Canllawiau

Gofyn i CThEM gadarnhau bod gennych blentyn newydd a oedd yn effeithio ar eich cymhwystra ar gyfer y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth

Defnyddiwch y ffurflen hon os ydych yn hunangyflogedig neu’n aelod o bartneriaeth, a bod cael plentyn newydd wedi effeithio ar yr elw masnachu neu’r cyfanswm incwm y rhoesoch wybod amdano ar gyfer blwyddyn dreth 2018 i 2019.

This guidance was withdrawn on

You can no longer use this form to ask HMRC to verify your information.

If HMRC has confirmed your eligibility you can make a claim on or before 19 October 2020.

If you have not asked HMRC to verify your information, you can contact us.

Pwy ddylai ddefnyddio’r ffurflen hon

Os nad ydych eisoes yn gymwys, defnyddiwch y ffurflen hon os oes gennych blentyn newydd sydd naill ai:

  • wedi effeithio ar yr elw masnachu neu’r cyfanswm incwm y rhoesoch wybod amdano ar gyfer blwyddyn dreth 2018 i 2019
  • yn golygu na wnaethoch gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth 2018 i 2019

Mae’n rhaid eich bod wedi bod yn hunangyflogedig yn ystod blwyddyn dreth 2017 i 2018 ac wedi cyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar neu cyn 23 Ebrill 2020.

Mae’n rhaid i chi fodloni’r holl feini prawf eraill.

Dewch o hyd i help a chymorth arall sydd ar gael i chi.

Os ydych eisoes yn gymwys ar gyfer y grant yn seiliedig ar eich Ffurflenni Treth Hunanasesiad ar gyfer 2016 i 2017, 2017 i 2018 a 2018 i 2019, ni ddylech ddefnyddio’r ffurflen hon.

Pryd i ofyn i CThEM

Dylech ofyn i CThEM gadarnhau’ch gwybodaeth ar neu cyn 5 Hydref 2020. Mae hyn oherwydd gall dilysu cymryd hyd at 2 wythnos.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen y canlynol arnoch:

Bydd angen i chi hefyd roi gwybodaeth a allai gynnwys:

  • enw llawn a dyddiad geni’ch plentyn
  • y dyddiad mabwysiadu
  • eich rhif Budd-dal Plant
  • rhif tystysgrif geni’ch plentyn
  • os ydych yn hawlio Lwfans Mamolaeth

Gofyn i CThEM gadarnhau’ch gwybodaeth

Bydd angen eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes Dynodydd Defnyddiwr (ID) gennych, gallwch greu un pan fyddwch yn gofyn i CThEM.

Dechrau nawr

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, dylech gysylltu â CThEM am help.

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Fe gewch gyfeirnod unigryw pan fyddwch yn cyflwyno’r ffurflen, a dylech ei chadw ar gyfer eich cofnodion.

Bydd CThEM yn adolygu’ch gwybodaeth ac yn cysylltu â chi cyn pen pythefnos, i roi gwybod i chi a yw’ch gwybodaeth wedi’i dilysu ac os ydych yn gymwys i gyflwyno hawliad.

Cysylltu â CThEM

Gallwch wirio’r cymorth arall sydd ar gael i chi.

Rydym yn cael nifer fawr iawn o alwadau ar hyn o bryd. Mae cysylltu â CThEM yn ddiangen yn peryglu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Ond gallwch gysylltu â CThEM os nad oes modd i chi gael yr help sydd ei angen arnoch ar-lein.

Cyhoeddwyd ar 3 August 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 August 2020 + show all updates
  1. The Self Employment Income Support Scheme claim service is now open.

  2. First published.