Sut i hawlio

Er mwyn osgoi colli arian, hawliwch y Lwfans Gwarcheidwad cyn gynted ag y daw’r plentyn i fyw gyda chi.

  1. Llenwch y ffurflen gais (BG1).

  2. Anfonwch y ffurflen i Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF ynghyd â thystysgrif geni’r plentyn a thystysgrifau marwolaeth y rhieni (neu dystysgrif os mai un rhiant sydd wedi marw) - anfonwch ddogfennau gwreiddiol.

Dylech hefyd hawlio Budd-dal Plant cyn gynted â phosibl.

Gellir ôl-ddyddio Lwfans Gwarcheidwad hyd at 3 mis.

Gallwch hefyd ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF a gofyn am becyn hawlio.

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad

Gallwch herio penderfyniad ynghylch eich hawliad. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.