Canllawiau

Gwneud cais i gael sicrwydd ymlaen llaw ar gyfer rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu (R&D)

Dysgwch a allwch wneud cais i gael sicrwydd ymlaen llaw cyn i chi hawlio rhyddhad Treth Gorfforaeth Ymchwil a Datblygu ar gyfer mentrau bach a chanolig (MBaChau), a beth sydd ei angen arnoch.

Os yw’ch cwmni’n gwneud cais am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu ar gyfer mentrau bach a chanolig (MBaChau) am y tro cyntaf, gallai fod yn gymwys i gael sicrwydd ymlaen llaw.

Cynllun gwirfoddol yw sicrwydd ymlaen llaw. Gallwch ei ddefnyddio fel gwarant y bydd unrhyw hawliad am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu yn cael ei dderbyn, ar yr amod ei fod yn unol â’r hyn a drafodwyd ac a gytunwyd yn eich cais.

Bydd y cytundeb sicrwydd ymlaen llaw yn berthnasol i’ch 3 chyfnod cyfrifyddu cyntaf yn unig.

Nid yw sicrwydd ymlaen llaw yn golygu’ch bod wedi hawlio’r rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu. Mae’n dal i fod yn rhaid i chi hawlio gan ddefnyddio’ch Ffurflen Dreth y Cwmni.

Darllenwch yr arweiniad yn yr adran ‘Cyn i chi hawlio’r rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu’ i weld beth sydd angen i chi ei wneud cyn i chi hawlio.

Pwy all wneud cais

Gallwch lenwi’r cais eich hun, neu gall eich asiant wneud hynny ar eich rhan.

Yr adegau pan allwch wneud cais

Gallwch wneud cais am sicrwydd ymlaen llaw os ydych yn MBaCh ac mae’r canlynol yn wir:

  • mae gan eich cwmni drosiant o dan £2 filiwn, a llai na 50 o gyflogeion
  • rydych yn bwriadu cynnal gwaith Ymchwil a Datblygu
  • rydych eisoes wedi cynnal gwaith Ymchwil a Datblygu a heb hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu MBaCh
  • rydych yn rhan o grŵp, ac nid oes yr un o’r cwmnïau sy’n gysylltiedig â chi wedi hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu MBaCh o’r blaen

Yr adegau pan na allwch wneud cais

Ni allwch wneud cais os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych wedi hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu o’r blaen
  • rydych wedi ymrwymo i Gynllun Arbed Treth y dylid ei Ddatgelu (DOTAS)
  • rydych yn ddiffygdalwr corfforaethol difrifol

Yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch

I wneud cais am sicrwydd ymlaen llaw, bydd angen:

  • cyfrifon eich cwmni
  • dogfennau cofrestru eich cwmni gan Dŷ’r Cwmnïau
  • unrhyw ohebiaeth gan CThEF sy’n ymwneud â’ch cais i gael sicrwydd ymlaen llaw
  • Ffurflenni Treth blaenorol y cwmni (does dim angen y rhain ar gyfer cwmnïau newydd)
  • enw’r prif gyswllt, er enghraifft rheolwr ymchwil neu gyfarwyddwr y cwmni sydd â gwybodaeth uniongyrchol o waith Ymchwil a Datblygu’r cwmni, er mwyn trafod y cais â CThEF
  • i chi roi rhywfaint o wybodaeth sylfaenol am eich cwmni
  • i chi roi gwybodaeth fanwl am weithgareddau Ymchwil a Datblygu eich cwmni, ac unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â’r gweithgareddau hynny

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am sicrwydd ymlaen llaw drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein.

Bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth.

Gwneud cais nawr

Ffyrdd eraill o wneud cais

Gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • llenwi’r ffurflen ar-lein
  • lawrlwytho a chadw’r ffurflen ar eich cyfrifiadur

Llenwi’r ffurflen ar-lein

Dilynwch y camau hyn i lenwi’r ffurflen ar-lein.

  1. Gan nad oes modd i chi gadw’ch cynnydd wrth lenwi’r ffurflen, dylech gasglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau.

  2. Llenwch ffurflen CT R&D (AA) cais am sicrwydd ymlaen llaw.

  3. Argraffwch y ffurflen a’i hanfon drwy’r post i CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.

Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrin). Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn Saesneg).

Os nad yw’r ffurflen yn agor, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i gael rhagor o help.

Ni allwch ddefnyddio’r ffurflen hon i wneud hawliad am ryddhad treth, nac i wneud newidiadau i hawliad presennol am ryddhad treth.

Ar ôl i chi wneud cais

Bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost i drefnu galwad ffôn gyda’ch cwmni, fel y gallwn drafod eich gwaith Ymchwil a Datblygu yn fwy manwl. Fel arfer galwad ffôn fer yw hon, ond gall hyn olygu trafodaeth fwy manwl neu ymweliad â’ch cwmni os yw’r achos yn fwy cymhleth.

Yna, byddwn yn anfon llythyr atoch yn rhoi gwybod i chi a oedd eich cais i gael sicrwydd ymlaen llaw yn llwyddiannus ai peidio.

Os ydych yn cael sicrwydd ymlaen llaw

Byddwn yn anfon llythyr atoch yn egluro cyfrifoldebau eich cwmni a beth fydd yn digwydd os bydd eich gweithgareddau Ymchwil a Datblygu yn newid.

Os nad ydych yn cael sicrwydd ymlaen llaw

Byddwn yn anfon llythyr atoch yn nodi’r rhesymau pam. Ni fyddwch yn gallu apelio yn erbyn y penderfyniad hwn nac ailgyflwyno cais am sicrwydd ymlaen llaw, ond gallwch barhau i gyflwyno hawliad am ryddhad treth ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni.

Cyn i chi hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu (R&D)

Mae’n rhaid i chi ddilyn y camau hyn cyn i chi hawlio’r rhyddhad treth, neu efallai na fydd eich hawliad yn ddilys.

  1. Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, gwiriwch a oes angen i chi gyflwyno ffurflen sy’n rhoi gwybod i CThEF am eich hawliad cyn i chi wneud hynny. Dysgwch am yr hyn y mae’n rhaid i chi ei ddarparu pan fyddwch yn rhoi gwybod i CThEF eich bod yn bwriadu hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu.

  2. O 8 Awst 2023 ymlaen, mae’n rhaid i chi gyflwyno ffurflen gwybodaeth ychwanegol i ategu’ch hawliad. Dysgwch am yr hyn y mae’n rhaid i chi ei ddarparu, a sut i anfon yr wybodaeth hon, pan fyddwch yn cyflwyno gwybodaeth fanwl cyn i chi hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu.

Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi ar ôl i chi gyflwyno’ch hawliad cyntaf am ryddhad treth, i wirio ei fod yn cyfateb i’r manylion yn eich cais am sicrwydd ymlaen llaw.

Cyhoeddwyd ar 30 November 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 July 2023 + show all updates
  1. The information about when your application will be accepted and how long it will be valid for has been clarified. The sections 'When you can apply', ‘When you cannot apply’ and 'What you will need' have been updated. The 'How to apply' section now includes the application form and how to complete it. The mandatory date of ‘1 August 2023’ to submit an additional information form has been changed to ‘8 August 2023’ in ‘Before you claim R&D tax relief’, step 2.

  2. More information has been added about what you will need to apply for advance assurance and what happens after you’ve applied. A new section has been added to tell you what you need to do before you claim R&D tax relief for accounting periods beginning on or after 1 April 2023 and for claims from 1 August 2023.

  3. The overview on Advance Assurance webinar has been removed.

  4. A new pre-recorded webinar giving an overview on Advance Assurance has been added to this page.

  5. First published.