Credyd Cynhwysol

Credyd Cynhwysol

Os ewch dramor, gallwch barhau i gael Credyd Cynhwysol am fis.

Mae’n rhaid i chi:

Os bydd perthynas agos yn marw tra’ch bod dramor ac na fyddai’n rhesymol i chi ddod yn ôl i’r DU, gallwch gael Credyd Cynhwysol am fis arall.

Ni allwch gael Credyd Cynhwysol os ydych yn symud dramor yn barhaol.

Ni allwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych eisoes dramor.

Mynd dramor am driniaeth feddygol

Gallwch barhau i gael Credyd Cynhwysol am hyd at 6 mis os:

  • ydych yn mynd dramor i gael triniaeth feddygol
  • mae eich partner neu blentyn yn mynd dramor i gael triniaeth feddygol a’ch bod yn mynd gyda nhw

Os ydych chi’n forwr neu’n weithiwr silff cyfandirol

Os oes gennych hawl i Gredyd Cynhwysol pan fyddwch yn mynd dramor, gallwch barhau i’w gael am hyd at 6 mis.