Canllawiau

Gwneud cais i ddefnyddio gweithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yn y DU

Os ydych yn fusnes sydd eisiau datgan nwyddau i mewn i safle tollau Porthladd Rhydd neu sydd eisiau eu cadw yno, neu’r ddau, bydd angen i chi wneud cais i ddefnyddio gweithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd.

Wrth gyfeirio at ‘Borthladd Rhydd’ ar y dudalen hon, mae hyn hefyd yn cynnwys ‘Porthladdoedd Rhydd Gwyrdd yn yr Alban’, oni nodir yn wahanol.

Pwy ddylai wneud cais

Cyn i chi wneud cais, dylech wirio a oes angen gweithdrefn arbennig y tollau ar gyfer porthladdoedd rhydd arnoch neu a oes modd i chi ddefnyddio gweithdrefnau arbennig y tollau sydd eisoes yn bodoli.

Dylech ond wneud cais os oes gennych gytundeb dros dro gyda gweithredwr y safle tollau yn y lleoliad lle rydych yn bwriadu storio neu brosesu eich nwyddau.

Dylech hefyd wirio a oes modd symud eich nwyddau i safle tollau porthladd rhydd.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich Rhif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd (EORI) — os nad oes gennych chi rif EORI yn barod, rhaid i chi wneud cais am un cyn llenwi’r ffurflen hon
  • gwybodaeth am eich busnes — er enghraifft, cyfeiriad, rhif cofrestru’r cwmni a manylion cyswllt
  • eich Cyfeirnod y Cynllun TWE (os oes un gennych)
  • eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)

Os ydych yn ymgymryd â gweithgarwch storio

Bydd angen i chi hefyd fod â manylion y nwyddau rydych am eu mewnforio, gan gynnwys:

  • codau nwyddau
  • disgrifiad
  • nifer a gwerthoedd

Ar gyfer nwyddau ecséis, bydd angen i chi nodi dosbarthiadau’r nwyddau rydych yn bwriadu eu storio o dan weithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd.

Bydd angen i chi hefyd fod â manylion y nwyddau y gellir eu hystyried yn beryglus i iechyd, gan gynnwys y rheiny sy’n:

  • debygol o ddifetha nwyddau eraill
  • galw am gyfleusterau storio arbennig, megis cig neu nwyddau cemegol

Os ydych yn ymgymryd â gweithgarwch prosesu

Bydd angen manylion o’r canlynol:

  • y nwyddau rydych am eu mewnforio, gan gynnwys:
    • codau nwyddau
    • disgrifiad
    • nifer a gwerthoedd
  • sut y byddwch yn prosesu’r nwyddau

Os ydych yn bwriadu cynhyrchu nwyddau ecséis, bydd angen i chi wneud cais am y drefn gynhyrchu ecséis berthnasol (yn ogystal â gweithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd).

Sut i wneud cais

Bydd angen i chi gwblhau’r ffurflen a’i hanfon at CThEF drwy e-bost neu drwy’r post.

I wneud hyn:

  1. Lawrlwythwch y ffurflen a’i chadw ar eich cyfrifiadur.

  2. Agorwch hi gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader sy’n rhad ac am ddim.

  3. Llenwch y ffurflen ar y sgrin.

Gwneud cais i ddefnyddio gweithdrefn arbennig y tollau ar gyfer porthladdoedd rhydd

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email different.format@hmrc.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn Saesneg).

Ar ôl i chi wneud cais

Pan fyddwn yn eich awdurdodi, byddwch yn cael llythyr sy’n amlinellu amodau’r awdurdodiad.

Mae’r amodau’n cynnwys:

  • talu Tollau Tramor a ffioedd eraill
  • gwneud yn siŵr eich bod yn cadw cofnodion

Os ydych wedi’ch awdurdodi i storio nwyddau, byddwch hefyd yn gyfrifol am y canlynol:

  • diogelwch a rheolaeth dros y nwyddau, gan gynnwys cadw cofnodion stoc a rhoi cyfrif am brinder
  • cydweithio â ni fel goruchwylwyr eich awdurdodiad
  • rhoi mynediad i ni at eich eiddo, eich cofnodion a’r nwyddau ar unrhyw adeg resymol

Gallwch gadw eich nwyddau yn y safle tollau am gyfnod diderfyn ar ôl i ni eich awdurdodi. Fodd bynnag, os credwn y gallent fod yn fygythiad i bobl, anifeiliaid, iechyd planhigion neu’r amgylchedd, gallwn ddweud wrthych am eu symud allan.

Sut i ganslo, diwygio neu adnewyddu eich awdurdodiad

Gallwch e-bostio: gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk neu freeportbusinessapplications@hmrc.gov.uk

Gallwch hefyd ysgrifennu at:

Awdurdodiadau Porthladd Rhydd
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST

Dylech e-bostio neu ysgrifennu atom hefyd os bu newid yn eich busnes a allai effeithio ar eich awdurdodiad, megis newid eich enw masnachu neu fusnes arall yn cymryd drosodd.

Cyhoeddwyd ar 20 September 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 31 August 2023 + show all updates
  1. Removed section explaining that you will no longer you be able to make import declarations on the Customs Handling of Import and Export Freight (CHIEF) system. This is because the CHIEF system is no longer available.

  2. Information about not being able to make import declarations on the Customs Handling of Import and Export Freight (CHIEF) system from 1 October 2022 has been added.

  3. Guidance about what you will need if you undertake storage activity has been updated.

  4. Updated to include the information you need to give about goods that could be considered a health hazard when you apply to use the Freeport customs special procedure.

  5. A link to check if your goods can be moved into a Freeport customs site has been added.

  6. The Application for freeport customs special procedure authorisation (FPT2) form has been updated.

  7. You can now apply to use the Freeport customs special procedure using the form, which you can send to HMRC by either email or post.

  8. First published.