod y plentyn wedi’u mabwysiadu neu’n blentyn maeth.

Ar gyfer cyplau, gall un neu’r ddau ohonoch fod yn fyfyriwr.

Beth sy’n cyfrif fel cwrs llawn amser

Fel arfer, y darparwr addysg neu hyfforddiant sy’n penderfynu a yw’n gwrs llawn amser.

Os ydych yn mynychu cwrs llawn amser ar sail rhan amser, cewch eich trin fel eich bod yn astudio’n llawn amser.

Mae cwrs yn drefniant o astudio, dysgu neu hyfforddiant. Gall fod yn academaidd, ymarferol neu’n gymysgedd o’r ddau. Fel arfer mae’n cael ei wneud yn, neu trwy drefniant, gyda darparwr addysg neu hyfforddiant.

Bydd yn aml yn arwain at gymhwyster ar ôl ei gwblhau. Efallai na fydd rhai astudiaethau nad yw’n addysg uwch, dysgu na hyfforddiant yn arwain at gymhwyster. Nid yw hyn yn golygu nad yw’n gwrs.

Enghreifftiau o gyrsiau llawn amser addysg uwch

Mae cyrsiau llawn amser addysg uwch yn cynnwys y rhai sy’n arwain at:

  • gradd ôl-raddedig neu gymhwyster tebyg

  • gradd gyntaf neu gymhwyster tebyg

  • diploma o addysg uwch

  • diploma cenedlaethol uwch

  • unrhyw gwrs astudiaeth arall sydd o safon yn uwch na:

  • GNVQ uwch neu gyfwerth

  • cymhwyster uwch yn yr Alban neu gymhwyster cenedlaethol uwch

Enghreifftiau o gyrsiau llawn amser nad yw’n addysg uwch

Addysg nad yw’n addysg uwch yw unrhyw gymhwyster hyd at Lefel A, neu gyfwerth. Mae cyrsiau llawn amser yn cynnwys:

  • Fframwaith Cymhwyster Cenedlaethol lefel 3 neu fframwaith Cymhwyster yr Alban lefel 6

  • Tystysgrif Gyffredinol o Addysg lefel Uwch (Safon Uwch)

  • Lefel AS

  • Diploma Uwch

  • Diploma, Tystysgrif neu Wobr Genedlaethol

  • Gwobr, Tystysgrif neu Ddiploma NVQ Lefel 3

Astudio rhan amser

Efallai gallech gael Credyd Cynhwysol os ydych ar gael i weithio ac yn astudio rhan amser.

Os yw’r cwrs yn fwy na 12 awr yr wythnos a nad yw’n addysg uwch, mae hyn ond yn berthnasol o 1 Medi ar ôl eich penblwydd yn 19 oed. Mae hyn oherwydd gall eich rhieni hawlio budd-daliadau ar eich cyfer cyn y dyddiad hwnnw.

Efallai cewch eich gofyn i ddarparu tystiolaeth o’r cwrs rydych yn ei wneud.

Sut mae incwm myfyriwr yn effeithio Credyd Cynhwysol

Efallai y bydd gennych hawl i Gredyd Cynhwysol os ydych yn cael benthyciad neu grant myfyriwr.

Gall eich incwm myfyrwyr, fel benthyciadau a grantiau, effeithio ar faint o Gredyd Cynhwysol a gewch.

Benthyciadau myfyriwr

Mae benthyciadau ar gyfer cynhaliaeth, fel costau byw a rhent, yn cael eu hystyried yn incwm, ac fe’u hystyrir pan fyddwn yn gweithio allan eich Credyd Cynhwysol. Mae benthyciadau ar gyfer ffioedd dysgu a chostau astudio eraill wedi’u heithrio.

Bydd yr uchafswm benthyciad cynhaliaeth myfyrwyr rydych yn gymwys iddo yn cael ei ystyried wrth gyfrifo’ch Credyd Cynhwysol. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os:

  • nad ydych wedi gwneud cais am fenthyciad

  • nad ydych wedi derbyn y benthyciad

  • rydych wedi penderfynu peidio â chymryd y swm llawn

  • rydych wedi cael benthyciad gostyngedig oherwydd bod rhywun wedi cyfrannu at eich costau byw, er enghraifft eich rhiant, gwarcheidwad neu bartner

  • rydych wedi derbyn benthyciad llai oherwydd eich bod yn cael grant

Fel arfer, telir Credyd Cynhwysol unwaith y mis ac mae’n seiliedig ar eich amgylchiadau yn ystod y mis hwnnw. Gelwir hyn yn ‘gyfnod asesu’. Bydd swm ar gyfer unrhyw gynhaliaeth a gewch yn cael ei dynnu oddi ar eich Credyd Cynhwysol am bob cyfnod asesu y byddwch yn mynychu’r cwrs.

Mae’r swm a gymerwn i ffwrdd yn cael ei weithio allan drwy rannu’r cyllid myfyrwyr a gewch (neu rydych yn gymwys i’w gael) yn ôl nifer y cyfnodau asesu yn ystod blwyddyn eich cwrs.

Am bob £1 y mae gennych hawl i’w gael o fenthyciad cynhaliaeth, bydd eich Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau £1.

Ar gyfer pob cyfnod asesu, pan fyddwn yn cyfrifo eich incwm, rydym yn anwybyddu’r £110 cyntaf.

Ni fydd unrhyw incwm myfyriwr yn cael ei dynnu oddi ar eich Credyd Cynhwysol os:

  • yw’r cyfnod asesu yn cynnwys diwrnod cyntaf gwyliau’r haf

• rydych ar wyliau’r haf am gyfnod asesu llawn dilynol

  • mae eich cwrs yn dod i ben yn ystod y cyfnod asesu.

Benthyciad neu Grant Cymorth Arbennig

Os ydych yn cael Benthyciad neu Grant Cymorth Arbennig, ni fydd hwn yn cael ei dynnu o’ch Credyd Cynhwysol.

Mae Benthyciad neu Grant Cymorth Arbennig yn rhoi help tuag at gostau astudio, fel llyfrau, offer a theithio.

Efallai y gallech gael Benthyciad neu Grant Cymorth Arbennig os ydych yn gymwys i gael:

  • Cymhorthdal Incwm

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm

  • Budd-dal Tai

  • yr elfen dai o Gredyd Cynhwysol

Efallai y gallech gael y Benthyciad neu Grant Cymorth Arbennig, er enghraifft, os ydych yn rhiant unigol neu fod gennych anableddau penodol.

Os ydych yn byw yn Lloegr, disodlwyd y Grant Cymorth Arbennig gan y Benthyciad Cymorth Arbennig o ddechrau’r flwyddyn academaidd 2016 i 2017. Os ydych yn byw yng Nghymru, fe’i gelwir yn Grant Cymorth Arbennig.

Dywedir wrthych os gallwch gael Benthyciad neu Grant pan fyddwch yn gwneud cais am gyllid myfyriwr.

Benthyciadau ôl-raddedig

Mae benthyciadau Meistr a Doethuriaeth Ôl-raddedig yn cael eu talu mewn 3 rhandaliad dros bob blwyddyn o’r cwrs. Maent yn gyfraniad at gostau byw a ffioedd dysgu.

Benthyciad Meistr Ôl-raddedig

Gall Benthyciad Meistr Ôl-raddedig helpu gyda ffioedd cyrsiau a chostau byw tra byddwch yn astudio cwrs meistr ôl-raddedig.

Mae Benthyciadau Meistr Ôl-raddedig yng Nghymru a Lloegr yn cynnwys taliadau cynhaliaeth a ffioedd dysgu mewn un taliad. Wrth weithio allan eich Credyd Cynhwysol, mae 30% o’r benthyciad yn cael ei ystyried fel incwm myfyrwyr. Mae’r gweddill yn cael ei anwybyddu.

Mae ariannu ar gyfer benthyciadau ôl-raddedig yn wahanol os ydych fel arfer yn byw yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Nid yw symud i rywle i astudio yn cyfrif fel arfer yn byw yno.

Benthyciad Doethuriaeth Ôl-raddedig

Gall Benthyciad Doethuriaeth Ôl-raddedig helpu gyda ffioedd cwrs a chostau byw tra byddwch yn astudio cwrs doethuriaeth ôl-raddedig, fel PhD.

Mae ariannu ar gyfer Benthyciad Doethuriaeth Ôl-raddedig yn wahanol os ydych fel arfer yn byw yng Nghymru.

Wrth weithio allan eich Credyd Cynhwysol, mae 30% o’r benthyciad yn cael ei ystyried fel incwm myfyrwyr. Mae’r gweddill yn cael ei anwybyddu.

Grantiau myfyrwyr

Os ydych yn fyfyriwr addysg uwch llawn amser, efallai y gallwch gael grant sydd ddim angen ei ad-dalu gan y llywodraeth i helpu gyda llety a chostau byw eraill. Mae mathau eraill o grantiau hefyd a all helpu gyda phethau fel gofal plant, ffioedd dysgu neu ffioedd arholiad.

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol ac rydych yn gymwys i gael benthyciad myfyriwr, bydd eich grant myfyrwyr canlynol yn cael ei gymryd i ystyriaeth am symiau penodol sy’n cwmpasu:

  • eich costau rhent

  • costau cynhaliaeth person arall sydd wedi eu cynnwys yn eich dyfarniad Credyd Cynhwysol

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol ac nad ydych yn gymwys i gael benthyciad myfyriwr, ni fydd y grantiau myfyrwyr canlynol yn cael eu cynnwys yn y cyfrifiad:

  • ffioedd dysgu ac arholiadau

  • eich anabledd

  • treuliau ar gyfer astudiaeth breswyl i ffwrdd o sefydliad addysgol

  • yn byw i ffwrdd o’ch man astudio arferol

  • cynnal oedolyn dibynnol (os nad yw’r dyfarniad Credyd Cynhwysol yn cynnwys swm ar gyfer y person hwn)

  • llyfrau ac offer

  • costau teithio

  • costau gofal plant

Help a chyngor

Os ydych angen help i hawlio Credyd Cynhwysol, cysylltwch a llinell gymorth Credyd Cynhwysol.

Darganfyddwch fwy o wybodaeth am help gyda chyllid myfyriwr.

Cyhoeddwyd ar 21 May 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 July 2023 + show all updates
  1. Updating Welsh to match changes to English.

  2. Updated the eligibility rules to explain that since December 2021, if you’re disabled, you must have been assessed as having limited capability for work before starting your course to qualify for Universal Credit.

  3. Corrected the guidance to explain that student grants for maintenance of dependent adult will not be included in the Universal Credit calculation if the Universal Credit award does not include an amount for this person.

  4. Updated to clarify that you may be able to get Universal Credit if you’re studying in full-time non-advanced education, you do not get a student loan or maintenance grant and you are available for work. But if the course is more than 12 hours a week, this only applies from 1 September following your 19th birthday.

  5. Clarified the eligibility conditions for people in education. As well as the conditions already listed, you may be able to get Universal Credit if you’re studying in full-time non-advanced education, you do not get a student loan or maintenance grant and you are available for work. And you cannot get Universal Credit if you are aged under 20 and in non-advanced education of more than 12 hours a week.

  6. Amended the work related requirements for students in the 'Other study including part-time study' section.

  7. Added information about special support loans and grants in relation to Universal Credit.

  8. Student income information updated relating to income taken into account for an assessment period.

  9. Added translation

  10. Postgraduate Master’s and Doctoral loan payments information updated.

  11. Added translation

  12. Added more information in English about student loans and grants and how they are taken into account when calculating a Universal Credit payment.

  13. Added translation

  14. First published.