Trosolwg

Mae ymddiriedolaeth yn ddull o reoli asedion (arian, buddsoddiadau, tir neu eiddo) ar gyfer pobl. Mae gwahanol fathau o ymddiriedolaethau ac maent yn cael eu trethu’n wahanol.

Mae ymddiriedolaeth yn cynnwys:

  • y ‘setlwr’ - y person sy’n rhoi asedion i mewn i ymddiriedolaeth
  • yr ‘ymddiriedolwr’ - y person sy’n rheoli’r ymddiriedolaeth
  • y ‘buddiolwr’ - y person sy’n elwa o’r ymddiriedolaeth

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Yr hyn y mae ymddiriedolaethau ar ei gyfer

Caiff ymddiriedolaethau eu creu am nifer o resymau, gan gynnwys:

  • er mwyn rheoli a diogelu asedion teuluol
  • pan mae rhywun yn rhy ifanc i ddelio â materion treth ei hunain
  • pan na all rhywun ddelio â materion treth ei hunain oherwydd analluogrwydd
  • er mwyn trosglwyddo asedion tra’ch bod dal yn fyw
  • er mwyn trosglwyddo asedion pan eich bod yn marw (‘ymddiriedolaeth ewyllys’)
  • o dan reolau etifeddiaeth os yw rhywun yn farw heb ewyllys (yng Nghymru a Lloegr)

Yr hyn y mae setlwr yn ei wneud

Mae setlwr yn penderfynu sut y dylai asedion mewn ymddiriedolaeth gael eu defnyddio - fel arfer nodir hyn mewn dogfen o’r enw ‘gweithred ymddiriedolaeth’.

Weithiau gall y setlwr hefyd gael buddiant o’r asedion mewn ymddiriedolaeth - gelwir hyn yn ymddiriedolaeth ‘pan fo buddiant gan y setlwr’ ac mae ganddo reolau treth arbennig. Dysgwch ragor drwy ddarllen yr wybodaeth am wahanol fathau o ymddiriedolaethau.

Yr hyn y mae ymddiriedolwyr yn ei wneud

Yr ymddiriedolwyr yw perchnogion cyfreithlon yr asedion a ddelir mewn ymddiriedolaeth. Eu rôl yw:

  • delio â’r asedion yn unol â dymuniadau’r setlwr, fel y nodir yn y weithred ymddiriedolaeth neu ei ewyllys
  • rheoli’r ymddiriedolaeth o ddydd i ddydd a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus
  • penderfynu sut i fuddsoddi neu ddefnyddio asedion yr ymddiriedolaeth

Os yw’r ymddiriedolwyr yn newid, gall yr ymddiriedolaeth barhau o hyd, ond mae rhaid bod yna o leiaf un ymddiriedolwr drwy’r amser.

Buddiolwyr

Efallai y bydd mwy nag un buddiolwr, megis teulu cyfan neu grŵp penodol o bobl. Mae’n bosibl iddynt elwa o’r canlynol:

  • incwm o ymddiriedolaeth yn unig, er enghraifft o roi tŷ a ddelir mewn ymddiriedolaeth ar osod
  • y cyfalaf yn unig, er enghraifft cael cyfranddaliadau a ddelir mewn ymddiriedolaeth wrth iddynt gyrraedd oedran penodol
  • yr incwm a’r cyfalaf a ddelir mewn ymddiriedolaeth

Os oes angen help arnoch

Cysylltwch â ymgynghorydd cyfreithiol (yn Saesneg) neu ymgynghorydd treth (yn Saesneg). Gallant hefyd siarad â Chyllid a Thollau EF (CThEF) ar eich rhan os ydych yn rhoi caniatâd iddynt wneud hynny.

Gallwch hefyd gael help gan y Gymdeithas Ymarferwyr Ymddiriedolaethau ac Ystadau.