Canllawiau

Rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn at ddibenion TWE

Defnyddiwch y rhestr wirio os byddwch yn dechrau swydd newydd neu os ydych wedi cael eich anfon i weithio yn y DU, er mwyn i’ch cyflogwr newydd allu cwblhau ei gyflogres TWE.

Pwy all ddefnyddio’r rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn

Mae’n bwysig eich bod yn rhoi’r wybodaeth gywir i’ch cyflogwr newydd, fel eich bod yn talu’r swm cywir o dreth cyn iddo gwblhau ei gyflogres gyntaf ar eich cyfer.

Gallwch ddefnyddio’r rhestr wirio os yw’r canlynol yn wir:

  • mae gennych fenthyciad myfyriwr neu fenthyciad ôl-raddedig
  • mae’ch manylion personol yn wahanol i’r rhai a ddangosir ar eich P45
  • nid oes gennych P45
  • rydych wedi cael eich anfon gan eich cyflogwr tramor i weithio dros dro yn y DU

Ni allwch ddefnyddio’r rhestr wirio i newid eich cod treth, ond gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer gwirio’ch Treth Incwm i roi gwybod i CThEM am newidiadau sy’n effeithio ar eich cod treth.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich cyfeiriad llawn, gan gynnwys y cod post
  • eich mathau o gynllun benthyciad myfyriwr neu fenthyciad ôl-raddedig, os oes gennych un — gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif ad-daliadau benthyciad myfyriwr er mwyn gwirio’ch math o gynllun
  • rhif eich pasbort, os ydych yn gwybod beth ydyw, os ydych yn gyflogai a anfonwyd gan gyflogwr tramor i weithio dros dro yn y DU
  • eich rhif Yswiriant Gwladol, os ydych yn gwybod beth ydyw

Hefyd, bydd angen i chi wybod manylion unrhyw incwm rydych wedi’i gael ers 6 Ebrill o:

  • swydd arall
  • pensiwn
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Lwfans Ceisio Gwaith neu Fudd-dal Analluogrwydd

Dechrau nawr

Os na allwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein

Gallwch argraffu a llenwi’r Rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn (PDF, 119 KB, 3 pages) â llaw, os ydych yn byw ac yn gweithio yn y DU fel arfer.

E-bostiwch CThEF i ofyn am y fersiwn Cymraeg o’r ffurflen rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn ac sydd wedi’u secondio gan gyflogwr tramor i weithio yn y DU.

Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn addas i chi os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol — megis darllenydd sgrin. Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEM.

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Pan fyddwch wedi cwblhau’r rhestr wirio, rhowch hi i’ch cyflogwr, drwy e-bost, drwy’r post, neu drwy law.

Peidiwch ag anfon y rhestr wirio i CThEM.

Bydd eich cyflogwr yn defnyddio’r wybodaeth hon i gwblhau ei gyflogres ar gyfer eich diwrnod cyflog cyntaf.

Os ydych yn gyflogwr

Dysgwch beth mae angen i chi roi gwybod i CThEM amdano, o ran:

Cyhoeddwyd ar 3 October 2022