Canllawiau

Rhoi gwybod am gyflog cyflogeion i CThEM pan fyddwch wedi hawlio drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws

Dysgu sut a phryd i roi gwybod i CThEM am gyflogau cyflogeion gan ddefnyddio’r system Gwybodaeth Amser Real TWE.

This guidance was withdrawn on

The Coronavirus Job Retention Scheme ended on 30 September 2021.

You can:

Os ydych yn hawlio grant drwy’r cynllun, dyma’r camau y mae’n rhaid i chi eu cymryd i wneud hyn:

  1. Gwirio a allwch hawlio.

  2. Gwirio pa gyflogeion y gallwch eu rhoi ar ffyrlo.

  3. Camau i’w cymryd cyn cyfrifo’ch hawliad.

  4. Cyfrifo faint y dylech ei hawlio.

  5. Hawlio cyflog eich cyflogeion.

  6. Rhoi gwybod am daliad drwy’r system Gwybodaeth Amser Real TWE

Ar gyfer cyfnodau o 1 Mai 2021 ymlaen, gallwch hawlio ar gyfer cyflogeion a oedd wedi’u cyflogi ar 2 Mawrth 2021, cyn belled â’ch bod wedi gwneud cyflwyniad Gwybodaeth Amser Real (RTI) TWE i CThEM rhwng 20 Mawrth 2020 a 2 Mawrth 2021, sy’n nodi eich bod wedi talu enillion i’r cyflogeion hynny. Nid oes angen i chi fod wedi hawlio’n flaenorol ar gyfer cyflogai cyn 2 Mawrth 2021 er mwyn hawlio ar gyfer cyfnodau o 1 Mai 2021 ymlaen.

O 1 Gorffennaf 2021 ymlaen, bydd lefel y grant yn gostwng a gofynnir i chi gyfrannu tuag at gostau cyflog eich cyflogeion sydd ar ffyrlo.

Gall pob cyflogwr sydd â chyfrif banc yn y DU a chynlluniau TWE yn y DU hawlio’r grant. Does dim rhaid i chi fod wedi hawlio o’r blaen ar gyfer cyflogai cyn 2 Mawrth 2021.

Os ydych wedi hawlio grant drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws, dylech wirio a oes angen i chi roi gwybod am daliadau ar y system Gwybodaeth Amser Real TWE, gan y bydd hyn yn dibynnu a ydych yn defnyddio’r grant i wneud y canlynol:

  • talu cyflogau
  • ad-dalu cyflogau rydych eisoes wedi’u talu

Yn y ddwy sefyllfa, mae’n rhaid i chi ddidynnu treth incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogai oddi wrth y swm llawn yr ydych yn ei dalu i’r cyflogai, gan gynnwys unrhyw grant a geir drwy’r cynllun, a thalu’r rhain i CThEM.

Mae’n rhaid i chi hefyd dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr i CThEM ar y swm llawn yr ydych yn ei dalu i’r cyflogai, gan gynnwys unrhyw grant a geir drwy’r cynllun.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am y taliadau hyn drwy Gyflwyniad Taliadau Llawn i CThEM ar y dyddiad talu neu cyn hynny.

Os ydych yn defnyddio’r grant i dalu cyflogau

Mae’n rhaid i unrhyw grant a delir i chi gael ei ddefnyddio i dalu cyflogau i’ch cyflogeion sydd ar ffyrlo. Dylai gael ei drin yn yr un modd ag unrhyw daliad cyflog, ac mae’n agored i holl ddidyniadau’r gyflogres.

Dylech dalu cyflogeion ar eu dyddiad talu contractiol er mwyn sicrhau nad effeithir ar gyflogeion sy’n cael Credyd Cynhwysol.

Mae’r grant sy’n cael ei dalu yn cael ei gynnwys mewn cyflog y rhoddir gwybod amdano i CThEM ar Gyflwyniad Taliadau Llawn drwy’ch meddalwedd cyflwyno cyflogres, ar neu cyn y dyddiad y caiff ei dalu i’ch cyflogeion.

Os ydych wedi talu’ch cyflogeion a chyflwyno’ch cyflwyniad Gwybodaeth Amser Real yn gynnar

Os ydych eisoes wedi talu’ch cyflogeion cyn eu dyddiad talu contractiol, y tro nesaf y byddwch yn eu talu, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hynny ar eu dyddiad talu contractiol arferol.

Dylech gyflwyno’r Cyflwyniad Taliadau Llawn ar neu cyn y dyddiad y gwnewch y taliad.

Os ydych yn defnyddio’r grant i ad-dalu cyflogau a dalwyd eisoes

Os ydych wedi parhau i dalu’ch cyflogeion yn ystod cyfnod ffyrlo, cyn cael unrhyw daliadau o dan y cynllun, nid oes angen i chi wneud Cyflwyniad Taliadau Llawn arall am y swm hwn. Mae hyn oherwydd bod y grant ffyrlo yn ad-dalu’r cyflogau yr ydych eisoes wedi’u talu ac eisoes wedi rhoi gwybod amdanynt.

Os ydych yn talu swm llawn cyflog arferol cyflogai yn ystod ffyrlo

Os ydych yn dewis ychwanegu at gyflog cyflogai uwchben grant y cynllun, eich dewis chi yw hynny, a byddwch yn gwneud hynny ar eich traul eich hun.

Mae’n rhaid i chi ddidynnu treth incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogai oddi wrth y swm llawn yr ydych yn ei dalu i’r cyflogai a thalu’r rhain i CThEM.

Mae’n rhaid i chi hefyd dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr i CThEM ar y swm llawn yr ydych yn ei dalu i’r cyflogai.

Os nad ydych wedi talu cyflogau eich cyflogeion hyd yn hyn

Os nad ydych wedi talu unrhyw gyflog i unrhyw un o’ch cyflogeion mewn mis treth

Mae’n rhaid i chi gyflwyno Cyflwyniad Taliadau’r Cyflogwr gan nodi nad ydych wedi talu unrhyw gyflogeion yn ystod y mis treth hwnnw. Dylid anfon y Cyflwyniad Taliadau hwnnw ddim yn hwyrach na’r 19eg o’r mis treth canlynol, os yw hynny’n bosibl. Peidiwch â chyflwyno Cyflwyniad Taliadau Llawn o ddim.

Os byddwch ond yn talu rhan o gyflog arferol eich cyflogeion iddynt hyd nes y daw’r taliad grant i law

Mae’n rhaid i chi ddidynnu treth incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogai oddi wrth y swm llawn yr ydych yn ei dalu i’r cyflogai a thalu’r rhain i CThEM.

Mae’n rhaid i chi hefyd dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr i CThEM ar y swm llawn yr ydych yn ei dalu i’r cyflogai.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am y taliadau hyn drwy Gyflwyniad Taliadau Llawn i CThEM ar y dyddiad talu neu cyn hynny.

Mae’n rhaid i chi anfon Cyflwyniad Taliadau Llawn sydd ond yn nodi’r taliadau a wnaethoch mewn gwirionedd. Pan fyddwch yn talu’r cyflog sy’n weddill i’ch cyflogeion ar ôl cael y taliad grant, bydd yn rhaid i chi anfon Cyflwyniad Taliadau Llawn arall sy’n dangos y taliad hwnnw.

Cyhoeddwyd ar 23 April 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 May 2021 + show all updates
  1. Claims for furlough days in May 2021 must be made by 14 June 2021.

  2. Claims for furlough days in April 2021 must be made by 14 May 2021.

  3. Claims for furlough days in March 2021 must be made by 14 April 2021.

  4. From 1 November 2020 to 30 April 2021, you can claim for employees who were employed on 30 October 2020, as long as you made a PAYE RTI submission between 20 March 2020 and 30 October 2020.

  5. The scheme has been extended until 30 September 2021. From 1 July 2021, the level of grant will be reduced each month and employers will be asked to contribute towards the cost of furloughed employees’ wages. New information on claim periods from May 2021 added.

  6. Claims for furlough days in February 2021 must be made by 15 March 2021.

  7. Added translation

  8. Added translation

  9. Removal of paragraph relating to submission of another Full Payment Submission when employers continue to pay employees in advance of receiving any payments under the scheme.

  10. Added Welsh translation.

  11. Updated to remove reference to January review and reflect that the Coronavirus Job Retention Scheme has been extended to 30 April 2021.

  12. Guidance updated to reflect that 30 November claims deadline has now passed.

  13. The scheme has been extended. This guidance has been updated with details of how to claim for periods after 1 November 2020. 30 November 2020 is the last day employers can submit or change claims for periods ending on or before 31 October 2020.

  14. Added translation.

  15. Information call out updated to state that the scheme is being extended until 31 March 2021.

  16. Information call out has been updated to confirm that the guidance on this page reflects the rules for the period until 31 October 2020. This page will be updated to include the rules relating to the scheme extension shortly.

  17. Added translation

  18. The Coronavirus Job Retention Scheme is being extended until December 2020.

  19. Information call out has been updated - the scheme is now closed. 30 November 2020 is the last date you can submit claims.

  20. The information call out at the top of the page has been updated with the changes to the scheme. 30 November 2020 is the last day employers can submit or change claims for periods ending on or before 30 October 2020.

  21. The information call out at the top of the page has been updated with the changes to the scheme from 1 September.

  22. Adjusted the wording to make clearer that both employee and employer National Insurance contributions have to be paid to HMRC on the full amount.

  23. Page updated with information that employee taxes and pension contribution payments must be paid directly to HMRC.

  24. Page updated with information about how the scheme is changing.

  25. Information in box at the top of the page updated with how the scheme is changing.

  26. Page updated with information about how the Coronavirus Job Retention Scheme is changing.

  27. First published.