Ffurflen

Cofrestru ar gyfer y Cynllun Cyfradd Unffurf Amaethyddol sy’n ymwneud â TAW

Cofrestrwch ar gyfer y Cynllun Cyfradd Unffurf Amaethyddol yn lle cofrestru ar gyfer TAW os ydych yn ffermwr sy’n defnyddio ffurflen VAT98.

Dogfennau

Y Cynllun Un Gyfradd Amaethyddol - cais am ardystiad (VAT98)

Cael gwybod pa mor hygyrch yw ein ffurflenni

Manylion

Os ydych yn cofrestru ar gyfer TAW am y tro cyntaf, mae’n rhaid i chi hefyd lenwi’r ffurflen VAT1 gan ddefnyddio’r nodiadau i helpu, a’i phostio gyda’r ffurflen VAT98.

Os ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer TAW, nid oes angen ffurflen VAT1 arnom, ond mae’n dal i fod yn rhaid i chi gwblhau’r ffurflen VAT98 i gofrestru ar gyfer y Cynllun Cyfradd Unffurf Amaethyddol.

Defnyddiwch y ffurflen VAT98 er mwyn cofrestru ar gyfer y Cynllun Cyfradd Unffurf Amaethyddol yn lle cofrestru ar gyfer TAW.

Os ydych yn cofrestru fel ffermwr cyfradd unffurf, nid oes angen i chi roi cyfrif am TAW na chyflwyno Ffurflenni TAW. Ni allwch godi TAW ar eich gwerthiannau ac ni allwch adennill TAW ar eich pryniannau. Gallwch godi a chadw Ychwanegiad Cyfradd Unffurf (FRA) wrth werthu eitemau i gwsmeriaid sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW.

Anfonwch eich ffurflen gais wedi’i llenwi i:

BT VAT
Cyllid a Thollau EM / HM Revenue and Customs
BX9 1WR

Anfonwch e-bost i CThEM er mwyn gofyn am y ffurflen hon yn Gymraeg.

Cyn i chi ddechrau

Os ydych yn defnyddio hen borwr, er enghraifft Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr.

Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly casglwch eich holl wybodaeth cyn i chi ddechrau ei llenwi.

Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig

Hysbysiad 700/46 – Cynllun Cyfradd Unffurf Amaethyddol
Os ydych yn ffermwr, defnyddiwch yr hysbysiad hwn i gael gwybodaeth am opsiynau eraill yn lle cofrestru ar gyfer TAW a allai arbed amser i chi.

Cyhoeddwyd ar 8 September 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 April 2022 + show all updates
  1. We have added guidance to confirm that if you are already registered for VAT, we do not need a VAT1, but you must still complete the VAT98 to register for the Agricultural Flat Rate Scheme. We have also included a direct link to the VAT form landing page.

  2. You must complete a VAT1 form and submit it with your VAT98 form when registering for the Agricultural Flat Rate Scheme.

  3. The address that you need to send the completed form VAT98 to has been updated.

  4. Added translation