Rhoi gwybod am eich Treth Enillion Cyfalaf a’i thalu

Neidio i gynnwys y canllaw

Os gwnaethoch werthu eiddo yn y DU ar neu ar ôl 6 Ebrill 2020

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw Dreth Enillion Cyfalaf sy’n ddyledus ar eiddo preswyl yn y DU, a’i thalu, cyn pen:

  • 60 diwrnod ar ôl gwerthu’r eiddo, os oedd y dyddiad cwblhau ar neu ar ôl 27 Hydref 2021
  • 30 diwrnod ar ôl gwerthu’r eiddo, os oedd y dyddiad cwblhau rhwng 6 Ebrill 2020 a 26 Hydref 2021

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog a chosb os na fyddwch yn rhoi gwybod a thalu mewn pryd.

Os gwnaethoch werthu eiddo preswyl cyn 6 Ebrill 2020, mae’n rhaid i chi roi gwybod am eich enillion mewn Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n dilyn y gwerthiant.

Os oedd eich eiddo mewn perchnogaeth ar y cyd

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am eich ennill neu’ch colled eich hun. Mae rheolau arbennig yn berthnasol os ydych yn rhoi eiddo yn y DU i’ch priod, eich partner sifil, neu i elusen (yn agor tudalen Saesneg).

Cyn i chi ddechrau

Cyfrifwch eich enillion er mwyn cael gwybod a oes rhaid i chi roi gwybod am dreth a’i thalu.

Os ydych yn breswylydd yn y DU, nid oes angen i chi roi gwybod am eich enillion ar-lein os yw cyfanswm eich enillion yn llai na’r lwfans rhydd o dreth (yn agor tudalen Saesneg).

Rhoi gwybod a thalu ar-lein

Defnyddiwch gyfrif Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU er mwyn:

  • rhoi gwybod am unrhyw dreth sy’n ddyledus ar eiddo yn y DU a’i thalu
  • bwrw golwg dros neu newid Ffurflen Dreth flaenorol

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad yn barod, bydd angen i chi gynnwys manylion y gwerthiant hefyd ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Mewngofnodi neu greu cyfrif

Bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch er mwyn creu’ch cyfrif neu fewngofnodi iddo. Os nad oes gennych ID Defnyddiwr, gallwch greu un y tro cyntaf y byddwch yn mewngofnodi.

Yr hyn y mae angen i chi ei wybod

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • cyfeiriad a chod post yr eiddo
  • y dyddiad y cawsoch yr eiddo
  • y dyddiad y gwnaethoch gyfnewid contractau pan oeddech yn gwerthu (neu’n ‘gwaredu’) yr eiddo
  • y dyddiad y gwnaethoch stopio bod yn berchennog ar yr eiddo (dyddiad cwblhau)
  • gwerth yr eiddo pan gawsoch ef
  • gwerth yr eiddo pan wnaethoch ei werthu neu ei waredu
  • costau prynu, gwerthu neu wneud gwelliannau i’r eiddo
  • manylion unrhyw ryddhadau treth, lwfansau neu eithriadau y mae gennych hawl iddynt
  • y math o eiddo, os nad ydych yn breswylydd yn y DU

Rhoi gwybod drwy ddefnyddio ffurflen bapur

Os na allwch gyrchu’r rhyngrwyd, gofynnwch i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am ffurflen bapur

Bydd CThEF yn anfon cyfeirnod Treth Cyfalaf atoch, sy’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’, ar ôl i chi roi gwybod am eich enillion cyfalaf gan ddefnyddio ffurflen bapur. Bydd angen eich cyfeirnod talu arnoch i dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych erbyn y dyddiad cau.

Os nad ydych yn breswylydd yn y DU

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am bob gwerthiant a gwarediad o eiddo neu dir yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) erbyn y dyddiad cau, hyd yn oed os nad oes gennych dreth i’w thalu.

Os gwnaethoch werthu eiddo neu dir yn y DU cyn 6 Ebrill 2020, bydd angen i chi roi gwybod am eich enillion gan ddefnyddio Ffurflen Treth Enillion Cyfalaf ar gyfer Person nad yw’n Breswyl (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn rhoi gwybod ar ran rhywun arall neu ar ran ystâd

Defnyddiwch eich cyfrif Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU i roi gwybod ar ran rhywun arall.

Bydd angen tystiolaeth arnoch fod gennych ganiatâd i roi gwybod ar ei ran, megis pŵer atwrnai arhosol. Os yw’r person wedi marw, bydd arnoch angen dyddiad ei farwolaeth.

Ni allwch dalu drwy ddefnyddio’ch cyfrif os ydych yn rhoi gwybod am ennill ar ran ystâd (yn agor tudalen Saesneg) fel cynrychiolydd personol (ysgutor neu weinyddwr). Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi sut i dalu ar ôl i chi roi gwybod am yr ennill.

Cadwch gopi digidol neu brintiedig o’r Ffurflen Dreth ar gyfer eich cofnodion.

Ni allwch fwrw golwg dros na newid Ffurflen Dreth rydych wedi’i chyflwyno ar ran rhywun arall ar-lein. Yn lle hynny, llenwch ffurflen ar-lein, ei hargraffu a’i hanfon i CThEF.

Ni allwch newid Ffurflen Dreth:

  • ar gyfer blynyddoedd treth 2020 i 2021 neu 2021 i 2022
  • os ydych eisoes wedi anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer yr un flwyddyn dreth â’r datganiad Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU

Os ydych yn rhoi gwybod ar ran ymddiriedolaeth

Os ydych yn rhoi gwybod fel ymddiriedolwr ymddiriedolaeth gofrestredig, bydd angen rhif cofrestru’r ymddiriedolaeth neu gyfeirnod treth unigryw’r ymddiriedolaeth arnoch.

Os ydych yn ymddiriedolwr corfforaethol, bydd angen i chi lenwi ffurflen ar-lein ac yna ei hargraffu a’i hanfon i CThEF.

Os na allwch gyrchu’r rhyngrwyd, bydd angen i chi ofyn i CThEF am ffurflen bapur.

Os nad ydych yn talu wrth i chi roi gwybod

Gallwch dalu ar ôl i chi roi gwybod am eich enillion drwy’r dulliau canlynol:

  • cymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein
  • bancio ar-lein neu dros y ffôn
  • cerdyn debyd neu gredyd
  • siec

Bwrw golwg dros Ffurflen Dreth flaenorol a’i newid

Gallwch ddefnyddio’ch cyfrif Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU i fwrw golwg dros a newid eich Ffurflenni Treth blaenorol eich hun. 

Llenwch ffurflen ar-lein ac yna ei hargraffu a’i hanfon i CThEF os oes angen i chi newid Ffurflen Dreth a wnaethoch ar ran rhywun arall. 

Ni allwch newid Ffurflen Dreth:

  • ar gyfer blynyddoedd treth 2020 i 2021 neu 2021 i 2022
  • os ydych eisoes wedi anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer yr un flwyddyn dreth â’r datganiad Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU