Canllawiau

Talu’ch Ardoll Troseddau Economaidd

Sut i dalu’r Ardoll Troseddau Economaidd, a faint o amser mae’n ei gymryd i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Cyn i chi wneud taliad, mae’n rhaid i chi fod wedi cyflwyno datganiad ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd.

Pryd i dalu

Mae’n rhaid i chi dalu’r ardoll erbyn 30 Medi bob blwyddyn.

Os bydd y dyddiad cau ar y penwythnos neu ar ŵyl y banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith olaf cyn hynny.

Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad cau, efallai y bydd angen i chi dalu cosb, llog, neu’r ddau.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen y cyfeirnod ar gyfer eich datganiad Ardoll Troseddau Economaidd arnoch. Mae’n 14 digid ac yn dechrau gydag ‘X’.

Gallwch ddod o hyd i’r cyfeirnod hwn:

  • yn eich cyfrif ar-lein CThEF, os gwnaethoch gofrestru ar-lein

  • yn yr e-bost a anfonwyd atoch gan CThEF i gadarnhau bod eich datganiad Ardoll Troseddau Economaidd wedi cael ei gyflwyno

Os byddwch yn defnyddio cyfeirnod anghywir:

  • bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu yn gywir

  • byddwch yn cael nodyn i’ch atgoffa i wneud taliad

Talu ar-lein

Gallwch ddefnyddio un o’r dulliau canlynol i dalu ar-lein:

  • cymeradwyo taliad drwy ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein
  • Debyd Uniongyrchol
  • cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Talu nawr

Os ydych yn cael problemau technegol gyda’r gwasanaeth hwn, dewiswch y cysylltiad ‘A yw’r dudalen hon yn gweithio’n iawn?’ ar y dudalen lle mae angen help arnoch.

Talu ar-lein gan ddefnyddio’ch cyfrif banc

Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein — gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’.

Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein, neu’ch cyfrif banc symudol, i gymeradwyo’ch taliad.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif.

Gallwch ddewis dyddiad talu, cyn belled â’i fod cyn dyddiad dyledus eich taliad.

Mae’n rhaid i chi wirio gyda’ch banc i sicrhau bod y taliad wedi gadael eich cyfrif ar y dyddiad rydych wedi dewis ein talu.

Talu ar-lein drwy Ddebyd Uniongyrchol

Trefnwch Ddebyd Uniongyrchol drwy’ch cyfrif ar-lein CThEF.

Bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru am y cyfrif.

Ni fydd y Debyd Uniongyrchol yn casglu taliadau ar gyfer Ffurflenni Treth sydd dros £20 miliwn. Os oes arnoch fwy, bydd angen i chi dalu mewn ffordd arall.

Bydd angen i chi drefnu taliad bob tro y byddwch yn talu CThEF.

Dylech drefnu’r taliad o leiaf:

  • 5 diwrnod gwaith cyn dyddiad cau eich Ffurflen Dreth y tro cyntaf rydych ei wneud
  • 3 diwrnod gwaith cyn dyddiad dyledus eich Ffurflen Dreth os ydych yn defnyddio’r un manylion banc â thaliad sengl blaenorol

Bydd y taliadau yn ymddangos ar eich cyfriflen banc fel ‘HMRC NDDS’.

Talu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Gallwch wneud taliad yn llawn ar-lein drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol. Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os byddwch yn defnyddio cerdyn debyd neu gredyd credyd corfforaethol. Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Bydd eich taliad yn cael ei dderbyn ar y dyddiad y byddwch yn ei wneud, ac nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc).  

Mae’n rhaid i chi sicrhau bod y manylion a nodwyd gennych yn cyd-fynd â’r rheini sydd gan eich banc neu ddarparwr y cerdyn. Er enghraifft, dylai’r cyfeiriad bilio gyd-fynd â’r cyfeiriad y mae’ch cerdyn wedi’i gofrestru iddo ar hyn o bryd.

Talu drwy drosglwyddiad banc

Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, gallwch gyflwyno’ch taliad ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod nesaf.

Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu ac uchafswm y terfynau trosglwyddo a osodir gan eich banc cyn i chi dalu.

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:

  • cod didoli — 20 05 17

  • rhif y cyfrif — 40204374

  • enw’r cyfrif — HMRC General BT Receipts

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:

  • rhif y cyfrif (IBAN) — GB86 BARC2 0051 7402 043 74

  • cod adnabod y banc (BIC) — BARCGB22

  • enw’r cyfrif — HMRC General BT Receipts

Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad dramor mewn punnoedd sterling (GBP). Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os defnyddiwch unrhyw arian cyfred arall.

Cyfeiriad bancio CThEF yw:

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place 
Llundain 
Y Deyrnas Unedig 
E14 5HP

Os ydych wedi talu gormod

Dysgwch sut i ofyn am ad-daliad os ydych wedi talu gormod o’r Ardoll Troseddau Economaidd.

Cysylltwch â CThEF i gael help gydag Ardoll Troseddau Economaidd

Ffoniwch CThEF i gael help gydag Ardoll Troseddau Economaidd dim ond os na allwch ddod o hyd i ateb gan ddefnyddio ein gwasanaethau neu arweiniad ar-lein.

Efallai y bydd y llinell gymorth hon yn gofyn rhai cwestiynau diogelwch i chi.

Sicrhewch fod eich manylion yn eich cyfrif Ardoll Troseddau Economaidd wedi’u diweddaru, neu mae’n bosibl byddwch yn methu’r camau diogelwch dros y ffôn.

Os ydych eisoes wedi cofrestru, bydd angen eich rhif cofrestru Ardoll Troseddau Economaidd arnoch. Gallwch ddod o hyd i hyn:

  • yn eich cyfrif Ardoll Troseddau Economaidd
  • yn eich cyfrif treth busnes CThEF, os oes un gennych
  • yn yr e-bost a anfonwyd atoch gan CThEF i gadarnhau bod eich datganiad Ardoll Troseddau Economaidd wedi cael ei gyflwyno

Ffôn: 0300 322 9621

Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener: 10am i 4pm

Ar gau ar y penwythnos ac ar wyliau banc.

Gwybodaeth am gostau galwadau.

Cyhoeddwyd ar 31 August 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 April 2024 + show all updates
  1. Added information about how to contact HMRC for help with Economic Crime Levy.

  2. Information about checking with your bank to make sure your payment has left your account has been added.

  3. Information about when to select a payment date using your online bank account has been added to the 'pay online' section.

  4. Link added to new guidance on how to claim a refund, if you've paid too much.

  5. Guidance about how to make a payment online has been added.

  6. First published.