Lwfans Ceisio Gwaith

Mae 3 math gwahanol o Lwfans Ceisio Gwaith (JSA):

  • JSA ‘dull newydd’
  • JSA yn seiliedig ar gyfraniadau
  • JSA yn seiliedig ar incwm

Nid oes modd i chi cael JSA yn seiliedig ar incwm dramor.

Gallwch gael JSA ‘dull newydd’ neu JSA yn seiliedig ar gyfraniadau yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Swistir am hyd at 3 mis os ydych:

  • yn gymwys amdano ar y diwrnod rydych yn mynd dramor
  • wedi cofrestru fel ceisiwr gwaith o leiaf 4 wythnos cyn i chi adael
  • yn chwilio am waith yn y DU hyd at y diwrnod rydych yn gadael
  • yn mynd dramor i chwilio am waith
  • yn cofrestru mewn Ganolfan Byd Gwaith cyfatebol yn y wlad rydych yn mynd iddi
  • yn dilyn rheolau’r wlad arall am gofrestru a chwilio am waith
  • wedi’ch diogelu gan y Cytundeb Ymadael

Darganfyddwch a allwch gael JSA yn yr AEE neu’r Swistir.

Symud i wlad nad yw yn yr AEE

Mae gan rhai gwledydd tu allan i’r AEE gytundebau nawdd cymdeithasol gyda’r DU. Mae hyn yn golygu os ydych wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol digonol yn y DU, efallai gallwch gael budd-daliad diweithdra yn:

  • Bosnia a Herzegovina
  • Ynysoedd y Sianel
  • Kosovo
  • Macedonia
  • Montenegro
  • Seland Newydd
  • Serbia

Help a chyngor ar JSA

Canolfan Pensiwn Rhyngwladol Ffôn +44 (0) 191 206 9390 Iaith Arwyddion Prydain (BSL) Gwasanaeth cyfnewid video os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9:30am i 3:30pm
Darganfyddwch fwy am gostau ffôn a rhifau ffôn