Canllawiau

Camau i’w cymryd cyn cyfrifo’ch hawliad gan ddefnyddio’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws

Dysgwch pa gamau y mae angen i chi eu cymryd cyn cyfrifo faint y gallwch ei hawlio am gyflogeion sydd ar ffyrlo a ffyrlo hyblyg.

Daeth y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws i ben ar 30 Medi 2021.

Os ydych yn defnyddio’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws i hawlio cyflogau cyflogeion, dyma’r camau y bydd angen i chi eu cymryd:

  1. Gwirio a allwch hawlio.

  2. Gwirio pa gyflogeion y gallwch eu rhoi ar ffyrlo.

  3. Camau i’w cymryd cyn cyfrifo’ch hawliad.

  4. Cyfrifo faint y dylech ei hawlio.

  5. Hawlio cyflog eich cyflogeion ar-lein.

  6. Rhoi gwybod am daliad drwy’r system Gwybodaeth Amser Real TWE.

Cyn i chi allu cyfrifo faint y gallwch ei hawlio drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws, bydd angen i chi gyfrifo cyflogau eich cyflogeion. I wneud hyn, bydd angen i chi gyfrifo:

  • hyd eich cyfnod hawlio
  • yr hyn y gallwch ei gynnwys wrth gyfrifo cyflogau
  • oriau arferol ac oriau ffyrlo eich cyflogeion

Ar gyfer cyfnodau’n dechrau ar neu ar ôl 1 Mai 2021, gallwch hawlio ar gyfer cyflogeion a oedd wedi’u cyflogi ar 2 Mawrth, cyn belled â’ch bod wedi gwneud cyflwyniad Gwybodaeth Amser Real (RTI) TWE i CThEM rhwng 20 Mawrth 2020 a 2 Mawrth 2021 (cynhwysol), sy’n nodi eich bod wedi talu enillion i’r cyflogeion hynny.

O 1 Gorffennaf 2021 ymlaen, bydd lefel y grant yn gostwng a gofynnir i chi gyfrannu tuag at gostau cyflog eich cyflogeion sydd ar ffyrlo.

Gallwch gael gwybod am gyfnodau hawlio cynharach drwy ddarllen fersiynau blaenorol o’r arweiniad hwn yn yr Archifau Cenedlaethol.

Penderfynu beth yw hyd eich cyfnod hawlio

Mae’ch cyfnod hawlio’n cynnwys y diwrnodau rydych yn hawlio grant ar eu cyfer. Y dyddiad dechrau ar gyfer eich cyfnod hawlio cyntaf yw’r dyddiad pan gafodd eich cyflogai cyntaf ei roi ar ffyrlo.

Mae’n rhaid i gyfnodau hawlio ddechrau a dod i ben yn ystod yr un mis calendr ac mae’n rhaid iddynt bara o leiaf 7 diwrnod.

Gallwch hawlio am gyfnod sy’n llai na 7 diwrnod os ydych yn hawlio am yr ychydig ddiwrnodau cyntaf neu’r ychydig ddiwrnodau olaf mewn mis. Mae’n rhaid i’ch hawliad gynnwys naill ai diwrnod cyntaf neu ddiwrnod olaf y mis calendr, ac mae’n rhaid eich bod eisoes hawlio ar gyfer y cyfnod sy’n dod i ben yn union cyn y cyfnod dan sylw.

Dylech baru’ch cyfnod hawlio â’r dyddiadau rydych yn rhedeg eich cyflogres, os gallwch wneud hynny. Gallwch ond cyflwyno un hawliad ar gyfer unrhyw gyfnod, felly mae’n rhaid i chi gynnwys eich holl gyflogeion sydd ar ffyrlo neu ffyrlo hyblyg mewn un hawliad, hyd yn oed os ydych yn eu talu ar adegau gwahanol. Os ydych yn cyflwyno mwy nag un hawliad, ni all eich hawliad dilynol orgyffwrdd ag unrhyw hawliad arall a gyflwynwch. Os yw cyflogeion wedi cael eu rhoi ar ffyrlo neu ar ffyrlo hyblyg yn barhaus (neu’r ddau ohonynt), mae’n rhaid i’r cyfnodau hawlio ddilyn ei gilydd heb unrhyw fylchau rhwng y dyddiadau.

Gallwch hawlio cyn, yn ystod neu ar ôl i chi brosesu’ch cyflogres, cyn belled â bod eich hawliad yn cael ei gyflwyno erbyn y dyddiad cau perthnasol ar gyfer hawlio. Ni allwch gyflwyno’ch hawliad fwy nag 14 diwrnod cyn dyddiad dod i ben eich cyfnod hawlio.

Wrth hawlio:

  • nid oes rhaid i chi aros tan ddyddiad dod i ben y cyfnod hawlio ar gyfer hawliad blaenorol cyn cyflwyno’ch hawliad nesaf
  • gallwch gyflwyno hawliad fwy nag 14 diwrnod cyn y dyddiad cyflog (er enghraifft, os ydych yn talu’ch cyflogeion mewn ôl-ddyledion)

Wrth hawlio ar gyfer cyflogeion sydd wedi cael eu rhoi ar ffyrlo hyblyg, ni ddylech hawlio nes eich bod yn siŵr o union nifer yr oriau y byddant wedi gweithio yn ystod y cyfnod hawlio. Mae hyn yn golygu y dylech hawlio pan fydd gennych sicrwydd ynghylch nifer yr oriau y mae’ch cyflogeion yn gweithio yn ystod y cyfnod hawlio. Os ydych yn hawlio ymlaen llaw a bod eich cyflogai’n gweithio am fwy o oriau na’r hyn yr ydych wedi rhoi gwybod i ni amdano, bydd yn rhaid i chi ad-dalu peth o’r grant i CThEM. Os gwnewch wall wrth gyflwyno’ch hawliad, gallwch ganfod sut i’w gywiro.

Gwneir taliadau 6 diwrnod gwaith ar ôl i chi gyflwyno’ch hawliad.

Enghraifft o hawliad cyntaf

Enghraifft o hawliad cyntaf – Mae’r ddelwedd hon yn dangos cyflogwr sy’n rhoi dau gyflogai ar ffyrlo ar ddechrau’r cyfnod cyflog, ac yn ychwanegu trydydd cyflogai ychydig yn ddiweddarach. Dyddiad dechrau’r cyfnod hawlio yw’r dyddiad pan roddwyd y cyflogai cyntaf ar ffyrlo. Dylai’r cyflogwr gynnwys yr holl gyflogeion a gafodd eu rhoi ar ffyrlo yn ystod y cyfnod hawlio hwn, hyd yn oed os cawsant eu rhoi ar ffyrlo ar adegau gwahanol yn ystod y cyfnod neu os cânt eu talu ar adegau gwahanol yn ystod y cyfnod cyflog. Cyflwynir yr hawliad 6 diwrnod cyn diwedd y cyfnod cyflog, gan sicrhau bod y grant ar gael i’w dalu bryd hynny.

Enghraifft o ail hawliad

Enghraifft o ail hawliad – Mae’r ddelwedd hon yn dangos cyflogwr sy’n cyflwyno hawliad arall ar ôl i’r un cyntaf ddod i ben. Mae dau gyflogai wedi’u rhoi ar ffyrlo’n barhaus ers yr hawliad cyntaf, ac mae’r cyfnodau hawlio’n dilyn ei gilydd heb unrhyw fylchau rhwng y dyddiadau – er bod un cyflogai yn dychwelyd i’r gwaith cyn diwedd y cyfnod cyflog. Gwnaeth un cyflogai weithio am ddau ddiwrnod ar ddechrau’r ail gyfnod, ond yna caiff ei roi ar ffyrlo unwaith eto. Dylai’r cyflogwr gynnwys yr holl gyflogeion a gafodd eu rhoi ar ffyrlo yn ystod y cyfnod hawlio hwn, hyd yn oed os cawsant eu rhoi ar ffyrlo ar adegau gwahanol yn ystod y cyfnod neu os cânt eu talu ar adegau gwahanol yn ystod y cyfnod cyflog. Cyflwynir yr hawliad 6 diwrnod cyn diwedd y cyfnod cyflog, gan sicrhau bod y grant ar gael i’w dalu bryd hynny.

Os yw’r cyfnod cyflog rydych yn hawlio ar ei gyfer yn cynnwys diwrnodau mewn mwy nag un mis

Os yw’ch cyfnod cyflog yn cynnwys diwrnodau mewn mwy nag un mis, bydd angen i chi gyflwyno hawliadau ar wahân sy’n cwmpasu’r diwrnodau sydd yn y naill fis a’r llall. Dylech gyfrifo pob un o’r hawliadau hynny ar wahân. Ni all cyfnodau hawlio orgyffwrdd, felly bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn cynnwys yr holl gyflogeion rydych am hawlio ar eu cyfer ym mhob hawliad a gyflwynwch.

Beth i’w gynnwys wrth gyfrifo cyflogau

Y swm y dylech ei ddefnyddio wrth gyfrifo 80% o gyflogau’ch cyflogeion am oriau heb eu gweithio yw’r taliadau rheolaidd yr ydych yn gorfod eu gwneud. Mae hyn yn cynnwys:

Ni allwch gynnwys y canlynol wrth gyfrifo cyflogau:

  • taliadau a wneir yn ôl disgresiwn y cyflogwr neu gleient – lle nad oedd y cyflogwr na’r cleient o dan ymrwymiad cytundebol i’w talu, gan gynnwys:
    • cildyrnau, gan gynnwys y rhai a ddosberthir drwy troncs
    • bonysau dewisol
    • taliadau comisiwn dewisol
  • taliadau nad ydynt ar ffurf arian parod
  • buddion nad ydynt yn ariannol, fel buddiannau (megis car cwmni), gan gynnwys buddion a geir yn gyfnewid am roi’r gorau i swm o gyflog o dan gynllun aberthu cyflog
  • cyfraniadau pensiwn y cyflogwr, gan gynnwys cyfraniadau pensiwn a geir yn gyfnewid am roi’r gorau i swm o gyflog o dan gynllun aberthu cyflog (gallwch gynnwys cyfraniadau pensiwn y mae’r cyflogai’n eu gwneud o’i gyflog o hyd, megis drwy gynllun pensiwn Trefniant Cyflog Net)
  • symiau o gyflog a ildiwyd o dan gynllun aberthu cyflog

Dewch o hyd i enghraifft o gyfrifo cyflogau ar gyfer mathau gwahanol o gynllun pensiwn.

Mae’n rhaid rhoi’r holl grant a geir er mwyn talu cymhorthdal ffyrlo cyflogeion iddynt ar ffurf arian. Ni ddylid defnyddio unrhyw ran o’r grant i dalu am ddarparu buddiannau na chynllun aberthu cyflog.

Pan fydd y cyflogwr yn rhoi buddiannau i gyflogeion sydd ar ffyrlo, gan gynnwys drwy gynllun aberthu cyflog, dylai’r buddiannau hyn fod yn ychwanegol at y cyflogau y mae’n rhaid eu talu o dan delerau’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws.

Fel rheol, ni fydd cyflogeion yn rhydd i adael y rhan fwyaf o gynlluniau aberthu cyflog, oni bai bod digwyddiad bywyd. Mae CThEM yn cytuno bod coronafeirws yn cyfrif fel digwyddiad bywyd a allai gyfiawnhau newidiadau i drefniadau aberthu cyflog, os caiff y contract cyflogaeth perthnasol ei ddiweddaru yn unol â hynny.

Taliadau nad ydynt yn ddewisol

Pan fyddwch yn pennu a yw taliad yn un nad yw’n ddewisol, dylech ond cynnwys taliadau y mae gennych rwymedigaeth gontractiol i’w talu ac y mae gan eich cyflogai hawl orfodadwy iddynt.

Pan nodir taliadau amrywiol mewn contract a bod y taliadau hynny’n cael eu gwneud bob amser, yna gall y taliadau hynny ddod yn rhai nad ydynt yn ddewisol. Os yw hynny’n wir, dylid eu cynnwys wrth gyfrifo 80% o gyflogau eich cyflogeion.

Taliadau goramser nad ydynt yn ddewisol

Os talwyd taliadau amrywiol i’ch cyflogai oherwydd goramser, gallwch gynnwys y taliadau hyn wrth gyfrifo 80% o’i gyflog cyn belled â bod y taliadau goramser yn rhai nad oeddent yn ddewisol.

Mae taliadau am oramser yn rhai nad ydynt yn ddewisol pan fydd rheidrwydd contractiol arnoch i dalu’r cyflogai ar gyfradd benodol a diffiniedig am y goramser y mae wedi’i weithio.

Ardoll Brentisiaethau a Benthyciadau Myfyriwr

Dylech barhau i dalu’r Ardoll Brentisiaethau yn unol â’r arfer. Nid yw grantiau drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws yn cwmpasu’r Ardoll Brentisiaethau.

Dylech hefyd barhau i wneud didyniadau Benthyciad Myfyriwr o’r cyflogau rydych yn eu talu i gyflogeion.

Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Mae gan unigolion hawl i’r Cyflog Byw Cenedlaethol, yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Isafswm Cyflog Prentisiaid ar gyfer yr oriau y maent yn gweithio, neu’r oriau sy’n cael eu trin fel gweithio o dan reolau isafswm cyflog.

Mae’n rhaid talu o leiaf cyfraddau’r isafswm cyflog am yr holl oriau sy’n cael eu gweithio. Gellir talu’r isaf o 80% o gyflog gweithwyr ar ffyrlo nad ydynt yn gweithio, neu £2,500, hyd yn oed pe byddai hyn, ar sail eu horiau gwaith arferol, yn is na’r isafswm cyflog priodol.

Fodd bynnag, mae’r amser a dreulir ar hyfforddiant tra bo’r cyflogai ar ffyrlo’n cael ei drin fel amser gweithio at ddibenion y cyfrifiadau isafswm cyflog, ac mae’n rhaid i’r amser hwn gael ei dalu ar gyfradd yr isafswm cyflog priodol. Yn hynny o beth, bydd angen i gyflogwyr sicrhau bod y cyflog a’r taliad ffyrlo’n darparu digon o arian i dalu am yr holl amser gweithio, gan gynnwys yr oriau hyfforddi hyn. Os yw’r cyflog yn llai na’r isafswm cyflog priodol, bydd angen i’r cyflogwr dalu’r symiau ychwanegol i sicrhau bod o leiaf yr isafswm cyflog priodol yn cael ei dalu am yr amser gweithio a thalu 100% o’r amser hyfforddi tra bo’r cyflogai ar ffyrlo.

Pan delir gweithiwr sydd ar ffyrlo yn agos at lefelau’r isafswm cyflog, a gofynnir iddo gwblhau cyrsiau hyfforddi am fwyafrif helaeth o’i amser gwaith arferol, argymhellir bod cyflogwyr yn ceisio cyngor annibynnol neu’n cysylltu ag Acas.

Os ydych yn hawlio am aelod o Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC)

Os yw aelod o PAC yn cael ei drin fel cyflogai (oherwydd rheolau ar gyfer aelodau ar gyflog), rhaid i chi ond cynnwys taliadau:

  • sefydlog
  • amrywiol, ond sy’n amrywiol heb gyfeirio at gyfanswm elw na cholledion y PAC
  • nad yw cyfanswm elw na cholledion y PAC yn effeithio arnynt

Tâl gwyliau

Mae cyflogeion ar ffyrlo yn parhau i gronni gwyliau, yn unol â’u contract cyflogaeth.

Gall y cyflogwr a’r cyflogai gytuno i amrywio’r hawl i wyliau fel rhan o’r cytundeb ffyrlo. Fodd bynnag, mae gan bron i bob gweithiwr hawl i 5.6 wythnos o wyliau blynyddol statudol â thâl bob blwyddyn, ac nid oes modd cymryd llai o wyliau na hyn.

Gall cyflogeion fynd ar wyliau pan fyddant ar ffyrlo. Os yw cyflogai yn cael ei roi ar ffyrlo hyblyg, dylai unrhyw oriau a gymerir fel gwyliau yn ystod y cyfnod hawlio gael eu cyfrif fel oriau ffyrlo yn hytrach nag oriau gwaith. Ni ddylid rhoi cyflogeion ar ffyrlo am gyfnod dim ond oherwydd eu bod ar eu gwyliau. Mae hyn yn golygu y dylid dim ond rhoi cyflogeion ar ffyrlo oherwydd bod coronafeirws wedi effeithio ar eich gweithrediadau, ac nid dim ond oherwydd eu bod ar absenoldeb â thâl. Mae hyn yr un mor berthnasol yn ystod unrhyw gyfnodau brig ddiwedd mis Rhagfyr a dechrau mis Ionawr.

Mae Rheoliadau Amser Gwaith yn mynnu bod tâl gwyliau yn cael ei dalu ar gyfradd gyflog arferol y cyflogai neu, os yw’r gyfradd gyflog yn amrywio, mae’r Rheoliadau’n mynnu bod tâl gwyliau yn cael ei gyfrifo fel cyfartaledd y cyflog a gafodd y cyflogai yn ystod yr wythnosau gwaith blaenorol. Felly, os bydd cyflogai sydd ar ffyrlo yn mynd ar wyliau, dylai’r cyflogwr dalu ei dâl gwyliau arferol yn unol â’r Rheoliadau Amser Gwaith.

Bydd yn rhaid i gyflogwyr dalu symiau ychwanegol ar ben y grant, ond bydd hefyd ganddynt yr hyblygrwydd i osod cyfyngiadau o ran pryd y gall gwyliau gael eu cymryd, yn ôl anghenion y busnes. Mae hyn yn berthnasol i’r cyfnod ffyrlo a’r cyfnod adfer, fel ei gilydd.

Os yw cyflogai fel arfer yn gweithio ar wyliau banc, gall y cyflogwr gytuno bod hyn yn cael ei gynnwys fel rhan o daliad y grant. Os yw’r cyflogai fel arfer yn cymryd gwyliau banc fel absenoldeb, byddai’r cyflogwr naill ai’n ychwanegu at ei dâl gwyliau arferol, neu’n rhoi diwrnod o wyliau i’r cyflogai yn lle hynny.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am dâl gwyliau yn ystod cyfnod ffyrlo.

Cyflogeion sy’n dychwelyd o absenoldeb statudol sy’n gysylltiedig â materion teuluol

Mae absenoldeb statudol sy’n gysylltiedig â materion teuluol yn cynnwys:

  • absenoldeb mamolaeth
  • absenoldeb tadolaeth
  • absenoldeb ar y cyd i rieni
  • absenoldeb mabwysiadu
  • absenoldeb rhieni mewn profedigaeth
  • absenoldeb di-dâl i rieni

Ar gyfer cyflogeion sydd ar gyflog sefydlog, dylai hawliadau ar gyfer cyflogeion amser llawn neu ran-amser sy’n cael eu rhoi ar ffyrlo ar ôl dychwelyd o absenoldeb statudol sy’n gysylltiedig â materion teuluol gael eu cyfrifo yn erbyn eu cyflog, cyn treth, ac nid yn erbyn y cyflog a gawsant yn ystod eu habsenoldeb statudol sy’n gysylltiedig â materion teuluol. Mae’r un egwyddorion yn gymwys os yw’r cyflogai’n dychwelyd o gyfnod o absenoldeb statudol di-dâl sy’n gysylltiedig â materion teuluol.

Ar gyfer cyfnodau hawlio sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Mai 2021, pan fyddwch yn cyfrifo cyflogau cyfartalog cyflogeion sydd ar gyflog amrywiol, ni ddylech gynnwys diwrnodau yn ystod, na chyflogau sy’n gysylltiedig â chyfnod o absenoldeb statudol sy’n gysylltiedig â materion teuluol neu absenoldeb â thâl ar gyfradd is yn dilyn cyfnod o absenoldeb statudol sy’n gysylltiedig â materion teuluol.

Fodd bynnag, pe bai’r cyflogai ar absenoldeb statudol sy’n gysylltiedig â materion teuluol neu absenoldeb â thâl ar gyfradd is drwy gydol yr holl gyfnod a ddefnyddiwyd i gyfrifo ei gyflog cyfartalog, dylech gynnwys y dyddiau yn ystod y cyfnod, a’r cyflog sy’n gysylltiedig â’r cyfnod o absenoldeb, gan y byddai’r cyflog cyfeirio fel arall yn sero.

Dim ond pan fyddwch yn defnyddio’r dull cyfartaleddu i gyfrifo cyflog eich cyflogai y mae hyn yn berthnasol – mae’r dull edrych yn ôl ar galendr yn seiliedig ar y swm yr oedd yn ei ennill mewn gwirionedd, hyd yn oed os oedd ar gyfnod o absenoldeb statudol.

Cyflogeion sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl absenoldeb salwch â thâl

Ar gyfer cyflogeion sydd ar gyflog sefydlog, dylai hawliadau ar gyfer cyflogeion amser llawn neu ran-amser sy’n cael eu rhoi ar ffyrlo ar ôl dychwelyd i’r gwaith ar ôl bod i ffwrdd yn sâl gael eu cyfrifo yn erbyn eu cyflog, cyn treth, ac nid yn erbyn y cyflog a gawsant pan oeddent i ffwrdd yn sâl.

Ar gyfer cyfnodau hawlio sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Mai 2021, pan fyddwch yn cyfrifo cyflog cyfartalog cyflogeion sydd ar gyflog amrywiol, ni ddylech gynnwys diwrnodau yn ystod, na chyflog sy’n gysylltiedig â chyfnod o absenoldeb tâl salwch statudol neu absenoldeb â thâl ar gyfradd is yn dilyn cyfnod o absenoldeb tâl salwch statudol.

Fodd bynnag, pe bai’r cyflogai ar absenoldeb tâl salwch statudol neu absenoldeb â thâl ar gyfradd is drwy gydol yr holl gyfnod a ddefnyddiwyd i gyfrifo ei gyflog cyfartalog, dylech gynnwys y dyddiau yn ystod y cyfnod, a’r cyflog sy’n gysylltiedig â’r cyfnod o absenoldeb, gan y byddai’r cyflog cyfeirio fel arall yn sero.

Dim ond pan fyddwch yn defnyddio’r dull cyfartaleddu i gyfrifo cyflog eich cyflogai y mae hyn yn berthnasol - mae’r dull edrych yn ôl ar galendr yn seiliedig ar y swm yr oedd yn ei ennill mewn gwirionedd, hyd yn oed os oedd ar gyfnod o absenoldeb statudol.

Cyfnod sabothol di-dâl neu absenoldeb di-dâl

Ar gyfer cyflogeion sy’n cael cyflog sefydlog, os yw’ch cyflogai wedi bod ar gyfnod sabothol di-dâl neu absenoldeb di-dâl, bydd angen i chi ddefnyddio’r swm a fyddai wedi’i dalu iddo pe bai ar absenoldeb â thâl wrth gyfrifo 80% o’i gyflog.

Dod o hyd i ddyddiad cyfeirio eich cyflogai

Mae angen i chi wybod dyddiad cyfeirio’r cyflogai i wybod pa reolau cyfrifo y dylech eu defnyddio ac oherwydd bod rhai cyfrifiadau’n defnyddio dyddiad cyfeirio’r cyflogai yn y camau cyfrifo.

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 19 Mawrth 2020 os yw unrhyw un o’r canlynol yn wir:

  • gwnaethoch daliad o enillion i’r cyflogai ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020 (a rhoddwyd gwybod i CThEM am hyn ar Gyflwyniad Taliadau Llawn Gwybodaeth Amser Real ar neu cyn 19 Mawrth 2020)
  • gwnaethoch gyflwyno hawliad dilys drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws ar gyfer y cyflogai am gyfnod hawlio a ddaeth i ben ar neu cyn 31 Hydref 2020
  • roedd y cyflogai ar gyflogres ei gyflogwr blaenorol ar 28 Chwefror 2020, fe’i trosglwyddwyd i chi gan y cyflogwr hwnnw ar ôl 28 Chwefror 2020 ac roedd y rheolau TUPE neu reolau dilyniant busnes yn berthnasol i’r trosglwyddiad

Os nad yw 19 Mawrth 2020 yn gymwys fel dyddiad cyfeirio’r cyflogai, dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 30 Hydref 2020 os yw unrhyw un o’r canlynol yn wir:

  • gwnaethoch daliad o enillion i’r cyflogai, a rhoddwyd gwybod am hynny i CThEM ar Gyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) Gwybodaeth Amser Real (RTI) rhwng 20 Mawrth 2020 a 30 Hydref 2020 (cynhwysol)
  • gwnaethoch gais dilys drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws ar gyfer y cyflogai am gyfnod hawlio rhwng 1 Tachwedd 2020 a 30 Ebrill 2021
  • roedd y cyflogai ar gyflogres ei gyflogwr blaenorol ar neu cyn 30 Hydref 2020, fe’i trosglwyddwyd i chi gan y cyflogwr hwnnw ar ôl 31 Awst 2020 ac roedd rheolau TUPE neu reolau dilyniant busnes yn gymwys i’r trosglwyddiad

Os nad yw’r dyddiadau cyfeirio 19 Mawrth 2020 na 30 Hydref 2020 yn berthnasol, nid yw’r cyflogai yn gymwys ar gyfer cyfnodau sy’n dechrau cyn 1 Mai 2021. Os gwnaethoch daliad o enillion i’r cyflogai, a rhoddwyd gwybod am hynny i CThEM ar Gyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) Gwybodaeth Amser Real (RTI) rhwng 31 Hydref 2020 a 2 Mawrth 2021 (cynhwysol), efallai y bydd yn gymwys ar gyfer cyfnodau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Mai 2021 a’i ddyddiad cyfeirio fydd 2 Mawrth 2021.

Os oes gan gyflogai sydd ar gyflog amrywiol ddyddiad cyfeirio ar 19 Mawrth 2020 neu 30 Hydref 2020 oherwydd iddo gael ei drosglwyddo i chi gan ei gyflogwr blaenorol o dan reolau TUPE neu Reolau Dilyniant Busnes, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi ystyried ei gyfnod cyflogaeth gyda’i gyflogwr blaenorol yn eich cyfrifiadau. Gallwch weld sut mae hyn yn effeithio ar sut rydych yn cyfrifo ei oriau arferol a’i gyflog arferol.

Cyfrifo oriau arferol ac oriau ffyrlo eich cyflogai

Os yw’ch cyflogai ar ffyrlo llawn, nid oes angen i chi gyfrifo’i oriau arferol a’i oriau ffyrlo, a dylech gyfrifo’r uchafswm cyflog. Mae cyflogai ar ffyrlo llawn os nad yw’n gwneud unrhyw waith ar eich cyfer yn ystod y cyfnod hawlio.

Os yw’ch cyflogai ar ffyrlo hyblyg, bydd angen i chi gyfrifo oriau arferol eich cyflogai a chofnodi’r oriau y mae’n gweithio mewn gwirionedd, yn ogystal â’i oriau ar ffyrlo ar gyfer pob cyfnod hawlio.

Gallwch gyfrifo’r oriau arferol ar gyfer y cyfnod hawlio cyfan neu ar gyfer pob cyfnod cyflog, neu ran o gyfnod cyflog, sy’n dod o dan y cyfnod hawlio. Mae’r canllaw hwn yn tybio y byddwch yn cyfrifo ar sail cyfnod cyflog ond mae’r naill ddull neu’r llall yn dderbyniol.

Os ydych yn cyfrifo’r oriau arferol ar gyfer y cyfnod hawlio cyfan ac nad yw’r canlyniad yn rhif cyfan, dylech ei dalgrynnu i fyny i’r rhif cyfan nesaf. Os ydych yn cyfrifo’r oriau arferol ar sail cyfnod cyflog, dylech dalgrynnu’r canlyniad i fyny neu i lawr i’r rhif cyfan agosaf.

Mae dau gyfrifiad gwahanol y gallwch eu defnyddio i gyfrifo oriau arferol eich cyflogai, yn dibynnu a yw’n gweithio oriau sefydlog neu oriau amrywiol.

Dylech gyfrifo oriau arferol ar gyfer cyflogai sy’n gweithio oriau amrywiol, os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • nid yw’ch cyflogai wedi’i gontractio am nifer sefydlog o oriau
  • mae cyflog eich cyflogai’n dibynnu ar nifer yr oriau y mae’n gweithio

Os nad yw’r un o’r rhain yn berthnasol, dylech gyfrifo oriau arferol eich cyflogai ar gyfer cyflogai sydd wedi’i gontractio am nifer sefydlog o oriau.

Nid oes rhaid i batrwm gwaith y cyflogai baru â’i gyfnod cyflog (er enghraifft, gallai cyflogai fod wedi’i gontractio am 40 awr sefydlog yr wythnos, ond gellid talu swm misol amrywiol iddo oherwydd lwfansau sifft). Ni fydd CThEM yn gwrthod nac yn ceisio ad-daliad o unrhyw grant sy’n seiliedig yn llwyr ar y dewis penodol rhwng dull sefydlog neu amrywiol o gyfrifo oriau arferol, cyn belled ag y gwneir dewis rhesymol.

Cyfrifo oriau arferol eich cyflogai ar gyfer cyflogai sydd wedi’i gontractio am nifer sefydlog o oriau ac nad yw ei gyflog yn amrywio yn ôl nifer yr oriau y mae’n gweithio

Er mwyn cyfrifo nifer yr oriau arferol ar gyfer pob cyfnod cyflog (neu gyfnod cyflog rhannol):

  1. Dechreuwch â’r oriau yr oedd eich cyflogai wedi’i gontractio ar eu cyfer ar ddiwedd y cyfnod cyflog diwethaf a ddaeth i ben ar neu cyn dyddiad cyfeirio’r cyflogai.

  2. Rhannwch â nifer y diwrnodau calendr yn y patrwm gwaith ailadroddus, gan gynnwys diwrnodau nad oedd y cyflogai’n gweithio.

  3. Lluoswch â nifer y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) yr ydych yn hawlio ar eu cyfer.

  4. Talgrynnwch i fyny neu i lawr os nad yw’r canlyniad yn rhif cyfan.

Os oedd cyflogai ag oriau sefydlog ar wyliau blynyddol, i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch neu ar absenoldeb statudol sy’n gysylltiedig â materion teuluol ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cyflog diwethaf a ddaeth i ben ar neu cyn dyddiad cyfeirio’r cyflogai, dylai’r oriau arferol gael eu cyfrif fel pe na bai’r cyflogai wedi cymryd y cyfnod hwnnw o absenoldeb.

Dewch o hyd i enghreifftiau o sut i gyfrifo oriau arferol ar gyfer cyflogeion sydd o dan gontract am nifer sefydlog o oriau.

Os oes gan eich cyflogai oriau sefydlog a bod ei gyfnod cyflog cyntaf wedi dod i ben ar ôl ei ddyddiad cyfeirio

Gallwch barhau i hawlio ar gyfer cyflogeion ag oriau sefydlog y mae eu dyddiad cyfeirio ar 30 Hydref 2020 neu 2 Mawrth 2021 ac y mae eu cyfnod cyflog cyntaf yn dod i ben ar ôl y dyddiad hwnnw, cyn belled â bod CThEM wedi cael manylion eu cyflogau ar Gyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) Gwybodaeth Amser Real (RTI) TWE ar neu cyn eu dyddiad cyfeirio a bod yr amodau cymhwystra eraill yn cael eu bodloni.

Wrth i chi gyfrifo oriau arferol y cyflogai, defnyddiwch yr oriau y cafodd ei gontractio ar eu cyfer ar ddiwedd y cyfnod cyflog y cyflwynwyd Cyflwyniad Taliadau Llawn Gwybodaeth Amser Real TWE ar ei gyfer i CThEM, ac a ddaeth i law ar neu cyn ei ddyddiad cyfeirio.

Dewch o hyd i enghraifft o gyfrifo oriau arferol ar gyfer cyflogai ag oriau sefydlog y gwnaeth ei gyfnod cyflog cyntaf ddod i ben ar ôl ei ddyddiad cyfeirio.

Dewch o hyd i enghreifftiau o gyfrifo oriau arferol ar gyfer cyflogai ag oriau sefydlog y mae ei ddyddiad cyfeirio ar 30 Hydref 2020 neu 2 Mawrth 2021 a gwnaeth ei gyfnod cyflog cyntaf ddod i ben ar ôl ei ddyddiad cyfeirio.

Cyfrifo oriau arferol eich cyflogai ar gyfer cyflogai sy’n gweithio oriau amrywiol

Os yw’r cyflog yn amrywio yn ôl faint o amser a weithiwyd, byddwch wedi dangos nifer yr oriau a weithiwyd ar slipiau cyflog eich cyflogeion yn unol â deddfwriaeth a gyflwynwyd gan BEIS ym mis Ebrill 2019 (Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996, adran 8). Felly, rydych yn debygol o gael cofnodion o nifer yr oriau a weithiwyd.

Dylai cyflogwyr nodi’r oriau y bu’r cyflogai yn gweithio gan ddefnyddio cofnodion cyflog, taflenni amser a chofnodion eraill sy’n dangos yr amser a weithiwyd. Os nad yw’r rhain ar gael, defnyddiwch gofnodion eraill, fel rotâu neu ddyddiaduron gwaith. Os nad yw’r cofnodion hyn ar gael, gall cyflogwyr ddefnyddio’r gyfradd gyflog i weithio yn ôl o’r cyflog gros.

Os yw eich cyflogai ar gyflog amrywiol, byddwch yn cwblhau cymhariaeth debyg i gyfrifo’i gyflog arferol ond gall y canlyniad fod yn wahanol.

Wrth gyfrifo’r oriau arferol, dylech gynnwys unrhyw oriau:

Os ydych yn cyfrifo’r oriau arferol ar gyfer cyflogai sy’n rhan o drefniant amser gwaith hyblyg (“gwyliau fflecsi”), dylech wneud y canlynol:

  • peidio â chyfrif oriau di-dâl fel oriau a weithiwyd pan oedd y cyflogai yn hytrach wedi cronni absenoldeb â thâl y gallai ei gymryd yn ddiweddarach

  • cyfri’r oriau y cymerodd y cyflogai fel absenoldeb â thâl fel oriau a weithiwyd pan oedd wedi cronni’r amser hwnnw drwy weithio oriau ychwanegol ar ryw adeg arall

Byddwch yn defnyddio dulliau gwahanol i gyfrifo ‘oriau arferol’ eich cyflogai ar gyfer cyflogai sy’n gweithio oriau amrywiol, yn dibynnu ar ddyddiad cyfeirio’r cyflogai.

Ar gyfer cyflogeion sydd â dyddiad cyfeirio ar 19 Mawrth 2020, cyfrifwch yr ‘oriau arferol’ yn seiliedig ar y naill neu’r llall o’r canlynol, p’un byddag sydd fwyaf:

Ar gyfer cyflogeion eraill, byddwch yn cyfrifo’r ‘oriau arferol’ yn seiliedig ar nifer cyfartalog yr oriau a weithiwyd yn y cyfnod yr oeddent yn gweithio i chi o 6 Ebrill 2020 hyd at (a chan gynnwys) y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y cyflogai a dreuliwyd ar ffyrlo ar neu ar ôl naill ai:

  • 1 Tachwedd 2020 (ar gyfer y rhai â dyddiad cyfeirio ar 30 Hydref 2020
  • 1 Mai 2021 (ar gyfer y rhai â dyddiad cyfeirio ar 2 Mawrth 2021)

Ar gyfer cyflogeion, cyfrifwch nifer cyfartalog yr oriau a weithiwyd o 6 Ebrill 2020 hyd at (a chan gynnwys) y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y cyflogai a dreuliwyd ar ffyrlo ar neu ar ôl 1 Mai 2021.

Dull cyfartaleddu ar gyfer cyflogai ag oriau amrywiol y mae ei ddyddiad cyfeirio ar 19 Mawrth 2020

Er mwyn cyfrifo’r oriau arferol ar gyfer pob cyfnod cyflog (neu gyfnod cyflog rhannol) ar sail yr oriau cyfartalog a weithiwyd ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020:

  1. Dechreuwch â nifer yr oriau a weithiwyd mewn gwirionedd (neu’r oriau ar wyliau blynyddol â thâl neu absenoldeb fflecsi) ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020 cyn i’r cyflogai gael ei roi ar ffyrlo am y tro cyntaf, neu ddiwedd y flwyddyn dreth os yw hynny’n gynharach.

  2. Rhannwch â nifer y diwrnodau calendr roedd y cyflogai wedi’i gyflogi gennych ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020, hyd at (a chan gynnwys) y diwrnod cyn iddo gael ei roi ar ffyrlo am y tro cyntaf, neu ddiwedd y flwyddyn dreth os yw hynny’n gynharach.

  3. Lluoswch â nifer y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) yr ydych yn hawlio ar eu cyfer.

  4. Talgrynnwch i fyny neu i lawr os nad yw’r canlyniad yn rhif cyfan.

Pan fyddwch yn cyfrifo nifer y diwrnodau calendr yng ngham 2, ni ddylech gyfrif unrhyw ddiwrnodau calendr lle’r oedd y cyflogai ar gyfnod o unrhyw un o’r canlynol:

  • absenoldeb sy’n gysylltiedig â thâl salwch statudol
  • absenoldeb statudol sy’n gysylltiedig â materion teuluol
  • absenoldeb â thâl ar gyfradd is yn dilyn cyfnod o absenoldeb sy’n gysylltiedig â thâl salwch statudol
  • absenoldeb â thâl ar gyfradd is yn dilyn cyfnod o absenoldeb statudol sy’n gysylltiedig â materion teuluol

Dewch o hyd i enghreifftiau o sut i gyfrifo nifer gyfartalog yr oriau a weithiwyd ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020 ar gyfer cyflogai sy’n gweithio oriau amrywiol.

Dull edrych yn ôl ar galendr

Pan fyddwch yn cyfrifo’r oriau arferol yn seiliedig ar y cyfnod calendr cyfatebol mewn blwyddyn flaenorol, mae’r cyfnod rydych yn edrych yn ôl ato yn dibynnu ar y cyfnod rydych yn hawlio amdano:

Mis Hawlio Cyfnod edrych yn ôl
Mai 2021 Mai 2019
Mehefin 2021 Mehefin 2019
Gorffennaf 2021 Gorffennaf 2019
Awst 2021 Awst 2019
Medi 2021 Medi 2019

Os na wnaeth eich cyflogai weithio i chi yn ystod y cyfnod ‘edrych yn ôl’ ar gyfer y mis yr ydych yn hawlio amdano, gallwch ond defnyddio’r dull cyfartaleddu i gyfrifo’i oriau arferol.

Er mwyn cyfrifo’r oriau arferol ar gyfer cyfnod cyflog neu gyfnod cyflog rhannol yn seiliedig ar y cyfnod calendr cyfatebol mewn blwyddyn flaenorol:

  1. Nodwch y cyfnodau cyflog sy’n cynnwys o leiaf un diwrnod calendr yn y cyfnod ‘edrych yn ôl’ ac sy’n cyfateb i o leiaf un diwrnod calendr yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) yr ydych yn hawlio ar ei gyfer.

  2. Os yw’r cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) yr ydych yn hawlio ar ei gyfer yn dechrau ac yn dod i ben ar yr un diwrnodau calendr â’r cyfnod cyflog a nodwyd yng Ngham 1 – defnyddiwch nifer yr oriau a weithiwyd gan y cyflogai mewn gwirionedd yn ystod y cyfnod cyflog hwnnw.

  3. Os nad yw’r cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) yr ydych yn hawlio ar ei gyfer yn dechrau ac yn dod i ben ar yr un diwrnodau calendr â’r cyfnodau cyflog a nodwyd yng Ngham 1 – bydd angen i chi ychwanegu at ei gilydd gyfran o’r oriau a weithiwyd ym mhob un o’r cyfnodau cyflog rydych wedi’u nodi.

Os bydd eich cyfnodau cyflog yn dod i ben ar ddiwrnod olaf mis Chwefror, bydd angen i chi addasu nifer yr oriau a weithiwyd oherwydd, gan gofio mai blwyddyn naid oedd 2020, ni fyddant yn dod i ben ar yr un diwrnod calendr.

Dewch o hyd i enghraifft o sut i gyfrifo’r oriau arferol a weithiwyd yn ystod yr un cyfnod mewn blwyddyn flaenorol ar gyfer cyflogai sy’n gweithio oriau amrywiol, a’i ddyddiad cyfeirio yw 19 Mawrth 2020, os yw’r cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) yr hawlir ar ei gyfer yn dechrau ac yn dod i ben ar yr un diwrnodau calendr â’r cyfnod cyflog a nodwyd.

Os oes angen i chi gyfrifo’r oriau arferol yn seiliedig ar yr oriau a weithiwyd yn ystod mwy nag un cyfnod cyflog mewn blwyddyn flaenorol:

  1. Dechreuwch â nifer yr oriau a weithiwyd yn y cyfnod cyflog cyntaf a nodwyd yn y cyfnod ‘edrych yn ôl’.

  2. Lluoswch â nifer y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog hwnnw sy’n cyfateb i o leiaf un diwrnod calendr yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) yr ydych yn hawlio ar ei gyfer.

  3. Rhannwch â nifer y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog a nodwyd yng Ngham 1.

  4. Ailadroddwch gamau 1, 2 a 3 ar gyfer pob cyfnod cyflog dilynol a nodwyd yn y cyfnod ‘edrych yn ôl’.

  5. Ychwanegwch nhw i gyd at ei gilydd.

  6. Talgrynnwch i fyny neu i lawr os nad yw’r canlyniad yn rhif cyfan.

Dewch o hyd i enghraifft o sut i gyfrifo’r oriau arferol yn seiliedig ar yr oriau a weithiwyd mewn mwy nag un cyfnod cyflog mewn blwyddyn flaenorol ar gyfer mis Mawrth 2021 neu fis Ebrill 2021 ar gyfer cyflogai sy’n gweithio oriau amrywiol a’i ddyddiad cyfeirio yw 19 Mawrth 2020.

Dull cyfartaleddu ar gyfer cyflogai ag oriau amrywiol y mae ei ddyddiad cyfeirio ar 30 Hydref 2020 neu 2 Mawrth 2021

Cyn i chi gyfrifo nifer cyfartalog yr oriau gan ddefnyddio’r cyfrifiad hwn, mae angen i chi wybod hyd at ba ddyddiad i gyfrifo.

Ar gyfer cyflogeion y mae eu dyddiad cyfeirio ar 30 Hydref 2020, y dyddiad i gyfrifo hyd ato yw’r diwrnod cyn diwrnod cyntaf y cyflogai a dreuliwyd ar ffyrlo ar neu ar ôl 1 Tachwedd 2020.

Ar gyfer cyflogeion y mae eu dyddiad cyfeirio ar 2 Mawrth 2021, y dyddiad i gyfrifo hyd ato yw’r diwrnod cyn diwrnod cyntaf y cyflogai a dreuliwyd ar ffyrlo ar neu ar ôl 1 Mai 2021.

I gyfrifo’r oriau arferol ar gyfer pob cyfnod cyflog (neu gyfnod cyflog rhannol) yn seiliedig ar nifer cyfartalog yr oriau a weithiwyd o 6 Ebrill 2020 (neu’r diwrnod y dechreuodd cyflogaeth y cyflogai os yw hynny’n ddiweddarach) hyd at (a chan gynnwys) y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y cyflogai a dreuliwyd ar ffyrlo ar neu ar ôl 1 Tachwedd 2020 neu ar neu ar ôl 1 Mai 2021:

  1. Dechreuwch gyda nifer yr oriau a weithiwyd mewn gwirionedd (neu’r oriau ar wyliau blynyddol â thâl neu absenoldeb fflecsi) o 6 Ebrill 2020 (neu’r diwrnod y dechreuodd cyflogaeth y cyflogai os yw hynny’n ddiweddarach) a hyd at (a chan gynnwys) y dyddiad i gyfrifo hyd ato.

  2. Rhannwch â nifer y diwrnodau calendr y cyflogwyd y cyflogai gennych o 6 Ebrill 2020 (neu’r diwrnod y dechreuodd cyflogaeth y cyflogai os yw hynny’n ddiweddarach) – gan gynnwys diwrnodau nad ydynt yn ddiwrnodau gwaith – hyd at (a chan gynnwys) y dyddiad i gyfrifo hyd ato.

  3. Lluoswch â nifer y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) yr ydych yn hawlio ar eu cyfer.

  4. Talgrynnwch i fyny neu i lawr os nad yw’r canlyniad yn rhif cyfan.

Pan fyddwch yn cyfrifo nifer y diwrnodau calendr yng ngham 2, ni ddylech gyfrif unrhyw ddiwrnodau calendr lle’r oedd y cyflogai ar gyfnod o unrhyw un o’r canlynol:

  • absenoldeb sy’n gysylltiedig â thâl salwch statudol
  • absenoldeb statudol sy’n gysylltiedig â materion teuluol
  • absenoldeb â thâl ar gyfradd is yn dilyn cyfnod o absenoldeb sy’n gysylltiedig â thâl salwch statudol
  • absenoldeb â thâl ar gyfradd is yn dilyn cyfnod o absenoldeb statudol sy’n gysylltiedig â materion teuluol

Dewch o hyd i enghraifft o sut i gyfrifo oriau arferol y cyflogai yn seiliedig ar nifer cyfartalog yr oriau a weithiwyd o 6 Ebrill 2020 a hyd at (a chan gynnwys) y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y cyflogai a dreuliwyd ar ffyrlo ar neu ar ôl 1 Tachwedd 2020 neu ar neu ar ôl 1 Mai 2021.

Pe bai eich cyflogai ag oriau amrywiol yn cael ei drosglwyddo i chi o dan y rheolau TUPE neu Reolau Dilyniant Busnes

Os oes gan gyflogai ag oriau amrywiol ddyddiad cyfeirio ar 19 Mawrth 2020 neu 30 Hydref 2020 oherwydd iddo gael ei drosglwyddo i chi gan ei gyflogwr blaenorol o dan reolau TUPE neu Reolau Dilyniant Busnes, efallai y bydd yn rhaid i chi ystyried ei gyfnod cyflogaeth gyda’i gyflogwr blaenorol pan fyddwch yn cyfrifo’i oriau arferol.

Os oes gan y cyflogai ddyddiad cyfeirio ar 19 Mawrth 2020:

  • pan fyddwch yn cyfrifo’r oriau arferol yn seiliedig ar y cyfnod calendr cyfatebol mewn blwyddyn flaenorol, dylech gynnwys yr oriau a’r diwrnodau yn y cyfnod edrych yn ôl pan oedd yn gweithio i’w gyflogwr blaenorol (rhaid i hyn fod yn gyflogwr a’i drosglwyddodd i chi o dan reolau TUPE neu Reolau Dilyniant Busnes)
  • pan fyddwch yn cyfrifo’i oriau arferol gan ddefnyddio’r dull cyfartaleddu, y dyddiad i gyfrifo ohono yw6 Ebrill 2019 neu’r dyddiad cyntaf y cafodd ei gyflogi gan ei gyflogwr blaenorol, p’un bynnag sydd ddiweddaraf
  • y dyddiad i gyfrifo hyd ato yw 5 Ebrill 2020 neu’r diwrnod cyn iddo gael ei roi ar ffyrlo gennych chi neu gan ei gyflogwr blaenorol am y tro cyntaf (rhaid i hwn fod yn gyflogwr a’i drosglwyddodd i chi o dan reolau TUPE neu Reolau Dilyniant Busnes), p’un bynnag sydd gynharaf

Os oes gan y cyflogai ddyddiad cyfeirio ar 30 Hydref 2020:

  • pan fyddwch yn cyfrifo’i oriau arferol gan ddefnyddio’r dull cyfartaleddu, y dyddiad i gyfrifo ohono yw6 Ebrill 2020 neu’r dyddiad cyntaf y cafodd ei gyflogi gan ei gyflogwr blaenorol, p’un bynnag sydd ddiweddaraf
  • y dyddiad i gyfrifo hyd ato yw’r diwrnod cyn iddo gael ei roi ar ffyrlo am y tro cyntaf ar neu ar ôl 1 Tachwedd 2020 gennych chi neu gan ei gyflogwr blaenorol (rhaid i hwn fod yn gyflogwr a’i drosglwyddodd i chi o dan reolau TUPE neu Reolau Dilyniant Busnes)

Cyfrifo oriau arferol eich cyflogai os yw’n cael ei dalu fesul tasg neu ddarn o waith

Dylech gyfrifo’r oriau arferol ar gyfer y cyflogeion hyn yn yr un ffordd ag y byddech ar gyfer cyflogeion sy’n gweithio oriau hyblyg, os yw hynny’n bosibl.

Os nad ydych yn gwybod pa oriau y gweithiodd y cyflogai, gallwch amcangyfrif yr oriau yn seiliedig ar nifer y ‘darnau’ a gynhyrchwyd ganddo a chyfradd gyfartalog y gwaith fesul awr (y dylech fod wedi cyfrifo eisoes er mwyn cydymffurfio â’r rheolau Isafswm Cyflog Cenedlaethol).

Cyfrifo nifer yr oriau gwaith a’r oriau ffyrlo ar gyfer pob cyflogai

Byddwch wedi cytuno faint o oriau y mae’ch cyflogai sydd ar ffyrlo hyblyg yn mynd i’w gweithio yn ystod y cyfnod hawlio. Bydd y cyflogai’n cael ei roi ar ffyrlo am weddill ei oriau arferol.

Er mwyn cyfrifo nifer yr oriau ar ffyrlo:

  1. Dechreuwch ag oriau arferol eich cyflogai.

  2. Didynnwch nifer yr oriau a weithiodd mewn gwirionedd yn ystod y cyfnod hawlio – hyd yn oed os yw hyn yn wahanol i’r hyn y gwnaethoch ei gytuno.

Na ddylech hawlio tan eich bod yn sicr ynghylch nifer yr oriau y mae’ch cyflogeion yn eu gweithio yn ystod y cyfnod hawlio. Os byddwch yn hawlio ymlaen llaw a bod eich cyflogai’n gweithio mwy o oriau na’r hyn a gytunwyd gennych, bydd yn rhaid i chi ad-dalu peth o’r grant i CThEM. Os gwnewch wall wrth gyflwyno’ch hawliad, gallwch ganfod sut i’w gywiro.

Mae’n rhaid i chi dalu’r cyflogai am unrhyw oriau y mae’n gweithio ar y gyfradd a gytunwyd yn gontractiol. Gwiriwch y cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol diweddaraf.

Dewch o hyd i enghraifft ar gyfer cyfrifo nifer yr oriau ffyrlo lle nad yw cyflogai yn cymryd cyfnod o absenoldeb yn ystod y cyfnod hawlio.

Cyfrifo nifer yr oriau a weithiwyd a nifer yr oriau ar ffyrlo ar gyfer cyflogai sydd ar ffyrlo neu sydd ar ffyrlo hyblyg am ran o gyfnod hawlio

Os yw’ch cyflogai dim ond ar ffyrlo neu ffyrlo hyblyg am ran o’ch cyfnod hawlio, wrth gyfrifo nifer yr oriau ffyrlo y gallwch hawlio amdanynt, gwnewch yn siŵr:

  • eich bod ond yn cyfrifo oriau arferol y cyflogai ar gyfer y diwrnodau a gwmpesir gan y cytundeb ffyrlo
  • nad ydych yn cynnwys unrhyw oriau gwaith ar ddiwrnodau nad ydynt wedi’u cwmpasu gan gytundeb ffyrlo

Mae hyn yn gymwys hyd yn oed os yw’ch cyfnod hawlio’n cynnwys diwrnodau cyn neu ar ôl cytundeb ffyrlo’r cyflogai (er enghraifft, oherwydd eich bod yn hawlio am nifer o gyflogeion ac mae rhai ohonynt ar ffyrlo am gyfnod gwahanol).

Os bydd eich cyflogai’n cymryd cyfnod o absenoldeb tra bydd ar ffyrlo hyblyg

Ni allwch hawlio ar gyfer cyflogai o dan y cynllun am unrhyw amser y mae ar absenoldeb di-dâl neu absenoldeb cysylltiedig â thâl salwch statudol.

Gallwch hawlio ar gyfer cyflogai sydd ar unrhyw un o’r canlynol:

  • gwyliau blynyddol
  • absenoldeb a gymerir oherwydd yr amser a weithiwyd o dan drefniant amser gwaith hyblyg (gwyliau fflecsi)
  • absenoldeb statudol sy’n gysylltiedig â materion teuluol
  • absenoldeb â thâl ar gyfradd is yn dilyn cyfnod o absenoldeb statudol sy’n gysylltiedig â materion teuluol

Mae unrhyw amser y mae ar y mathau hyn o absenoldeb tra ydyw ar ffyrlo hyblyg yn cyfrif fel oriau ffyrlo ac nid yw’n cyfrif fel amser a weithiwyd mewn gwirionedd.

Beth i’w wneud nesaf

Ar ôl i chi gwblhau’r camau hyn, gallwch gyfrifo’ch hawliad.

Cyhoeddwyd ar 12 June 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 October 2021 + show all updates
  1. Information updated because the Coronavirus Job Retention Scheme closed on 30 September 2021.

  2. Claims for furlough days in May 2021 must be made by 14 June 2021.

  3. Claims for furlough days in April 2021 must be made by 14 May 2021.

  4. Added translation

  5. Section about employee reference dates added and changes made throughout the page to include employee reference dates.

  6. Claims for furlough days in March 2021 must be made by 14 April 2021.

  7. Dates for when employers can make a claim have been updated.

  8. The scheme has been extended until 30 September 2021. From 1 July 2021, the level of grant will be reduced each month and employers will be asked to contribute towards the cost of furloughed employees’ wages. New information on claim periods from May 2021 added.

  9. Claims for furlough days in February 2021 must be made by 15 March 2021.

  10. The section 'What to include when calculating wages' has been updated to give more information about non-monetary benefits and employer pension contributions under salary sacrifice schemes.

  11. Added translation

  12. New sections added under 'Work out your employee’s usual hours and furloughed hours' called 'Averaging method for employees whose earnings were reported on an RTI FPS on or before 19 March 2020' and 'Calendar lookback method'.

  13. Added Welsh translation.

  14. Updated to reflect that the Coronavirus Job Retention Scheme has been extended to 30 April 2021.

  15. The information about holiday pay and unpaid sabbatical or unpaid leave has been updated.

  16. Guidance updated to reflect that 30 November claims deadline has now passed.

  17. More information about fixed hours employees whose first pay period ends after 30 October 2020 has been added.

  18. There has been a minor amendment to clarify how to work out 80% of your employee’s average earnings between the date their employment started and the day before they are furloughed.

  19. Information relating to claim period deadlines and timings has been clarified.

  20. The scheme has been extended. This guidance has been updated with details of how to claim for periods after 1 November 2020. 30 November 2020 is the last day employers can submit or change claims for periods ending on or before 31 October 2020.

  21. Information call out updated to state that the scheme is being extended until 31 March 2021.

  22. Information call out has been updated to confirm that the guidance on this page reflects the rules for the period until 31 October 2020. This page will be updated to include the rules relating to the scheme extension shortly.

  23. The Coronavirus Job Retention Scheme is being extended until December 2020.

  24. Information call out has been updated - the scheme is now closed. 30 November 2020 is the last date you can submit claims.

  25. The information call out at the top of the page has been updated with the changes to the scheme. 30 November 2020 is the last day employers can submit or change claims for periods ending on or before 30 October 2020.

  26. New subsection 'Work out your employee's usual hours and furloughed hours' to tell employers how to calculate the number of working and furloughed hours for an employee that comes off furlough or flexible furlough partway through a claim period. Employers using this calculation do not need to amend previous claims.

  27. The information call out at the top of the page has been updated with the changes to the scheme from 1 September.

  28. Deleted sections on working out claims on or before 30 June 2020 and on calculate your claim for pension contributions for claim periods up to and including 30 June 2020.

  29. Wording has been added to make it clear that HMRC will not decline or seek repayment of any grant based solely on the particular choice between fixed or variable approach to calculating usual hours, as long as a reasonable choice is made.

  30. Page updated with information on holiday pay that employees can be recorded as on furlough during time spent on holiday. Also added information on how to calculate furloughed hours for different sets of circumstances.

  31. First published.