Cyfrifiannell Budd-daliadau

Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau annibynnol, am ddim a dienw i weld beth y gallech fod â hawl iddo. Bydd hyn yn rhoi amcangyfrif o:

  • y budd-daliadau y gallech eu cael
  • faint y gallai eich taliadau budd-dal fod
  • sut bydd eich budd-daliadau yn cael eu heffeithio os byddwch yn dechrau gweithio neu’n cynyddu eich oriau
  • sut y bydd eich budd-daliadau yn cael eu heffeithio os yw eich amgylchiadau yn newid - er enghraifft, os oes gennych blentyn neu symud i mewn gyda’ch partner

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)

Cyfrifianellau

Am wybodaeth ar fudd-daliadau sy’n seiliedig ar incwm, Credyd Cynhwysol, credydau treth, Gostyngiad Treth Cyngor a Lwfans Gofalwr defnyddiwch:

Gallwch hefyd wirio gyda chynghorydd budd-daliadau lleol i ddarganfod beth y gallech fod â hawl iddo.

Beth fyddwch ei angen

Bydd angen gwybodaeth gywir am eich:

  • cynilion
  • incwm, gan gynnwys incwm eich partner (o slipiau cyflog, er enghraifft)
  • budd-daliadau a phensiynau presennol (gan gynnwys unrhyw un sy’n byw gyda chi)
  • alldaliadau (fel rhent, morgais, taliadau gofal plant)
  • bil Treth Cyngor

Pwy sy’n methu eu defnyddio

Ni allwch ddefnyddio’r cyfrifianellau os ydych o dan 18 oed, ac ni fyddent yn rhoi canlyniadau cywir os: