Canllawiau

Credyd Cynhwysol ac enillion

Gall y swm a enillwch, a pha mor aml y telir eich cyflog, effeithio ar eich Credyd Cynhwysol.

Sut mae eich enillion yn effeithio ar eich taliadau

Os ydych chi neu’ch partner yn gweithio, bydd faint o Gredyd Cynhwysol a gewch yn dibynnu ar faint rydych yn ei ennill bob mis. Gelwir y rhain yn ‘cyfnodau asesu’.

Gallwch wirio faint o Gredyd Cynhwysol y byddwch yn ei gael bob mis yn y datganiad yn eich cyfrif ar-lein.

Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn lleihau wrth i’ch cyflog fynd i fyny, ac yn cynyddu eto os byddwch yn rhoi’r gorau i weithio neu os bydd eich cyflog yn mynd i lawr.

Am bob £1 rydych chi neu’ch partner yn ei ennill, bydd eich taliad yn gostwng 55c. Bydd y swm hwn yn cael ei dynnu’n awtomatig o’ch taliad Credyd Cynhwysol.

Gweler sut mae eich enillion yn effeithio ar eich taliadau.

Mae yna reolau gwahanol os ydych yn hunangyflogedig.

Gall faint o Gredyd Cynhwysol a gewch gael ei effeithio os ydych:

-            yn gyfrifol am blentyn neu mae gennych gyflwr iechyd

-            ddim yn cael eich talu mewn cyfnod asesu

-            yn cael eich talu fwy nag unwaith mewn cyfnod asesu

-            yn ennill swm gwahanol bob cyfnod asesu

Os ydych yn gyfrifol am blentyn neu os oes gennych gyflwr iechyd

Gallwch ennill swm penodol cyn i’ch Credyd Cynhwysol gael ei leihau os ydych chi neu’ch partner naill ai:

-            yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc

-            yn byw gydag anabledd neu gyflwr iechyd sy’n effeithio ar eich gallu i weithio

Gelwir y swm hwn yn ‘lwfans gwaith’.

Os nad ydych yn cael eich talu neu’n cael eich talu fwy nag unwaith mewn cyfnod asesu

Gall eich Credyd Cynhwysol gael ei effeithio os nad ydych yn cael eich talu neu’n cael eich talu fwy nag unwaith mewn cyfnod asesu. Gallai hyn ddigwydd os:

  • rydych yn cael eich talu’n fisol ac mae eich diwrnod cyflog misol yn newid

  • rydych yn cael eich talu’n wythnosol, bob 2 wythnos neu bob 4 wythnos

Os ydych yn cael eich talu’n fisol ac mae eich diwrnod cyflog yn newid

Os ydych yn cael eich talu’n fisol a bod eich diwrnod cyflog yn newid, er enghraifft er mwyn osgoi penwythnos, bydd eich Credyd Cynhwysol fel arfer yn cael ei addasu’n awtomatig fel eich bod yn cael eich swm arferol.

Os yw’n edrych fel y byddwch yn cael gormod neu ddim digon o Gredyd Cynhwysol, dywedwch wrthym yn eich cyfrif ar-lein. Mewn rhai amgylchiadau, gellir addasu Credyd Cynhwysol fel eich bod yn cael eich swm arferol.

Os ydych yn cael eich talu’n wythnosol, bob 2 wythnos neu bob 4 wythnos

Efallai y bydd eich Credyd Cynhwysol yn cael ei effeithio os oes gennych fwy o ddiwrnodau cyflog na’r arfer yn ystod cyfnod asesu.

Pa mor aml yw eich diwrnod cyflog  Yr effaith  
Pob 4 wythnos Unwaith y flwyddyn, byddwch yn cael cyfnod asesu gyda 2 ddiwrnod cyflog  
Pob 2 wythnos Dwywaith y flwyddyn, byddwch yn cael cyfnod asesu gyda 3 diwrnod cyflog  
Bob wythnos Pedair gwaith y flwyddyn, byddwch yn cael cyfnod asesu gyda 5 diwrnod cyflog  

Pan fyddwch yn cael mwy o gyflog nag arfer mewn cyfnod asesu, efallai y byddwch yn cael:

-            llai o Gredyd Cynhwysol am y mis hwnnw

-            dim Credyd Cynhwysol, oherwydd eich bod yn ennill digon i beidio â’i hawlio mwyach

Os ydych yn ennill swm gwahanol bob cyfnod asesu

Ar gyfer pob cyfnod asesu, caiff eich Credyd Cynhwysol ei addasu i ystyried eich cyflog.

Os ydych yn ennill llai mewn cyfnod asesu, bydd eich Credyd Cynhwysol fel arfer yn cynyddu.

Os ydych yn ennill mwy, bydd eich Credyd Cynhwysol fel arfer yn lleihau.

Os bydd y swm a enillwch mewn cyfnod asesu yn codi uwchben swm penodol, bydd eich Credyd Cynhwysol yn stopio. Mae hyn oherwydd eich bod wedi cyrraedd y terfyn y gallwch ei ennill a dal i fod â hawl i Gredyd Cynhwysol. Mae’r swm yn seiliedig ar eich amgylchiadau unigol.

Os ydych yn ennill £2,500 neu fwy dros eich terfyn enillion     

Os ydych yn ennill £2,500 neu fwy dros eich terfyn yna:

-            ni fyddwch yn cael Credyd Cynhwysol

-            bydd y swm dros £2,500 yn cael ei gyfrif fel enillion yn y cyfnod asesu nesaf

Gallai hyn ddigwydd os ydych yn hunangyflogedig neu’n cael bonws, er enghraifft.

Ni fyddwch yn cael unrhyw Gredyd Cynhwysol hyd nes y bydd eich enillion, gan gynnwys y swm sy’n cael ei gario drosodd, yn mynd o dan y terfyn ac rydych yn dod yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol eto.

Os yw eich cyflog yn lleihau digon i chi fod yn gymwys am Gredyd Cynhwysol o fewn 5 mis, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei ailgychwyn yn awtomatig. Os yw ar ôl 5 mis bydd angen i chi wneud cais eto.

Enillion a’ch cyfrifoldebau

Pan fyddwch yn hawlio Credyd Cynhwysol rydych yn cytuno ar beth mae angen i chi ei wneud i:

  • baratoi ar gyfer a chwilio am waith

  • cynyddu eich enillion, os ydych eisoes yn gweithio

Mae manylion am beth mae’n rhaid i chi ei wneud yn gyfnewid am Gredyd Cynhwysol yn eich ‘ymrwymiad hawlydd’.

Y ‘Trothwy Enillion Gweinyddol’ (AET)

Mae’r AET yn swm y gallwch ei ennill sy’n effeithio ar beth y gofynnir i chi gytuno iddo.

Ar gyfer hawlwyr unigol, yr AET yw £743 fesul cyfnod asesu.

Yn ogystal, os ydych mewn cwpl, AET y cwpl wedi’i gyfuno yw £1,189 fesul cyfnod asesu.

Os ydych yn ennill o dan yr AET

Os ydych chi fel unigolyn yn ennill o dan yr AET mewn cyfnod asesu, rhaid i chi:

  • ddangos eich bod yn chwilio am fwy o waith neu waith sy’n talu’n well

  • bod ar gael i weithio

oni bai eich bod yn rhan o gwpl y mae eu henillion wedi’i gyfuno yn, neu’n uwch, na AET y cwpl.

Os ydych yn rhan o gwpl y mae eu henillion unigol yn is na’r AET unigolyn, ac y mae eu henillion wedi’i gyfuno yn is na AET y cwpl, rhaid i’r ddau ohonoch:

  • ddangos eich bod yn chwilio am fwy o waith neu waith sy’n talu’n well

  • bod ar gael i weithio

Byddwch hefyd yn cael cefnogaeth bersonol reolaidd gan ‘anogwr gwaith’. Gall eich anogwr gwaith eich helpu gyda strategaethau chwilio am waith, sgiliau cyfweld a chysylltu â chyflogwyr.

Os ydych yn ennill dros yr AET

Os ydych yn ennill yr AET unigolyn neu fwy, nid oes angen i chi chwilio am fwy o waith neu waith â chyflog gwell.

Yn ogystal, os ydych mewn cwpl, a bod eich enillion wedi’i gyfuno yn hafal i neu’n uwch nag AET y cwpl, nid oes angen i chi na’ch partner chwilio am fwy o waith neu waith sy’n talu’n well.

Y Trothwy Amodoldeb Enillion (CET)

Mae’r CET yn swm sy’n seiliedig ar nifer yr oriau y gellir ei ddisgwyl yn rhesymol i chi weithio neu wneud gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith. Mae’n dibynnu ar eich amgylchiadau.

Os ydych yn ennill rhwng yr AET a’ch CET, nid oes angen i chi gael cyfarfodydd rheolaidd gyda’ch anogwr gwaith. Ond gallwch ofyn i gwrdd ag un os ydych yn credu y byddai’n eich helpu i chwilio am waith.

Os ydych yn ennill dros y CET, ni fyddwch yn cael cyfarfodydd rheolaidd gydag anogwr gwaith.

Enillion hunangyflogedig

Os oes gennych enillion hunangyflogedig, ni fydd y rhain yn cyfrif tuag at yr AET.

Darganfyddwch fwy am Gredyd Cynhwysol os ydych yn hunangyflogedig.

Cyhoeddwyd ar 6 November 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 April 2024 + show all updates
  1. From 1 April 2024 the Administrative Earnings Threshold (AET) went up for individuals and couples. For individual claimants, the AET is £743 per assessment period. Additionally, if you're in a couple, the combined couple's AET is £1,189 per assessment period.

  2. Added that if you earn £2,500 or more over your earnings limit you are said to have 'surplus earnings'. Added: If you were in a couple who then separated, any surplus earnings will be divided equally between the 2 of you. Your half will be taken into account if you make a new single or joint Universal Credit claim.

  3. First published.