Yr hyn a gewch

Mae’r gyfradd Lwfans Gwarcheidwad yn: 

  • £21.75 yr wythnos fesul plentyn

  • rhydd o dreth

  • cael ei dalu ar ben eich taliadau Budd-dal Plant

Sut caiff yr arian ei dalu

Fel arfer, caiff yr arian ei dalu i mewn i gyfrif banc bob 4 wythnos. Gellir ei dalu’n wythnosol os ydych yn rhiant sengl neu’n cael rhai budd-daliadau eraill, megis Cymhorthdal Incwm.

Gallwch gael yr arian wedi’i dalu i mewn i unrhyw gyfrif, ar wahân i gyfrif Cymdeithas Adeiladu Nationwide yn enw rhywun arall.

Effaith ar fudd-daliadau eraill

Nid yw Lwfans Gwarcheidwad yn cyfrif fel incwm os ydych yn hawlio credydau treth, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith ar sail incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n seiliedig ar incwm.

Ni effeithir ar Lwfans Gwarcheidwad gan y tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel. Os ydych yn penderfynu peidio â chael Budd-dal Plant wedi’i dalu i chi, bydd eich Lwfans Gwarcheidwad yn gallu parhau.

Nid yw’r Lwfans Gwarcheidwad yn cyfrif tuag at y cap ar fudd-daliadau.

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i gyfrifo pa fudd-daliadau gallwch eu cael.