Lwfans Gwarcheidwad

Neidio i gynnwys y canllaw

Newidiadau yn eich amgylchiadau

Os yw’ch amgylchiadau’n newid, gall hyn effeithio ar eich hawl i Lwfans Gwarcheidwad neu gall eich taliadau ddod i ben.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am y newidiadau canlynol ar unwaith:

  • y plentyn yn symud allan i fyw gyda rhywun arall

  • rydych yn mynd dramor, naill ai dros dro (am fwy nag 8 wythnos) neu’n barhaol (am fwy na blwyddyn)

  • y plentyn yn gadael addysg amser llawn neu hyfforddiant cymeradwy

  • eich manylion banc neu’ch manylion cyswllt yn newid

  • rydych yn darganfod ble mae’r rhiant sy’n fyw

  • mae’r rhiant sy’n fyw yn gadael yr ysbyty neu’r carchar (neu fod ei ddedfryd yn cael ei wneud yn fyrrach)

  • y rhiant sy’n fyw yn gwneud taliad tuag at gynnal y plentyn

Gallwch roi gwybod am y newidiadau hyn dros y ffôn neu drwy’r post.