Canllawiau

Gwneud cais i fod yn weithredwr safle tollau Porthladd Rhydd yn y DU

Dysgwch bwy all fod yn weithredwr safle tollau Porthladd Rhydd yn y DU a beth fydd ei angen arnoch i wneud cais a chael eich awdurdodi.

Wrth gyfeirio at ‘Borthladd Rhydd’ ar y dudalen hon, mae hyn hefyd yn cynnwys ‘Porthladdoedd Rhydd Gwyrdd yn yr Alban’, oni nodir yn wahanol.

Mae safle tollau Porthladd Rhydd (a elwir hefyd yn ‘barth rhydd’) yn barth tollau diogel a chaeedig lle nad yw’r holl reolau treth a thollau arferol yn berthnasol. 

Gall safle tollau Porthladd Rhydd fod yn ardal: 

  • mewn lleoliad sydd eisoes yn bodoli ac sy’n cael ei gymeradwyo

  • y tu allan i borthladd, ond fel arfer bydd angen iddo fod o fewn ffin Porthladd Rhydd

Os yw safle tollau Porthladd Rhydd wedi’i leoli mewn porthladd sydd eisoes yn bodoli, bydd angen i chi newid eich cymeradwyaeth ar gyfer y porthladd i adlewyrchu’r trefniant newydd.

Gweithredu safle tollau Porthladd Rhydd

Does dim modd defnyddio safleoedd tollau Porthladdoedd Rhydd fel y man cyntaf ar gyfer cyflwyno nwyddau sy’n dod i’r DU. Mae’n rhaid i unrhyw fusnes sy’n dod â nwyddau i’r DU gyflwyno eu nwyddau i’r tollau yn gyntaf, mewn ffordd wedi’i nodi’n benodol gan y porthladd. Dim ond ar ôl i’r tollau glirio’r nwyddau y gellir eu symud i safle tollau Porthladd Rhydd.

Ni chaniateir i nwyddau sydd heb gael eu clirio gan y tollau fod yn yr ardal a nodir fel y safle tollau Porthladd Rhydd.

Er enghraifft, os yw porthladd wedi’i awdurdodi i storio dros dro, bydd angen i nwyddau sy’n cyrraedd y DU fynd drwy’r broses ganlynol: 

  • bydd angen iddynt gael eu datgan mewn storfa dros dro

  • bydd angen iddynt gael eu cyflwyno i’r tollau pan fyddant yn cyrraedd

  • byddant ond yn cael gadael y storfa dros dro pan fydd ganddynt y cliriadau priodol

Bydd angen cadw nwyddau, sy’n aros i gael eu clirio i adael, ym man storio dros dro y porthladd:

  • lle nad yw datganiad i weithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yn cael ei wneud cyn i’r nwyddau gyrraedd

  • lle nad yw cyfleuster storio dros dro y porthladd wedi cael cais gan gyfleuster storio dros dro allanol cymeradwy i symud y nwyddau ymaith

  • pan fo rhesymau masnachol neu reoleiddiol dros wneud hynny

Mae modd symud nwyddau’n uniongyrchol i’r safle tollau Porthladd Rhydd o’r llong lle bo eisoes cadarnhad eu bod wedi’u clirio gan y tollau. Er enghraifft: 

  • gwnaed datganiad i weithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd cyn i’r nwyddau gyrraedd ac mae datganiad wedi dod i law drwy system restru Darparwr Systemau Cymunedol y porthladd

  • fe’i caniateir o dan reolau cyflwyno cymeradwyaeth y porthladd — er enghraifft, gallai hyn gynnwys nwyddau swmp

Rhaid i nwyddau y mae angen eu harchwilio fod ar gael i’r awdurdod perthnasol yn y porthladd neu’r maes awyr presennol cyn eu symud i’r safle tollau’ Porthladd Rhydd.

Dysgwch ragor o wybodaeth am weithredu safle tollau Porthladd Rhydd.

Pwy ddylai wneud cais

Mae safleoedd tollau porthladdoedd rhydd yn cael eu rhedeg gan weithredwr, a fydd yn gyfrifol am ddiogelwch y safle ac am gadw cofnodion am nwyddau sy’n symud i mewn, o gwmpas ac allan o’r safle.

I fod yn weithredwr, mae’n rhaid i o leiaf un busnes ddefnyddio neu fwriadu defnyddio eich safle tollau Porthladd Rhydd i symud nwyddau i mewn neu allan o’r safle.

Mae hefyd modd cymeradwyo gweithredwr safle tollau Porthladd Rhydd fel busnes Porthladd Rhydd i ddefnyddio’r safle a symud nwyddau i mewn iddo neu allan ohono.

Byddai angen i unrhyw fusnes sy’n defnyddio eich safle tollau Porthladd Rhydd gael ei gymeradwyo i brosesu neu i storio nwyddau o dan y naill neu’r llall o’r canlynol:

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Os ydych am wneud cais i fod yn weithredwr safle tollau Porthladd Rhydd, rhaid i chi gael cytundeb yn gyntaf gyda gweithredwr y Porthladd Rhydd ehangach.

Bydd yn rhaid:

  • cael rhif EORI — bydd angen i chi wneud cais am un os nad un gennych
  • dangos eich bod yn gallu bodloni’r safonau diogelwch mewn perthynas â safle tollau Porthladd Rhydd — byddwch yn cael eich tywys drwy hyn yn ystod y broses ymgeisio gan CThEF
  • meddu ar fanylion y tir sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer y safle tollau Porthladd Rhydd, a allai gynnwys:
    • arwynebedd y safle
    • mapiau manwl yn dangos y safle a’r mannau cyrraedd a gadael — dylai’r rhain fod ar raddfa 1:1250
  • dangos eich bod wedi bodloni’r gofynion i gael eich dynodi’n weithredwr safle tollau Porthladd Rhydd

Bydd angen i chi hefyd ddangos y bydd gennych fusnes porthladd rhydd awdurdodedig ar y safle a bod ei weithgareddau’n cynnwys nwyddau sydd wedi’u datgan i’r weithdrefn Porthladd Rhydd o fewn 12 mis i’r dynodiad hwnnw.

Er enghraifft, gohebiaeth rhwng gweithredwr y safle tollau Porthladd Rhydd a’r tenant posibl sy’n dangos bod cytundeb mewn egwyddor iddynt ill dau:

  • sicrhau awdurdodiad fel busnes Porthladd Rhydd

  • dechrau gweithrediadau storio neu brosesu nwyddau a ddatganwyd i’r weithdrefn Porthladd Rhydd o fewn 12 mis o’r dynodiad

Os ydych yn bwriadu cynnal busnesau sy’n delio â nwyddau ecséis

Bydd angen i chi wneud y canlynol hefyd:

  • bodloni safonau’r prawf cymwys a phriodol ar gyfer ecséis

  • dangos bod gennych weithdrefnau diwydrwydd dyladwy cadarn ar waith

Os ydych yn bwriadu defnyddio trefniadau cludo i ddod â nwyddau i’ch safle tollau Porthladd Rhydd, neu i fynd â nwyddau allan ohono, ar ran busnes

Bydd angen i chi wneud y canlynol hefyd:

Os ydych yn bwriadu symud nwyddau i Gyfleuster Storio Dros Dro Allanol yn eich safle tollau Porthladd Rhydd

Bydd yn rhaid:

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais drwy gofrestru diddordeb gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein. Bydd CThEF wedyn yn eich helpu drwy’r awdurdodiadau sydd eu hangen arnoch i fod yn weithredwr safle tollau Porthladd Rhydd. Bydd hyn yn cynnwys sefydlu eich gorchymyn dynodi.

Sut i lenwi’r ffurflen

Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  1. Lawrlwythwch y ffurflen a’i chadw ar eich cyfrifiadur.

  2. Agorwch hi gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader (yn Saesneg) sy’n rhad ac am ddim.

  3. Llenwch y ffurflen ar y sgrin.

Cofrestru diddordeb mewn bod yn weithredwr safle tollau porthladd rhydd

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email different.format@hmrc.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

Dysgwch pa mor hygyrch yw ein ffurflenni (yn Saesneg).

Cyhoeddwyd ar 31 August 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 May 2022 + show all updates
  1. Information about holding an agreement in principal with the excise business before you apply for any excise activity has been removed.

  2. Information about what you will need before you apply has been updated.

  3. Guidance has been added about the requirements for operating a Freeport customs site when goods first arrive in the UK, and who should apply to be a Freeport customs site operator. Guidance has also been updated with information about what you'll need to do if you’re planning to use transit to bring goods into, or take goods out of, a Freeport customs site on behalf of a business.

  4. Welsh translation added.

  5. First published.