Treth Enillion Cyfalaf
Os byddwch yn gwneud colled
Gallwch roi gwybod i Gyllid a Thollau EM (CThEM) am golledion ar ased trethadwy er mwyn gostwng cyfanswm eich enillion trethadwy.
Yr enw ar golledion a ddefnyddir fel hyn yw ‘colledion caniataol’.
Defnyddio colledion i ostwng eich ennill
Pan fyddwch yn rhoi gwybod am golled, mae’r swm yn cael ei ddidynnu oddi wrth yr enillion a wnaethoch yn yr un flwyddyn dreth.
Os yw cyfanswm eich ennill trethadwy yn dal i fod dros y lwfans rhydd o dreth, gallwch ddidynnu colledion sydd heb eu defnyddio o flynyddoedd treth blaenorol. Os byddant yn gostwng eich ennill i’r lwfans rhydd o dreth, gallwch gario’r colledion sy’n weddill ymlaen i flwyddyn dreth yn y dyfodol.
Rhoi gwybod am golledion
Hawliwch am eich colled drwy ei gynnwys ar eich Ffurflen Dreth. Os nad ydych wedi gwneud ennill ar unrhyw adeg, ac os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad, gallwch ysgrifennu i CThEM yn lle hynny.
Does dim rhaid i chi roi gwybod am golledion ar unwaith – gallwch hawlio hyd at 4 blynedd ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y gwnaethoch waredu’r ased.
Mae eithriad ar gyfer colledion a wnaed cyn 5 Ebrill 1996 – gallwch hawlio am y rhain o hyd. Mae’n rhaid i chi ddidynnu’r rhain ar ôl unrhyw golledion mwy diweddar.
Colledion wrth waredu asedion i’r teulu a phobl eraill
Eich gŵr, gwraig neu bartner sifil
Fel arfer, nid ydych yn talu Treth Enillion Cyfalaf ar asedion rydych yn eu rhoi neu’n eu gwerthu i’ch priod neu i’ch partner sifil. Ni allwch hawlio colledion yn erbyn yr asedion hyn.
Aelodau eraill o’r teulu a ‘phobl gysylltiedig’
Ni allwch ddidynnu colled sy’n deillio o roi, gwerthu na gwaredu ased i aelod o’r teulu, oni bai eich bod yn gwrthbwyso ennill o’r un person.
Mae hyn hefyd yn berthnasol i ‘bobl gysylltiedig’ megis partneriaid busnes.
Pobl gysylltiedig
Yn ôl diffiniad CThEM, mae pobl gysylltiedig yn cynnwys:
- eich brodyr, chwiorydd, rhieni, neiniau a theidiau, plant ac wyrion, a’u gwŷr, gwragedd neu bartneriaid sifil
- brodyr, chwiorydd, rhieni, neiniau a theidiau, plant ac wyrion eich gŵr, gwraig neu bartner sifil – a’u gwŷr, gwragedd neu bartneriaid sifil
- partneriaid busnes
- cwmni rydych yn ei reoli
- ymddiriedolwyr, lle mai chi (neu rywun sy’n gysylltiedig â chi) yw’r ‘setlwr’
Hawlio am ased sydd wedi colli ei werth
Gallwch hawlio colledion ar asedion rydych yn dal i berchen arnynt os ydynt yn dod yn ddiwerth, neu’n ‘swm pitw’.
Mae gan CThEM arweiniad ynghylch sut i gyflwyno hawliad am swm pitw.
Rheolau arbennig
Mae gan CThEM arweiniad ar y rheolau arbennig ar gyfer colledion:
- pan fo rhywun yn marw
- os ydych yn ddibreswyl ac yn gwerthu eiddo neu dir yn y DU
- os ydych wedi byw dramor dros dro fel person ‘dibreswyl’
- o’ch incwm ar gyfranddaliadau sydd heb eu rhestru neu sy’n rhan o’r Cynllun Buddsoddiad Menter
- ar asedion tramor os nad yw’ch ‘domisil’ yn y DU a’ch bod wedi hawlio’r ‘sail trosglwyddo’