Yr hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud

Mae sut rydych yn rhoi gwybod am eich Treth Enillion Cyfalaf (yn agor tudalen Saesneg) a’i thalu yn dibynnu a wnaethoch werthu:

Cyn i chi allu rhoi gwybod am unrhyw enillion, bydd angen y canlynol arnoch:

  • manylion swm yr ased pan wnaethoch ei brynu a’i werthu

  • y dyddiadau pan wnaethoch gymryd perchnogaeth o’r ased a’i waredu

  • unrhyw fanylion perthnasol eraill, megis costau prynu, gwerthu neu wneud gwelliannau i’r ased, ac unrhyw ryddhadau treth y mae gennych hawl iddynt

  • cyfrifiadau ar gyfer pob ennill cyfalaf neu golled gyfalaf rydych yn rhoi gwybod amdanynt

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os nad ydych yn breswylydd yn y DU

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am bob gwerthiant eiddo neu dir yn y DU ar neu ar ôl 6 Ebrill 2020, hyd yn oed os nad oes gennych dreth i’w thalu. Nid oes angen i chi roi gwybod am na thalu treth ar unrhyw beth arall y mae ei werth wedi cynyddu.

Os gwnaethoch werthu eiddo neu dir yn y DU cyn 6 Ebrill 2020, bydd angen i chi roi gwybod am eich enillion gan ddefnyddio Ffurflen Treth Enillion Cyfalaf ar gyfer Person nad yw’n Breswyl (yn agor tudalen Saesneg).