Canllawiau

Sut rydym ni’n delio â phryderon diogelu

Yma, cewch wybod sut mae cael help os oes gennych chi bryderon bod rhywun yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso dan atwrneiaeth arhosol, atwrneiaeth barhaus neu orchymyn llys dirprwy.

Applies to England and Wales

Y sawl a wnaeth atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus yw’r ‘rhoddwr’ ac mae’n rhoi awdurdod i un neu fwy o bobl y mae’n ymddiried ynddynt a elwir yn ‘atwrneiod’.

Mae’r Llys Gwarchod yn penodi rhywun (‘dirprwy’) i wneud penderfyniadau ar ran person sydd heb alluedd meddyliol (‘cleient’) dan orchymyn llys dirprwy.

Gyda pha fath o bryderon gallwn ni helpu

Efallai eich bod yn poeni am y canlynol:

  • sut mae atwrnai wedi gweithredu ers inni gofrestru’r atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus – er enghraifft, camddefnyddio arian y rhoddwr neu benderfyniadau nad ydynt er lles gorau’r rhoddwr
  • a yw atwrnai wedi gwneud atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus yn gyfreithlon
  • sut mae dirprwy wedi gweithredu ers cael ei benodi gan y Llys Gwarchod

Yn ôl y gyfraith, gallwn archwilio’r pryderon hyn a dechrau ymchwiliad.

Sut i roi gwybod am bryder

Os ydych am roi gwybod am bryder, gallwch ein helpu i amddiffyn y rhoddwr neu’r cleient yn gyflym drwy ddarparu:

  • manylion y rhoddwr neu’r cleient (gan gynnwys enw llawn, cyfeiriad a dyddiad geni)
  • y dyddiad y gwnaethoch sylwi ar y pryder am y tro cyntaf
  • a yw’r pryder yn parhau
  • unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi’r pryder – er enghraifft, cofnodion ariannol
  • beth rydych chi’n ei wybod am alluedd meddyliol y rhoddwr neu’r cleient, gan gynnwys copïau o unrhyw adroddiadau galluedd meddyliol neu enwau pwy allai fod â’r rhain
  • eich manylion cyswllt

Os nad yw’r holl wybodaeth hon gennych, gallwch ddal i roi gwybod inni am bryder.

Byddwn wedyn yn asesu a oes gennym yr awdurdod cyfreithiol i ymchwilio.

Beth sy’n digwydd yn ystod ymchwiliad

Rydym yn adolygu amgylchiadau drwy gydol ein hymchwiliadau ac os ydym ni’n meddwl bod angen i asiantaethau eraill fod yn rhan o ddiogelu’r rhoddwr neu’r cleient, byddwn yn rhoi gwybod iddyn nhw.

Yn y rhan fwyaf o achosion byddwn yn:

  • gofyn i ymwelydd Llys Gwarchod asesu galluedd meddyliol y rhoddwr ac, os yw’n bosibl, holi’r rhoddwr am y pryderon sydd wedi dod i law
  • gofyn i’r atwrneiod neu’r dirprwyon am esboniadau a thystiolaeth am y pryderon
  • gofyn i’r gwasanaethau cymdeithasol am unrhyw wybodaeth sydd ganddynt am alluedd meddyliol, cyllid a gofal y person, ac a oes unrhyw un wedi rhoi gwybod i’r awdurdod lleol am bryderon diogelu
  • gofyn am waith papur megis cyfriflenni banc, derbynebau a phapurau cyfreithiol a meddygol

Mewn rhai achosion, gallem:

Pasio i asiantaeth arall

Os oes pryderon nad oes gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus na’r Llys Gwarchod yr awdurdod i weithredu arnynt, byddwn yn trosglwyddo’r achos i asiantaeth arall a all weithredu. Er enghraifft, byddwn yn atgyfeirio oedolion sy’n agored i niwed i’r awdurdod lleol.

Pasio i’r heddlu

Byddwn yn dweud wrth yr heddlu os ydym ni’n meddwl bod trosedd wedi’i chyflawni.

Pa mor hir mae ymchwiliad yn ei gymryd

Mae hynny’n dibynnu ar ba mor gymhleth ydyw, faint o bobl sy’n gysylltiedig a pha mor gyflym y mae pobl yn rhoi gwybodaeth inni. Rydym yn ceisio cwblhau ymchwiliad o fewn 14 wythnos.

Beth sy’n digwydd ar ddiwedd ymchwiliad

Gallwn gymryd unrhyw un o’r camau canlynol:

Camau pellach

Os canfyddwn fod pryderon ynghylch y ffordd y mae’r atwrnai neu’r dirprwy yn cyflawni ei rôl, byddwn yn gofyn iddo gymryd camau penodol. Efallai y byddwn yn gwneud hyn hyd yn oed os ydym yn credu eu bod yn gweithredu er budd gorau’r rhoddwr neu’r cleient yn gyffredinol.

Byddwn yn monitro’r achos nes bydd y camau wedi cael eu cymryd a’n bod ni’n fodlon â’r canlyniadau.

Peidio â chymryd camau pellach

Os ydym wedi ymchwilio ac wedi canfod bod atwrnai neu ddirprwy yn gweithredu er budd gorau’r person y mae’n gwneud penderfyniadau drosto, ni fyddwn yn cymryd camau pellach.

Mae hyn yn wir hefyd os ydym wedi trosglwyddo manylion y pryder i asiantaeth arall.

Gwneud cais i’r Llys Gwarchod

Os oes gennym bryderon difrifol am les rhoddwr neu gleient, gallwn ofyn i’r Llys Gwarchod wneud penderfyniad.

Gall y Llys Gwarchod gymryd camau megis:

  • rhewi cyfrifon banc rhoddwr neu gleient
  • gorchymyn yr atwrnai neu’r dirprwy i ddarparu gwybodaeth inni

Fel dewis olaf, gallwn ofyn i’r Llys Gwarchod:

  • diddymu atwrneiaeth arhosol
  • diswyddo atwrnai neu ddirprwy
  • penodi person addas i gymryd lle’r atwrnai neu’r dirprwy

Os caiff yr atwrnai neu’r dirprwy ei ddisodli

Os byddwn yn gwneud cais i’r Llys Gwarchod i ddiswyddo atwrnai neu ddirprwy, byddwn yn gofyn iddo ystyried rhywun arall (dirprwy) i gymryd yr awenau gyda materion y rhoddwr neu’r cleient

Wrth bwy rydym yn dweud am ganlyniad ymchwiliad

Byddwn yn dweud wrth bobl sy’n gysylltiedig â’r ymchwiliad am ein penderfyniad terfynol. Fodd bynnag, rydym yn gwarchod preifatrwydd rhoddwyr a chleientiaid felly nid ydym yn darparu gwybodaeth fanwl.

Gwybodaeth bersonol

Nid ydym yn datgelu pwy yw unrhyw un sy’n rhoi gwybod inni am bryder, oni bai eu bod yn dweud fel arall wrthym.

Dim ond am y rhesymau hyn yr ydym yn rhannu gwybodaeth am bryderon neu ymchwiliadau y tu allan i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus:

Edrychwch ar ein siarter gwybodaeth bersonol bersonol i gael manylion llawn ein polisi preifatrwydd.

Cyhoeddwyd ar 11 July 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 July 2021 + show all updates
  1. Adding the Welsh language version of the content

  2. First published.