Trosolwg

Mae Treth Enillion Cyfalaf yn dreth ar yr elw pan fyddwch yn gwerthu (neu’n ‘gwaredu’) rhywbeth (‘ased’) y mae ei werth wedi cynyddu.

Yr ennill a wnewch sy’n cael ei drethu, nid swm yr arian a gewch. Er enghraifft, os gwnaethoch brynu llun am £5,000 a’i werthu yn ddiweddarach am £25,000, rydych wedi gwneud elw o £20,000 (£25,000 minws £5,000).

Mae rhai asedion yn rhydd o dreth. Hefyd, does dim rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf os yw’ch holl enillion mewn blwyddyn o dan eich lwfans rhydd o dreth.

Os gwnaethoch werthu eiddo preswyl yn y DU ar neu ar ôl 6 Ebrill 2020 a bod gennych dreth ar enillion i’w talu, gallwch adrodd a thalu gan ddefnyddio Treth Enillion Cyfalaf ar gyfrif eiddo’r DU.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Gwaredu ased

Mae gwaredu ased yn cynnwys:

  • ei werthu
  • ei roi i ffwrdd fel rhodd, neu ei drosglwyddo i rywun arall
  • ei gyfnewid am rywbeth arall
  • cael iawndal ar ei gyfer – er enghraifft, taliad yswiriant os yw’r ased wedi’i golli neu wedi’i ddinistrio