Taliadau Tanwydd Gaeaf

Efallai gallwch hawlio Taliad Tanwydd Gaeaf os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:

  • cawsoch eich geni ar neu cyn 5 Hydref 1954
  • rydych yn byw yn y Swistir neu wlad yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) (heblaw am Cyprus, Ffrainc, Gibraltar, Groeg, Malta, Portiwgal neu Sbaen)
  • mae gennych gysylltiad dilys a digonol â’r DU – gall hyn gynnwys byw neu weithio yn y DU, a bod gennych deulu yn y DU
  • rydych wedi’ch diogelu gan y Cytundeb Ymadael

Nid oes rhaid eich bod wedi hawlio Taliadau Tanwydd Gaeaf yn y DU cyn i chi fynd dramor.

Darganfyddwch a allwch hawlio budd-daliadau yn yr AEE neu’r Swistir.