Canllawiau

LP15: Sut mae bod yn atwrnai iechyd a lles (fersiwn y we)

Diweddarwyd 16 June 2020

Applies to England and Wales

1. Dechrau arni

Mae’r ganllaw hon i bobl sydd wedi cael eu penodi’n atwrneiod ar gyfer penderfyniadau ynghylch iechyd a lles neu sy’n ystyried cymryd y rôl honno.

Mae bod yn atwrnai yn gyfrifoldeb pwysig. Bydd angen i chi ddeall yn llawn beth mae’n golygu cyn cytuno i dderbyn y swydd - a gallwch ei gwrthod os teimlwch yn anghyfforddus ynglŷn â hyn.

Drwy gydol y ganllaw rydym yn defnyddio straeon pobl eraill i ddangos pethau mae atwrneiod yn eu hystyried wrth wneud penderfyniadau. Nid ydynt yn atebion terfynol ond efallai y byddant yn rhoi syniadau i chi ynglŷn â sut i ymddwyn.

Mae adran Deall y Jargon A i Y ar ddiwedd y llyfryn yn esbonio termau efallai nad ydych yn eu deall.

Beth yw atwrnai?

Yn ôl y gyfraith, atwrnai yw rhywun sy’n cael ei ddewis i weithredu ar ran rhywun arall.

Pan fydd rhywun (sef y ‘rhoddwr’) yn gwneud atwrneiaeth arhosol (LPA), mae’n dewis pobl i wneud penderfyniadau drosto rhag ofn iddo golli galluedd meddyliol. Mae galluedd meddyliol yn golygu’r gallu i wneud eich penderfyniadau eich hun.

Atwrneiod yw’r bobl a ddewiswyd i helpu rhoddwyr. Nid oes angen hyfforddiant arbennig ar atwrneiod ond mae angen iddynt fod yn gywir a dibynadwy.

Drwy gydol y ganllaw hon, rydym yn cyfeirio at yr unigolyn rydych yn gwneud penderfyniadau ynghylch iechyd a lles drosto fel y ‘rhoddwr’

1.1 Beth yw LPA?

Dogfen gyfreithiol yw LPA sy’n enwi’r atwrneiod a fydd yn gwneud penderfyniadau os na fydd y rhoddwr yn gallu. Gallwch wneud LPAs ar gyfer penderfyniadau ynghylch iechyd a lles, neu benderfyniadau ariannol, neu’r ddau.

Mae’r ganllaw hon ar gyfer atwrneiod sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch iechyd a lles ar gyfer rhywun arall. Ceir canllaw ar wahân ar gyfer atwrneiod eiddo a materion ariannol. Mae rhai rhoddwyr yn penodi atwrnai i ymgymryd â’r ddwy rôl.

1.2 Pwy sy’n gallu bod yn atwrnai?

Gall unrhyw un dros 18 oed sydd â galluedd meddyliol fod yn atwrnai iechyd a lles.

1.3 A ddylech fod yn atwrnai?

Mae unigolyn sy’n gofyn i chi yn credu chi yw’r unigolyn cywir i wneud penderfyniadau pwysig iawn drosto ynglŷn â’i iechyd a gofal - gan gynnwys weithiau a ddylid rhoi cydsyniad i driniaeth cynnal bywyd.

Os nad ydych eisoes wedi derbyn y rôl atwrnai, mae angen i chi feddwl yn ofalus a ydych yn barod i’w chy awni.

Pethau i feddwl amdanynt:

  • A fyddai gennych yr amser i helpu’r rhoddwr, os na fydd yn gallu gwneud penderfyniadau dros ei hun ar unrhyw adeg?

  • Ydych yn ei adnabod yn ddigon da i’w helpu? Os nad ydych, a allwch dreulio amser yn darganfod beth mae’n hof/fel?

  • Gall gwneud penderfyniadau dros rywun heb alluedd meddyliol fod yn straen – a allwch ymdopi â gofynion y rôl?

  • A fyddech yn hyderus yn gwneud penderfyniadau er budd pennaf y rhoddwr, hyd yn oed os oedd pobl eraill eisiau rhywbeth arall?

  • Os yw’r rhoddwr yn penodi atwrneiod eraill a byddai’n rhaid i chi gydweithio – a fyddai hynny’n hawdd neu a fyddai gwrthdaro?

Y brif reol ar gyfer atwrneiod yw bod yn rhaid iddynt wneud penderfyniadau er budd pennaf y rhoddwr - nid eu hunain neu unrhyw un arall

1.4 Pa fath o dasgau byddaf yn eu gwneud i’r rhoddwr?

Gall rhoddwyr adael cyfarwyddiadau penodol pan fyddant yn creu LPA ond yn aml mae edrych ar ôl iechyd a lles rhywun yn cwmpasu:

  • lle mae’n byw a gyda phwy

  • ei drefn arferol o ddydd i ddydd, gan gynnwys diet a gwisg

  • trefnu asesiadau a gwasanaethau gofal yn y gymuned

  • gofal personol, fel ymolchi a gwisgo

  • trefnu apwyntiadau â doctoriaid, deintyddion ac optegwyr

  • cytuno i ofal iechyd neu ei wrthod

Os nad yw’r rhoddwr yn gallu deall a gwneud dewisiadau, gwiriwch yn yr LPA ei fod wedi dewis i chi neu ddoctoriaid dderbyn neu wrthod triniaeth a allai ei gadw’n fyw – sef ‘triniaeth cynnal bywyd’.

1.5 Pryd byddaf yn dechrau gweithredu fel atwrnai?

Gallwch weithredu o dan LPA dim ond pan fydd hi wedi’i chofrestru â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG).

Os nad ydych yn siŵr a yw’r LPA wedi’i chofrestru, gwiriwch â’r rhoddwr.

Os nad oes gan y rhoddwr alluedd, gwiriwch y ddogfen LPA – os yw wedi cael ei chofrestru, bydd pob tudalen wedi’i nodi â’r geiriau ‘Registered/Cofrestrwyd’.

Os yw’r LPA wedi’i chofrestru, byddwch yn dechrau gweithredu ar ran y rhoddwr unwaith y bydd wedi colli galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau ynghylch iechyd a lles ei hun. (Mae LPAs eiddo a materion ariannol yn wahanol – gellir eu defnyddio pan fydd y rhoddwr yn dal i fod â galluedd.)

Os ydych yn ansicr ynglŷn â galluedd meddyliol y rhoddwr, gallwch chi, y rhoddwr neu rywun arall drefnu asesiad gan feddyg teulu neu weithiwr meddygol proffesiynol arall.

1.6 Cofrestrwch yn awr

Mae’n well cofrestru’r LPA cyn gynted â phosibl. Os oes gan yr LPA unrhyw gamgymeriadau neu os oes unrhyw broblemau eraill, efallai y bydd yn bosibl eu cywiro os oes gan y rhoddwr alluedd meddyliol yn unig.

Gall naill ai’r rhoddwr ynteu ei atwrnai/atwrneiod gofrestru’r LPA. Os oes gan y rhoddwr alluedd meddyliol, gallech awgrymu iddo wneud cais i OPG yn awr i gofrestru ei LPA.

Os nad yw’r rhoddwr bellach yn gallu gwneud a deall penderfyniadau ac mae ei LPA wedi’i llofnodi a’i dyddio, gall atwrneiod wneud cais i’w chofrestru. (Os yw’r atwrneiod wedi cael eu penodi ar y cyd, bydd angen i bawb ohonoch gofrestru’r LPA gyda’ch gilydd.) Os oes gwallau, fodd bynnag, efallai ni fydd OPG yn gallu cofrestru’r LPA.

Os nad yw OPG yn gallu cofrestru’r LPA ac nid oes gan y rhoddwr alluedd meddyliol, ni ellir defnyddio’r LPA.

Os felly, bydd angen i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod os dymunwch wneud penderfyniadau ar gyfer yr unigolyn. Bydd hyn yn costio £365 - wedi’i dalu o ystâd y rhoddwr - a gall gymryd mwy o amser na chofrestru LPA.

1.7 LPAs wedi’u gwneud ar-lein

Os gwnaethpwyd yr LPA gan ddefnyddio gwasanaeth digidol GOV.UK:

  1. Ewch yn ôl i’r cyfrif ar-lein a llenwch ran gofrestru’r ffurflen electronig, gan gynnwys talu’r f am gais LPA.

  2. Yna argraffwch y ffur en, ei llofnodi yn y drefn gywir a’i hanfon at OPG i gofrestru.

1.8 LPAs wedi’u gwneud ar ffur enni papur:

  • os gwnaethpwyd yr LPA ar ôl 1 Gorffennaf 2015, defnyddiwch y ffurflen gais ar gefn y ffur en LPA ei hun

  • os gwnaethpwyd yr LPA cyn 1 Gorffennaf 2015, gwnewch gais i’w chofrestru gan ddefnyddio ffurflen LP2

2. Beth mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ei wneud?

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn cofrestru LPAs (gan eu gwneud yn dilys yn gyfreithiol) ac yn ymchwilio i bryderon ynglŷn â sut mae atwrneiod yn cy awni eu rôl.

Mae pobl a allai godi pryderon ynglŷn â lles corfforol neu feddyliol y rhoddwr yn cynnwys cyd atwrneiod, aelodau o’r teulu a phobl eraill sy’n gysylltiedig â gofal y rhoddwr.

Mae gan OPG lawer o wybodaeth am fod yn atwrnai ond nid yw’n gallu rhoi cyngor cyfreithiol - ar gyfer hwnnw, gallech siarad â chyfreithiwr.

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Blwch Post 16185

Birmingham B2 2WH

Ffôn: 0300 456 0300

Ebost: customerservices@publicguardian.gov.uk

Dydd Llun i ddydd Gwener 9am i 5pm, ac eithrio dydd Mercher 10am i 5pm

3. Beth i’w wneud yn awr

3.1 Dod i adnabod y rhoddwr yn well

Os nad ydych eisoes yn adnabod y rhoddwr, darganfyddwch beth mae’n hof a beth nad yw’n hof , ei werthoedd a’i safbwyntiau – naill ai’n awr neu yn y gorffennol.

Os yw’r rhoddwr yn dal i fod yn gallu, trafodwch ag ef:

  • lle y mae eisiau byw

  • a yw’n dilyn unrhyw ddiet penodol, fel un llysieuol neu fegan

  • ei farn am ofal iechyd – os cewch eich dewis yn yr LPA i wneud penderfyniadau am ‘driniaeth cynnal bywyd’, dylai hyn gynnwys yr hyn byddai’n derbyn doctoriaid yn ei wneud i’w gadw’n fyw

  • unrhyw safbwynt gwleidyddol neu foesol sy’n dylanwadu ar y penderfyniadau mas’n gwneud

  • beth fydd yn digwydd os na fydd yn gallu gofalu am ei anifeiliaid anwes

  • sut mae’n hof gwisgo a gwneud ei wallt

  • ei hobïau a’u chwaeth mewn cerddoriaeth, teledu, radio neu lyfrau

  • a yw’n well ganddo fod y tu mewn neu’r tu allan

  • pethau bach sy’n codi ei galon, fel ei hoff f lm, croesair, gwydraid o win neu daith gerdded

Ysgrifennwch y pethau hyn i lawr – neu gofynnwch i’r rhoddwr ysgrifennu i lawr y pethau sy’n bwysig iddo.

Os nad ydych yn adnabod yr unigolyn sydd wedi gwneud yr LPA yn dda, ystyriwch hwn fel cy e i’w ddeall yn well.

Po fwyaf rydych yn gwybod amdano, y gorau byddwch yn gallu gwneud penderfyniadau os na fydd ef yn gallu gwneud ar ryw adeg.

Os nad yw bellach yn gallu siarad â chi am ei ddymuniadau a’i gredoau, yna gofynnwch i bobl eraill sy’n ei adnabod yn dda wrth i chi wneud penderfyniadau.

Cynllunio ymlaen

Gofynnwch i’r rhoddwr a yw wedi gwneud cynlluniau gofal. Gallai’r rhain gynnwys:

  • datganiad o ddymuniadau a ffafriaeth ynglŷn â’i ofal a thriniaeth (gallai hwn fod yn ysgrifenedig neu wedi’i ddweud wrth bobl)

  • ‘penderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth’ (ADRT) – weithiau hefyd yn cael ei alw’n ‘ewyllys fyw’ neu ‘gyfarwyddeb ymlaen llaw’ – y gall staff iechyd a gofal cymdeithasol ei ddilyn

Dogfen gyfreithiol yw ADRT y mae’n rhaid ei llofnodi a’i thystio.

Os dewisodd y rhoddwr chi yn yr LPA i benderfynu am driniaeth feddygol sy’n cynnal bywyd ac mae’n colli galluedd:

  • gallwch siarad â doctoriaid fel petai chi yw’r rhoddwr

  • efallai y bydd yr LPA yn cymryd lle ADRT

Edrychwch a yw’r LPA yn cynnwys unrhyw gyfarwyddiadau neu ffafriaeth ynglŷn â sut dylech wneud penderfyniadau i’r rhoddwr.

3.2 Cewch fanylion cyswllt a chopïau ardystiedig o’r LPA

Gofynnwch i’r rhoddwr:

  • am fanylion cyswllt gweithwyr proffesiynol fel ei feddyg teulu, deintydd ac optegydd

  • ble mae’n cadw’r ddogfen LPA

Os bydd yr LPA yn cael ei cholli neu ei dinistrio, gall OPG wneud copïau am £35 yr un.

Os oes gan y rhoddwr alluedd meddyliol, gofynnwch iddo wneud copïau swyddogol o’i ddogfen LPA cofrestredig – sef copïau ‘ardystiedig’. Gallwch ddefnyddio copi ardystiedig yn yr un ffordd â’r gwreiddiol - i bro bod gennych ganiatâd i wneud penderfyniadau ar ran y rhoddwr.

Os nad oes gan y rhoddwr alluedd meddyliol, gall cyfreithiwr neu notari wneud copïau swyddogol hefyd - fodd bynnag, bydd yn codi ffi.

I gael manylion am ardystio LPA, ewch i www.gov.uk/power-of-attorney/certify

3.3 Dechreuwch gofnodi eich penderfyniadau fel atwrnai

Unwaith y byddwch yn dechrau gweithredu fel atwrnai, dylech gadw cofnod o’r holl benderfyniadau pwysig byddwch yn eu gwneud ynghylch iechyd a lles y rhoddwr.

Gallai penderfyniadau arwyddocaol gynnwys dewis cartref gofal, cytuno i driniaeth feddygol neu wneud newid i ddiet y rhoddwr am resymau iechyd. Nid oes yn rhaid i chi gynnwys mân faterion, bob dydd.

Gallech gadw cyfnodolyn ysgrifenedig neu greu ffeil ar eich cyfri adur (gan gadw copi wrth gefn) yn cofnodi’r penderfyniadau byddwch yn eu gwneud a phryd. Dylech gynnwys manylion pwy y gwnaethoch ymgynghori â hwy ynglŷn ag unrhyw benderfyniadau ac unrhyw anghydfodau ynglŷn â phenderfyniadau.

4. Eich rôl fel atwrnai

4.1 Beth mae galluedd meddyliol yn ei olygu?

Fel atwrnai, byddwch yn dechrau gwneud penderfyniadau ynghylch Iechyd a lles i’r rhoddwr unwaith y bydd wedi colli galluedd meddyliol.

Os na fydd gan rywun alluedd meddyliol, nid oes ganddo’r gallu i wneud penderfyniadau penodol – yn yr achos hwn, penderfyniadau ynghylch iechyd a lles ei hun – ar yr adeg y mae angen eu gwneud.

Efallai ni fydd gan rywun alluedd meddyliol oherwydd problem â’r meddwl neu’r ymennydd fel:

  • dementia

  • anaf difrifol i’r ymennydd

  • salwch meddwl difrifol

Efallai y bydd y rhoddwr yn gallu gwneud rhai penderfyniadau, fel beth yr hoffai ei gael i swper, ond heb fod yn gallu gwneud penderfyniadau mwy cymhleth, fel p’un a dylid symud i gartref gofal.

Efallai y bydd ei alluedd meddyliol yn mynd a dod, felly efallai y bydd yn gallu gwneud penderfyniadau ar rai adegau ond ni fydd ar adegau eraill.

Galluedd meddyliol; pum egwyddor

Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 - sy’n llywodraethu sut mae atwrneiod yn gallu gweithredu - yn manylu ar bum rheol am bobl heb alluedd meddyliol.

Mae’r egwyddorion yn effeithio arnoch chi fel atwrnai yn y ffordd hon:

  1. Mae’n rhaid i chi adael i’r rhoddwr wneud penderfyniadau dros ei hun oni bai y gellir dangos nad yw’n gallu eu gwneud.

  2. Dylech roi’r holl help i’r rhoddwr y mae ei angen i wneud penderfyniad cyn penderfynu nad yw’n gallu gwneud y penderfyniad hwnnw.

  3. Os bydd rhoddwr yn gwneud penderfyniad sy’n ymddangos i fod yn annoeth neu’n rhyfedd, nid yw hynny’n golygu nad oes ganddo’r galluedd i’w wneud. (Bydd llawer ohonom yn gwneud penderfyniadau annoeth o bryd i’w gilydd.)

  4. Mae’n rhaid i unrhyw benderfyniad byddwch yn ei wneud i’r rhoddwr fod er ei fudd pennaf - pwynt pwysig iawn sy’n cael ei esbonio mwy isod.

  5. Dylai unrhyw beth fyddwch yn ei wneud ar ran rhywun arall sydd heb alluedd gyfyngu ei hawliau sylfaenol cyn lleied â phosibl.

Dylai’r rheolau hyn arwain eich holl benderfyniadau ar ran y rhoddwr.

Mae Cod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn esbonio cefndir cyfreithiol bod yn atwrnai ac mae’n cynnwys llawer o enghreifftiau defnyddiol o ran sut gall atwrneiod weithredu. Gallwch ei archebu neu ei lawr-lwytho yn www.gov.uk/opg/mca-code

4.2 Sut alla i ddweud pan fydd gan rywun alluedd meddyliol?

Mae’r gyfraith yn dweud bod angen i chi gael ‘cred resymol’ ynglŷn â galluedd meddyliol y rhoddwr i wneud penderfyniadau.

Weithiau mae hynny’n golygu ystyried y mathau o benderfyniadau mae ef wedi’u gwneud yn y gorffennol a gofyn: A yw’n rhesymol meddwl y mae’n debygol y bydd - neu ni fydd - ef yn gallu gwneud y penderfyniad hwn heddiw?

Er enghraifft, os yw wedi mynd yn ddryslyd yn y gorffennol ynglŷn â phenderfyniadau fel triniaeth feddygol neu ei drefniadau ewyllys fyw, mae’n rhesymol dod i’r casgliad y bydd yn parhau i fod angen help wrth wneud penderfyniadau o’r fath – neu ni fydd yn gallu eu gwneud.

Ond os yw fel arfer yn gallu helpu â phenderfynu am ei ddiet, byddai’n afresymol peidio â’i gynnwys mewn penderfyniadau o’r fath.

Os bydd galluedd meddyliol y rhoddwr yn amrywio – yn newid llawer – efallai y bydd angen i chi wirio’n fwy aml pa benderfyniadau y mae’n gallu eu gwneud. Ond os yw cy wr y rhoddwr yn aros yr un fath neu’n dirywio, efallai ni fydd angen i chi wirio ei alluedd bob dydd yn rhesymol ar gyfer penderfyniadau fel pa ddillad i’w gwisgo.

Hefyd gallwch ofyn cyfres o gwestiynau i’ch hun i wirio galluedd meddyliol y rhoddwr:

  • a oes ganddo ddealltwriaeth gyffredinol o’r penderfyniad y mae angen ei wneud?

  • a oes ganddo ddealltwriaeth gyffredinol o ganlyniadau ei benderfyniad?

  • a yw’n gallu cadw’r wybodaeth hon a’i phwyso a mesur i wneud penderfyniad?

4.3 Sut i helpu’r rhoddwr i wneud penderfyniadau

Weithiau bydd angen i chi ddewis y lle ac amser cywir i helpu’r rhoddwr wrth wneud penderfyniadau neu bydd angen i chi roi cynnig ar wahanol ffyrdd o gyfathrebu.

Er enghraifft, efallai y bydd y rhoddwr yn fwy ymatebol os byddwch yn dewis y lleoliad cywir - efallai y bydd yn llai dryslyd yn ei gartref, yn hytrach nag mewn amgylchedd anghyfarwydd.

Neu a yw’r rhoddwr yn fwy bywiog yn y bore fel arfer? Efallai dyna yw’r amser gorau i’w gynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau, yn hytrach na’n ddiweddarach yn y dydd.

Weithiau bydd y rhoddwr angen ychydig bach yn fwy o amser i chi esbonio penderfyniad.

Efallai y bydd gwahanol ffyrdd o gyfathrebu’n helpu hefyd:

  • rhowch gynnig ar ddefnyddio lluniau neu iaith arwyddion i esbonio penderfyniad i’r rhoddwr

  • efallai bod y rhoddwr yn gallu pwyntio, gwasgu eich llaw, amrantu neu nodio i ddangos i chi’r hyn mae ef ei eisiau, hyd yn oed os nad yw’n gallu dweud unrhyw beth

Ceisiwch aros yn ddigyffro. Weithiau gall gymryd amser i wneud penderfyniad, os yw rhywun yn sâl neu’n methu â siarad.

Os ydych yn parhau i fod yn ansicr a yw’r rhoddwr yn gallu deall a gwneud penderfyniadau, gallech ofyn i’r doctor ei asesu. Gallech hefyd ofyn i ffrindiau, teulu a staff gofal sy’n gweld y rhoddwr yn aml.

4.4 Enghraifft: Dweud pan fydd gan rywun alluedd meddyliol*

Wrth gynllunio ar gyfer ei hymddeoliad, mae Joyce yn gwneud atwrneiaeth arhosol ar gyfer iechyd a lles ac yn enwi ei mab, Ralph, fel ei hatwrnai. Bellach mae hi wedi cael diagnosis o ddementia, ac mae Ralph yn pryderu ei bod hi’n drysu ynglŷn â phenderfyniadau.

Mae Ralph yn dechrau trwy dybio bod gan Joyce alluedd meddyliol i reoli ei dewisiadau ei hun. Yna mae’n ystyried pob un o benderfyniadau ynghylch iechyd a lles Joyce wrth iddi wneud y rhain, gan ei helpu os bydd angen.

Mae Ralph yn helpu Joyce trwy ddiwrnod arferol ac yn darganfod ei bod yn gallu gwneud penderfyniadau ynglŷn â pha brydau byddai’n hof a beth hoffai wisgo. Ond pan fydd Ralph yn gofyn iddi am ymweld â’r doctor ar gyfer apwyntiad dilynol arthritis, mae Joyce yn angho o dro ar ôl tro pryd bydd hi ar gael.

Daw Ralph i’r casgliad bod gan Joyce alluedd meddyliol i ddelio â rhai materion gofal personol o ddydd i ddydd ond nid ar gyfer rhai penderfyniadau eraill sy’n cynnwys prydlondeb. Mae’n defnyddio LPA Joyce i drefnu triniaethau meddygol a deintyddol iddi.

———

*Mae’r enghreifftiau yn y ganllaw hon yn defnyddio sefyllfaoedd a chymeriadau dychmygol i’ch helpu wrth wneud penderfyniadau fel atwrnai

4.5 Sut ydw i’n gwneud penderfyniadau er budd pennaf y rhoddwr?

Pan fyddwch yn gwneud penderfyniadau i’r rhoddwr, mae’r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i bob penderfyniad er ei fudd pennaf.

Mae’n rhaid i chi beidio â gwneud penderfyniad sy’n addas i chi neu bobl eraill - mae’n rhaid iddo fod yn iawn i’r rhoddwr.

Cyn gwneud penderfyniadau i’r rhoddwr:

  • gwiriwch yr LPA am unrhyw gyfarwyddiadau mae ef wedi’u cynnwys – mae’r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i chi ddilyn y rhain

  • ceisiwch ddilyn unrhyw ffafriaeth mae’r rhoddwr wedi cynnwys yn yr LPA – nid oes yn rhaid i chi ei dilyn ond dylech ei hystyried wrth wneud penderfyniadau

  • ystyriwch werthoedd a dymuniadau’r rhoddwr – gan gynnwys unrhyw safbwyntiau moesol, gwleidyddol neu grefyddol a fu ganddo

  • meddyliwch am beth fyddai’r rhoddwr wedi penderfynu petai’n gallu

  • peidiwch â gwneud rhagdybiaethau ar sail oedran, rhyw, cefndir ethnig, rhywioldeb, ymddygiad neu iechyd y rhoddwr – meddyliwch am beth fyddai ef fel unigolyn ei eisiau

Dylech hefyd feddwl a allai’r rhoddwr adennill galluedd meddyliol – er enghraifft, os yw ei gy wr yn gwella neu os yw’n dysgu sgiliau newydd. Os felly, a yw’r penderfyniad yn gallu aros tan hynny?

Gofyn i bobl eraill

Mae’r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i chi ymgynghori ag unrhyw un mae’r LPA yn dweud bod yn rhaid i chi ymgynghori â hwy ynglŷn â phwnc penodol, er enghraifft gofal iechyd neu drefniadau byw’r rhoddwr.

Os ydych yn gwneud penderfyniad ynglŷn â materion o ddydd i ddydd, fel gweithgareddau hamdden a diet, yna efallai y bydd staff y cartref gofal yn gallu’ch cynghori hefyd.

Os ydych yn gwneud penderfyniad mawr, fel penderfyniad ynglŷn â thriniaeth feddygol, yna’n aml bydd angen i chi ymgynghori â gweithiwr proffesiynol fel doctor i ddangos eich bod yn gweithredu er budd pennaf y rhoddwr.

Cyfarfodydd budd pennaf

Os yw penderfyniad yn gymhleth neu ar bwnc nad ydych yn gwybod llawer amdano, gallech ystyried galw ‘cyfarfod budd pennaf’.

Fel rhan o’r cyfarfodydd hyn, bydd grŵp o bobl sy’n gysylltiedig â gofal y rhoddwr yn ymgynnull i rannu barn ar y ffordd orau o weithredu. Efallai y bydd y broses hon yn eich helpu i wneud penderfyniad er budd pennaf y rhoddwr. Gall gweithwyr proffesiynol sy’n gysylltiedig â thriniaeth y rhoddwr neu ei ofal drefnu cyfarfod budd pennaf.

Cofiwch: gadw cofnod o benderfyniadau pwysig, pwy rydych wedi ymgynghori â hwy, unrhyw anghydfodau a pham fod y penderfyniad er budd pennaf y rhoddwr.

4.6 Beth nad wyf yn gallu ei benderfynu?

Ni allwch:

  • wneud unrhyw beth nad yw’r LPA yn ei ganiatáu

  • gwneud penderfyniadau am faterion ariannol y rhoddwr – oni bai bod y rhoddwr hefyd wedi’ch enwi mewn LPA ar gyfer penderfyniadau ariannol

  • cytuno i’r rhoddwr briodi, ysgaru, diddymu ei bartneriaeth si l neu gael rhyme

  • gwneud penderfyniadau sy’n gwahaniaethu yn erbyn y rhoddwr ar sail ei oedran, rhyw, rhywioldeb neu gefndir ethnig

  • gwneud penderfyniad am driniaeth ar gyfer anhwylder meddyliol os yw’r rhoddwr wedi cael ei gadw dan orfodaeth (ei gymryd i’r ysbyty fel achos brys o dan adran 4 Deddf Iechyd Meddwl 1983)

Pryd fydd rhywun arall yn penderfynu

Nid ydych yn penderfynu ar bopeth i’r rhoddwr – gallwch wneud penderfyniadau mewn meysydd y mae’r LPA yn dweud y gallwch yn unig.

Mae’r gyfraith yn rhoi pŵer penderfynu dros y rhoddwr i bobl eraill hefyd. Er enghraifft, efallai y bydd doctor angen penderfynu a yw triniaeth er budd pennaf y rhoddwr neu efallai y bydd perthynas yn gwneud penderfyniadau o ddydd i ddydd.

Ar gyfer penderfyniadau ni fyddwch yn eu gwneud, efallai y bydd y sawl sy’n penderfynu’n ymgynghori â chi.

I gael mwy o wybodaeth am fudd pennaf, gwelwch bennod 5 Cod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol.

4.7 Enghraifft: Parchu credoau a gwerthoedd rhoddwr

Mae Derek wedi bod yn llysieuwr llym am y rhan fwyaf o’i fywyd fel oedolyn. Rhai blynyddoedd yn ôl, penododd ei ferch, Lucy, fel ei atwrnai iechyd a lles.

Gyda dyfodiad clefyd Alzheimer, mae Derek yn cael trafferth wrth wneud llawer o benderfyniadau o ddydd i ddydd, gan gynnwys ynglŷn â’i ddiet. Fodd bynnag, mae Derek wedi gadael cyfarwyddiadau yn ei LPA y dylai barhau i fwyta bwyd llysieuol yn unig os bydd yn colli galluedd meddyliol. Hefyd dywedodd na ddylai pwy bynnag sydd wedi paratoi’r bwyd ddefnyddio offer a ddefnyddiwyd i wneud prydau sy’n cynnwys cig.

Mae Lucy wedi cyfarfod â staff y gegin yng nghartref gofal Derek i drafod sut y gallant gadw at ffafriaeth Derek o ran bwyd. Mae hi hefyd yn ymchwilio i brydau llysieuol ar y rhyngrwyd ac yn pasio awgrymiadau i staff y cartref gofal i gadw diet Derek yn amrywiol a blasus.

5. Beth ddylwn i wneud os… ? Rhai penderfyniadau cyffredin y gallai fod angen i atwrnai iechyd a lles eu gwneud

5.1 Ceir mwy nag un atwrnai

Efallai bod y rhoddwr wedi penodi dau atwrnai neu fwy i wneud ei benderfyniadau ynghylch iechyd a lles.

Pan fydd mwy nag un atwrnai, mae’r rhoddwr yn pennu bod yn rhaid iddynt wneud penderfyniadau mewn un o’r ffyrdd hyn:

  • gyda’i gilydd (hefyd yn cael ei alw’n ‘ar y cyd’), sy’n golygu bod yn rhaid i’r holl atwrneiod gytuno ar benderfyniadau

  • gyda’i gilydd neu ar wahân (hefyd yn cael ei alw’n ‘ar y cyd ac yn unigol’), sy’n golygu bod atwrneiod yn gallu gwneud penderfyniadau ar eu pen eu hunain neu gyda’r atwrneiod eraill

  • gyda’i gilydd ar gyfer rhai penderfyniadau ac ar wahân ar gyfer penderfyniadau eraill, sy’n golygu bod yn rhaid i’r holl atwrneiod gytuno ar benderfyniadau mae’r rhoddwr yn eu pennu, ond gallant wneud rhai eraill ar eu pen eu hunain

Mae’n rhaid i atwrneiod ar y cyd gytuno ar benderfyniadau ond nid oes yn rhaid iddynt eu cy awni gyda’i gilydd o reidrwydd. Er enghraifft, cyn belled â bod gennych dystiolaeth o gytundeb ar y cyd, efallai y bydd angen i un atwrnai’n unig gytuno i driniaeth feddygol.

5.2 Rwyf angen penderfynu lle mae’r rhoddwr yn byw

Yn aml bydd angen i chi weithio gyda theulu a ffrindiau’r rhoddwr, yn ogystal â darparwyr gofal eraill, i wneud penderfyniadau am drefniadau byw’r rhoddwr.

Dylech ymchwilio i lety sy’n gywir i’r rhoddwr, os yw’n talu am ei ofal ei hun. Os nad yw’n talu am ei ofal ei hun, gweithiwch yn agos ag awdurdodau lleol i wneud yn siŵr bod ei lety’n diwallu ei anghenion. Os oes problem, trafodwch hyn â gwasanaethau cymdeithas a staff gofal.

Ni ddylech symud y rhoddwr i rywle arall heb ymgynghori â phobl eraill fel aelodau o’r teulu, gweithiwr iechyd proffesiynol, staff gofal a gwasanaethau cymdeithasol.

Os oes anghytundeb, efallai y bydd cyfarfodydd budd pennaf yn helpu i’w ddatrys. Os na allwch drefnu cyfarfod, bydd angen i chi ddangos eich bod wedi ymgynghori’n ffur ol â phobl sy’n gysylltiedig â gofal y rhoddwr.

Os na fydd y dulliau hyn o weithredu’n gweithio, efallai y bydd angen i chi ofyn i’r Llys Gwarchod benderfynu.

5.3 Enghraifft: Gwneud penderfyniadau gyda’i gilydd

Mae Aisha a Tariq yn atwrneiod iechyd a lles ar y cyd ar gyfer eu brawd, Noor, sydd wedi dioddef niwed i’r ymennydd yn dilyn damwain car.

Mae Tariq yn meddwl bod problemau Noor yn ddigon llethol y dylid ei symud i gartref nyrsio. Ond mae Aisha’n nodi bod Noor yn ymddangos yn o dus pan fydd i ffwrdd o amgylchiadau cyfarwydd am amser hir. Mae’n awgrymu y dylai Noor symud i mewn gyda hi neu Tariq, os yw’n bosibl.

Yn gyntaf mae Aisha a Tariq yn ceisio cael barn Noor ond nid yw’n ymddangos i gael llawer o ddealltwriaeth o’r penderfyniad y mae angen ei wneud. Felly maent yn cyfarfod â gweddill y teulu i helpu i benderfynu ble dylai Noor fyw.

Mae’r atwrneiod yn gwrando ar aelodau o’r teulu cyn penderfynu y byddai er budd pennaf Noor iddo ddod i arfer â byw mewn cartref nyrsio yn gynnar. Byddant yn addurno ei ystafell yn y cartref ag eitemau cyfarwydd ac yn ymweld ag ef yn aml, ynghyd ag aelodau eraill o’r teulu.

5.4 Mae gofyn i mi roi cydsyniad i driniaeth feddygol i’r rhoddwr

Dylai’ch penderfyniadau am driniaeth feddygol y rhoddwr bob amser gael eu llywio gan ei fudd pennaf.

Dylech:

  • lofnodi ffur enni ‘cydsyniad i driniaeth’ ar ran y rhoddwr – gan ystyried ei ddymuniadau yn y gorffennol

  • rhannu unrhyw gyfarwyddiadau neu ffafriaeth yn LPA y rhoddwr â staff gofal

  • gwneud yn siŵr bod gan y staff gopïau o unrhyw Benderfyniad Ymlaen Llaw i Wrthod Triniaeth (‘cyfarwyddeb ymlaen llaw’ neu ‘ewyllys fyw’) neu unrhyw ddatganiad ysgrifenedig o ddymuniadau a ffafriaeth, fel datganiad ymlaen llaw

  • dilyn dymuniadau’r rhoddwr ynglŷn â thriniaeth feddygol, hyd yn oed os ydych yn anghytuno â hwy

Ond ni ddylech:

  • orfodi eich dewisiadau meddygol eich hun – mae’n rhaid i’ch penderfyniadau gael eu seilio ar fudd pennaf y rhoddwr a’i ddewisiadau yn y gorffennol

  • trin y rhoddwr eich hun neu newid triniaeth neu feddyginiaeth a ragnodwyd – mae’n rhaid i chi gytuno ar newidiadau â staff gofal iechyd

  • os yw’r rhoddwr mewn cartref gofal, peidiwch â newid padiau anymataliaeth, rhoi meddyginiaeth neu newid dresins heb ofyn i’r rheolwr

5.5 Enghraifft: Penderfynu ynglŷn â thriniaeth feddygol

Mae Jakub yn dioddef gan ddementia ac nid yw bellach yn gallu cyfathrebu’n dda. Mae’n byw gartref gyda’i wraig, Lena, ei atwrnai iechyd a lles.

Ar drip gyda Lena, mae Jakub yn torri ei goes ac yn cael baw yn y briw. Mae doctor eisiau rhoi pigiad tetanws iddo ond mae Jakub yn straffaglu ac yn go dio pan fydd y doctor yn ceisio rhoi pigiad iddo.

Mae’r doctor yn trafod gallu Jakub i wneud a deall penderfyniadau â Lena. Mae Lena yn credu nad yw’n deall y risg i’w iechyd, er ei bod hi wedi ceisio esbonio. Nid yw Jakub yn gallu gwneud y penderfyniad.

Ar ôl siarad â’r doctor, mae Lena’n penderfynu ei bod er budd pennaf Jakub iddo gael y brechiad. Mae’r doctor yn gofyn i nyrs gysuro Jakub ac, os bydd angen, ei ffrwyno trwy ddal ei ddwylo wrth iddi roi’r pigiad.

5.6 Rwyf angen gwneud penderfyniadau ynglŷn â gweithgareddau hamdden a chymdeithasol y rhoddwr

Meddyliwch am ffafriaeth y rhoddwr yn y gorffennol a sut mae bellach yn ymateb yn ystod gweithgareddau hamdden.

Trefnwch weithgareddau roedd y rhoddwr arfer eu gwneud, fel trip i’r theatr, sinema, sw, bingo, parc neu gyngerdd. Os yw’n bosibl, siaradwch â’r rhoddwr am weithgareddau hamdden a thripiau y byddai’n hoffi.

Hyd yn oed os nad yw’r rhoddwr yn dangos yr un brwdfrydedd ag arfer, ni ddylech ei atal rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden neu gymdeithasol y gallai fwynhau.

Rhowch wybod i staff y cartref gofal os nad oedd y rhoddwr yn hof gwneud rhai pethau. Ar y llaw arall, efallai bod y rhoddwr yn mwynhau gwahanol bethau i’r hyn roedd yn mwynhau pan oedd ganddo alluedd meddyliol – efallai bod ei ffafriaeth wedi newid.

5.7 Rwyf eisiau hawlio treuliau fel atwrnai

Gallwch hawlio treuliau rhesymol am bethau sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol â chy awni eich rôl fel twrnai, fel galwadau ffôn, postio ac unrhyw gostau teithio gofynnol. Ni allwch hawlio costau teithio am ymweliadau cymdeithasol yn unig, oherwydd bod y rhain yn perthyn i’ch rôl fel ffrind neu aelod o’r teulu yn hytrach nag atwrnai.

Rydych yn hawlio treuliau o arian y rhoddwr, trwy bwy bynnag sy’n edrych ar ei ôl. Efallai bod rhywun arall yn gweithredu fel atwrnai’r rheolwr ar gyfer eiddo a materion ariannol. Os chi yw atwrnai’r rhoddwr ar gyfer penderfyniadau ariannol a rhai ynghylch iechyd a lles, gallwch ddigolledu’ch hun am dreuliau dilys.

Mae’r gyfraith yn dweud ni allwch ddefnyddio eich swydd fel atwrnai er eich budd eich hun. Os yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn credu bod eich treuliau’n afresymol, efallai y bydd yn ymchwilio ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu’r arian yn ôl.

Mewn achosion eithafol, efallai y byddwch yn cael eich rhyddhau fel atwrnai (y Llys Gwarchod yn dod â’r rôl fel atwrnai i ben).

5.8 Rwyf eisiau cael fy nhalu fel atwrnai

Ni allwch hawlio f oedd am amser sy’n cael ei dreulio’n gweithredu fel atwrnai oni bai y nodir hynny yn yr LPA. Mae’r rhan fwyaf o atwrneiod yn ffrindiau neu deulu nad ydynt yn cael eu talu. Fel arfer bydd atwrneiod proffesiynol (fel cyfreithwyr) yn cael eu talu.

5.9 Enghraifft: Hawlio treuliau fel atwrnai

Mae Cathy yn atwrnai iechyd a lles ar gyfer ei ffrind am gyfnod maith Abigail, sydd â dementia ac yn byw mewn cartref gofal.

Bydd Cathy’n teithio’n rheolaidd i’r cartref, oddeutu hanner awr o le mae’n byw, i ymweld ag Abigail a thrafod ei gofal â staff. Gall Cathy hawlio treuliau am yr ymweliadau hyn, gan gynnwys petrol ar gyfer y trip a chostau parcio - fel arall byddai hi ar ei cholled am gy awni ei dyletswyddau fel atwrnai.

Fodd bynnag, nid yw Cathy’n gallu hawlio treuliau am ei thrip i’r cartref gofal adeg y Nadolig gyda rhai o ffrindiau eraill Abigail. Mae hwn yn cyfrif fel ymweliad cymdeithasol yn unig, ac nid yw Cathy’n gallu hawlio ar ei gyfer.

5.10 Mae gofyn i mi wneud penderfyniadau am faterion ariannol y rhoddwr

Fel atwrnai iechyd a lles, gallwch wneud penderfyniadau am arian y rhoddwr dim ond os bydd hefyd wedi’ch penodol fel atwrnai eiddo a materion ariannol.

Os yw’r rhoddwr wedi penodi rhywun arall fel ei atwrnai eiddo a materion ariannol, gall fod yn syniad da iddo ymgynghori â chi pan fydd yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar iechyd a lles y rhoddwr. Er enghraifft, efallai ei fod yn gwerthu tŷ roedd y rhoddwr arfer â byw ynddo ond yn dal i ymweld ag ef.

5.11 Rwyf eisiau trosglwyddo fy nyletswyddau atwrnai i rywun arall

Ni allwch wneud hyn. Gallwch geisio cyngor arbenigol am iechyd a lles y rhoddwr ond mae’r gyfraith yn dweud ni allwch ddirprwyo eich penderfyniadau pan fyddwch yn dal i fod yn atwrnai. Yn y pen draw, mae’n rhaid i chi wneud y penderfyniadau.

Gallwch ‘ymwrthod’ eich atwrneiaeth os nad ydynt bellach yn dymuno cy awni’r rôl. Gwelwch ‘Pryd byddaf yn rhoi’r gorau i fod yn atwrnai?’ yn ddiweddarach yn y ganllaw hon.

5.12 Ceir anghydfod ynglŷn â’m rôl fel atwrnai

Weithiau mae anghydfodau ac anghytundebau’n digwydd dros y penderfyniadau y mae atwrnai yn eu gwneud dros y rhoddwr.

Gall anghydfod codi:

  • rhwng yr atwrnai/atwrneiod a’r rhoddwr/rhoddwyr

  • rhwng atwrneiod eu hunain

  • â phobl eraill sydd â diddordeb yn y rhoddwr, fel aelodau o’r teulu

Anghydfodau â’r rhoddwr

Os yw’r rhoddwr yn anghytuno â phenderfyniad rydych yn ei wneud ac mae’n dal i fod â galluedd, mae’n rhaid i chi beidio â gwneud y penderfyniad hwnnw. Ond os ydych yn credu’n rhesymol ei fod heb alluedd i wneud y penderfyniad, gallwch ei wneud cyn belled:

  • â’i fod er budd pennaf y rhoddwr

  • nid oes cyfarwyddiadau yn yr LPA yn eich atal rhag gwneud y penderfyniad

Os ydych yn ansicr ynghylch gwneud penderfyniad fel atwrnai, cysylltwch ag OPG.

Anghydfodau â phobl eraill

Os nad yw atwrneiod sy’n gweithredu ar y cyd yn gallu cytuno ar benderfyniad i’r rhoddwr, cysylltwch ag OPG i gael cyngor. Gall OPG hefyd gynghori ar ddatrys anghydfodau rhwng atwrneiod a ffrindiau ac aelodau o deulu’r rhoddwr.

Os ydych yn herio penderfyniad rhywun arall, mae angen tystiolaeth arnoch nad yw’r sawl sy’n penderfynu yn gweithredu er budd pennaf y rhoddwr. Ni allwch anghytuno â’r penderfyniad yn unig.

Dylech gadw cofnod o unrhyw anghydfodau ynglŷn â’ch atwrneiaeth a sut y cawsant eu datrys.

6. Amddiffyn y rhoddwr

Yn ogystal â chynnig cymorth a chyngor i atwrneiod, un o rolau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yw amddiffyn pobl heb alluedd meddyliol rhag cam-drin neu gam-fanteisio.

Cam-drin yw unrhyw beth sy’n mynd yn erbyn hawliau dynol a si l unigolyn. Gall fod yn fwriadol a gall ddigwydd oherwydd nad yw atwrnai’n gwybod sut i ymddwyn yn gywir neu nad oes ganddo’r help a chymorth cywir.

Gallai cam-drin gan atwrnai iechyd a lles gynnwys:

  • trais, fel gwthio neu slapio’r rhoddwr

  • bygwth y rhoddwr

  • gorfodi eich credoau eich hun ar y rhoddwr

  • cosbi’r rhoddwr oherwydd iddo fod yn ‘ddrwg’

  • atal y rhoddwr rhag cysylltu â phobl eraill

  • esgeuluso’r rhoddwr, fel peidio â darparu meddyginiaeth neu fwyd

  • cynnwys y rhoddwr mewn gweithredoedd rhywiol heb ei gysyniad

6.1 Ymwelwyr y Llys Gwarchod

Gall OPG drefnu i ymwelydd y Llys Gwarchod gyfarfod â chi os byddwn yn ymchwilio i bryderon ynglŷn â sut rydych yn gweithredu fel atwrnai.

Fel arfer bydd ymwelwyr yn cyfarfod â chi a’r rhoddwr, neu’r rhoddwr ar ei ben ei hun, ac yn trafod sut rydych yn ymdopi â’ch rôl. Weithiau bydd ymwelwyr hefyd yn cysylltu â phobl eraill sy’n gysylltiedig, fel aelodau o’r teulu neu ddoctoriaid.

Fel atwrnai, mae’n rhaid i chi gydymffur o ag ymwelydd y llys a rhoi iddo unrhyw wybodaeth mae’n gofyn amdani. Bydd OPG yn cyfeirio achosion difrifol o gam-drin posibl i’r llys, a allai ddirymu (canslo) yr LPA os bydd yn penderfynu bod:

  • rhywun wedi pwyso ar y rhoddwr i wneud LPA

  • yr atwrnai wedi gwneud rhywbeth nid yw’r LPA yn caniatáu iddo wneud

  • nid yw’r atwrnai yn ymddwyn mewn ffordd sydd er budd pennaf y rhoddwr

6.2 Enghraifft: Ymwelwyr y Llys Gwarchod

Gwnaeth Jack LPA yn penodi ei fab, Oliver, fel ei atwrnai iechyd a lles. Pan gollodd Jack alluedd i wneud penderfyniadau ynghylch iechyd a lles, cofrestrodd Oliver yr LPA a bellach mae’n gwneud llawer o benderfyniadau meddygol a phenderfyniadau gofal i Jack.

Fodd bynnag, mae aelodau eraill y teulu’n meddwl y gallai Oliver fod yn cam-drin ei swydd fel twrnai. Maent yn dweud ei fod wedi atal aelodau eraill o’r teulu nad yw’n dod ymlaen â nhw rhag gweld Jack. Hefyd mae staff y cartref gofal yn adrodd nad yw Oliver byth yn mynd â Jack ar dripiau, er bod Jack yn aml yn ymddangos yn hapusach pan mae wedi bod ar drip.

Mae’r teulu’n ffonio OPG, sy’n anfon ymwelydd y Llys Gwarchod i gyfarfod â Jack ac Oliver ac asesu ffeithiau’r achos. Os bydd adroddiad yr ymwelydd yn awgrymu efallai nad yw Oliver yn gweithredu er budd pennaf Jack, efallai y bydd OPG yn lansio ymchwiliad.

O ganlyniad i’r ymchwiliad hwnnw, bydd y gwarcheidwad cyhoeddus yn penderfynu a ddylid cynnwys y llys. Os yw’r llys yn meddwl bod Oliver yn cam-drin ei swydd, efallai y bydd yn canslo LPA Jack.

7. Pryd fyddaf yn rhoi’r gorau i fod yn atwrnai?

Byddwch yn rhoi’r gorau i fod yn atwrnai os:

  • bydd y rhoddwr yn marw (daw’r LPA i ben yn awtomatig)

  • byddwch yn dewis rhoi’r gorau i fod yn atwrnai – weithiau’n cael ei alw’n ‘ymwrthod’ atwrneiaeth

  • chi yw gŵr, gwraig neu bartner si l y rhoddwr ac rydych yn ysgaru neu’n gwahanu (oni bai bod yr LPA yn dweud fel arall)

  • byddwch yn colli galluedd meddyliol a methu â gwneud penderfyniadau bellach

Os bydd y rhoddwr yn marw

Os yw’r LPA wedi’i chofrestru, anfonwch i’r OPG:

  • copi o’r dystysgrif marwolaeth

  • yr LPA wreiddiol

  • pob copi ardystiedig o’r LPA

Os dymunwch roi’r gorau iddi

Os penderfynwch roi’r gorau i rôl atwrnai, bydd angen i chi lenwi ffur en LPA0005, sef ‘Ymwrthodiad gan atwrnai arfaethedig neu atwrnai dros dro o dan atwrneiaeth arhosol’, a’i hanfon i:

  • y rhoddwr, os nad yw’r LPA wedi cael ei chofrestru

  • y rhoddwr ac OPG, os yw’r LPA wedi cael ei chofrestru Dylech hefyd ddweud wrth yr atwrneiod eraill a enwyd yn yr LPA.

Os chi yw’r unig atwrnai neu y mae’n rhaid i chi wneud penderfyniadau ar y cyd ag atwrneiod eraill ac nid oes unrhyw atwrneiod amnewid, fel arfer daw’r LPA os bydd un ohonoch yn rhoi’r gorau iddi.

Os daw’r LPA i ben, bydd angen i rywun wneud cais i’r Llys Gwarchod os byddant yn dymuno gwneud penderfyniadau dros y rhoddwr.

8. Deall y jargon

8.1 Atwrnai

Rhywun sy’n cael ei benodi o dan atwrneiaeth arhosol (LPA) i wneud penderfyniadau ynghylch iechyd a lles neu ariannol dros rywun arall (y ‘rhoddwr’).

8.2 Atwrneiaeth arhosol (LPA)

Offeryn cyfreithiol sy’n caniatáu pobl eraill (‘atwrneiod’) i wneud penderfyniadau ariannol neu ynghylch iechyd a lles dros rywun arall (y ‘rhoddwr’).

8.3 Budd pennaf

Dylai atwrneiod bob amser meddwl pa weithred sydd er budd pennaf y rhoddwr wrth wneud penderfyniad. Dylech hefyd ystyried dymuniadau’r rhoddwr yn y gorffennol a’r presennol ac ystyried ymgynghori â phobl eraill.

8.4 Cam-drin

Cam-drin yw torri ar hawliau si l a dynol unigolyn gan unigolyn arall neu bobl eraill. Gall cam-drin fod yn un weithred neu’n gweithredoedd dro ar ôl tro. Neu gall fod yn weithred o esgeulustod neu fethiant i weithredu.

Ar gyfer atwrneiaeth iechyd a lles, gall cam-drin gynnwys trais tuag at y rhoddwr, esgeuluso ei ofal a’u hatal rhag gweld pobl.

8.5 Cod Ymarfer

Canllaw i’r Ddeddf Galluedd Meddyliol y gallwch ei harchebu neu ei lawr-lwytho Mae’r cod yn cynnwys llawer o wybodaeth werthfawr i atwrneiod.

8.6 Deddf Galluedd Meddyliol (MCA) 2005

Dyluniwyd y ddeddf i amddiffyn pobl nad ydynt yn gallu gwneud penderfyniadau dros eu hunain. Gallai hyn fod oherwydd cy wr iechyd meddwl, anabledd dysgu difrifol, anaf i’r ymennydd neu strôc. Mae’r ddeddf yn caniatáu i oedolion wneud cymaint o benderfyniadau ag y gallant dros eu hunain a bod atwrnai neu bobl eraill yn gwneud penderfyniadau drostynt.

8.7 Dementia

Grŵp o symptomau sy’n gallu cynnwys problemau â chof, iaith neu ddealltwriaeth. Gall strôc neu glefydau fel Alzheimer achosi niwed i’r ymennydd sy’n arwain at ddementia.

Gall symptomau dementia gynnwys:

  • colli cof

  • anhawster wrth ddeall pobl a dod o hyd i’r geiriau cywir

  • anhawster wrth gy awni tasgau syml a datrys mân broblemau

  • newidiadau mewn hwyliau a chynnwrf emosiynol

8.8 Esgeulustod bwriadol

Methiant i gy awni gweithred o ofal gan rywun sydd â chyfrifoldeb dros unigolyn sydd heb alluedd meddyliol i ofalu am ei hun. Mae esgeulustod bwriadol yn drosedd o dan yr MCA.

8.9 Galluedd meddyliol

Y gallu i wneud penderfyniad am rywbeth ar yr adeg y mae angen gwneud y penderfyniad. Manylir ar ddif niad cyfreithiol unigolyn heb alluedd yn adran 2 Deddf Galluedd Meddyliol 2005. I gael mwy o wybodaeth am alluedd meddyliol, gweler tudalen 6 y ganllaw hon.

8.10 Gofal lleiaf cyfyngol

Os nad oes gan unigolyn alluedd meddyliol, mae’n rhaid i benderfyniadau a wneir drostynt gyfyngu ar eu hawliau a rhyddid cyn lleied â phosibl, wrth ei gadw’n ddiogel.

8.11 Rhoddwr

Rhywun sy’n creu atwrneiaeth arhosol sy’n caniatáu i bobl eraill (‘atwrneiod’) wneud penderfyniadau ynghylch iechyd a lles neu ariannol drostynt.

8.12 Ymwelydd y Llys Gwarchod

Rhywun sy’n cael ei benodi i adrodd i’r Llys Gwarchod neu’r gwarcheidwad cyhoeddus am sut mae atwrneiod yn cy awni eu dyletswyddau.