Papur polisi

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus Strategaeth Ddigidol: 2014 i 2015 (fersiwn y we)

Diweddarwyd 1 October 2020

Yn berthnasol i England and Gymru

Rhagair

Mae’n bleser gennyf gyflwyno strategaeth ddigidol gyntaf erioed Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG). Mae’r strategaeth hon yn diffinio ein hymagwedd at gyflenwi gwasanaethau digidol ac yn pennu wyth cam gweithredol allweddol ar gyfer y blynyddoedd nesaf. Rydym yn awyddus i fod yn asiantaeth ‘digidol yn bennaf’ erbyn 2015 a bydd y camau gweithredu yn y strategaeth hon yn ein cynorthwyo i gyflawni’r nod hwnnw.

Roedd Cynllun Diwygio’r Gwasanaeth Sifil yn cyflwyno’r achos i gynyddu gallu digidol ar draws y llywodraeth yn 2012. Ers hynny, mae Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth a’r Weinyddiaeth Cyfiawnder wedi cyhoeddi strategaethau digidol eu hunain, y naill strategaeth a’r llall yn hyrwyddo newid i gyflenwi gwasanaethau ar-lein. Mae strategaeth OPG yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau sy’n cael eu cyflwyno yn y dogfennau hyn, ond yn cydnabod anghenion penodol ein hasiantaeth.

Mae OPG yn cynnal proses drawsnewid uchelgeisiol iawn ar hyn o bryd, ac mae ein gweledigaeth ar gyfer trawsnewid yr asiantaeth, a’r daith y byddwn yn ei dilyn i gyflawni hynny, yn unigryw i ni. Fel asiantaeth weithredol, sydd wedi cael ei hysbrydoli gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth a’r Weinyddiaeth Cyfiawnder, nid ydym yn canolbwyntio ar strategaethau adrannol neu drawslywodraethol yn unig. Felly, yr oeddem yn teimlo bod angen ysgrifennu ein strategaeth ein hunain i ddiffinio ein ffyrdd ein hunain o weithio’n ddigidol. Fodd bynnag, nid ein rhaglen drawsnewid yn unig sy’n uchelgeisiol; mae OPG gyfan yn uchelgeisiol. Rydym yn asiantaeth enghreifftiol, ac mae gwasanaethau digidol wedi datblygu i fod yn rhan hollbwysig o’r broses o gyflawni ein cynllun busnes. Mae ein hasiantaeth yn datblygu yn gyflym, ac mae’n briodol i ni ganolbwyntio yn awr ar ddyfodol yr asiantaeth, ei chynhyrchion a’i gwasanaethau.

Dechreuodd ein taith ddigidol gyda’r gwaith o greu ein hoffer gwneud cais am atwrneiaeth arhosol, a gyflwynwyd ym mis Mai. Ni oedd y gwasanaeth enghreifftiol cyntaf i basio’r Asesiad Gwasanaeth Digidol yn Bennaf. Ers ei lansio yn gyhoeddus ar Beta yr haf diwethaf, rydym wedi lansio nifer o gynhyrchion digidol newydd, pob un wedi’u datblygu ar sail anghenion ein defnyddwyr gwasanaeth (mewnol ac allanol). Rydym yn datblygu system rheoli achosion newydd ar gyfer ein staff, a fydd yn ffordd gyflymach o gasglu dogfennau a data ac yn offer newydd a fydd yn galluogi dirprwyon i ymgysylltu mewn ffordd fwy cyfleus gyda’r asiantaeth. Mae pob un o’r cynhyrchion a gwasanaethau hyn yn ein helpu i weithio’n fwy effeithlon a gwasanaethu ein cwsmeriaid yn well.

Rydym hefyd wedi dechrau symud ein holl gynnwys ar-lein i wefan GOV.UK. Rydym wedi penodi Pennaeth Digidol i arwain y broses o gyflenwi gwasanaethau digidol, a sicrhau bod y camau gweithredu yn y strategaeth hon yn cael eu dilyn a bod ein nodau yn cael eu cyflawni. Mae ein tîm digidol yn cynnig hyfforddiant i staff OPG ac adrannau ac asiantaethau eraill y llywodraeth. Rydym yn awyddus i ddefnyddio ffyrdd o weithio digidol er mwyn trawsnewid yr asiantaeth gyfan ac ysbrydoli eraill i ddechrau gweithio mewn ffordd debyg.

Mae’n gyfnod cyffrous i OPG. Mae ein strategaeth ddigidol yn bwysig iawn i ni: bydd yn ein galluogi i wella ein gwasanaethau i gwsmeriaid a gwireddu ein huchelgeisiau o ran tyfu, a chyfrannu at y strategaeth drawslywodraethol yr un pryd. Bydd hyn, yn ei dro, yn gwneud bywyd yn haws i’n staff gweithgar ac i’n cwsmeriaid.

Alan Eccles Prif Weithredwr a Gwarcheidwad Cyhoeddus Wast 2014

Crynodeb Gweithredol

Roedd [Cynllun Diwygio’r Gwasanaeth Sifil]](https://www.gov.uk/government/organisations/civil-service-reform), Strategaeth Ddigidol y Llywodraeth a’r Adroddiad Effeithlonrwydd Digidol yn cyflwyno’r dadleuon o blaid gwasanaeth sifil sy’n ‘ddigidol yn bennaf’, gan amcangyfrif arbedion o £1.8 biliwn y flwyddyn ac yn cyflwyno 16 o gamau gweithredu i’w cyflawni, yn cynnwys gwasanaethau mwy effeithlon a chyfleus i ddefnyddwyr, a gostwng y galw am ddulliau cost uwch.

Mae’r strategaeth hon yn diffinio rhaglen trawsnewidiad digidol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) hyd at 2018. Mae’n datgan gweledigaeth ddigidol OPG, ac yn nodi’r wyth cam gweithredu y byddwn yn eu cymryd i fod yn asiantaeth ddigidol yn bennaf erbyn 2015, a chyfrannu at y gwaith o ddiwygio’r gwasanaeth sifil.

Y camau gweithredu hyn yw:

  • Cam Gweithredu 1: byddwn yn cynllunio gwasanaethau digidol newydd, gan ganolbwyntio ar y defnyddiwr yn bennaf, a chyflawni’r Safon Gwasanaeth Digidol yn Bennaf.

  • Cam Gweithredu 2: byddwn yn datblygu darpariaeth ddigidol wedi’i chynorthwyo, ar gyfer pob un o’n gwasanaethau ar-lein, a gwneud yn siw^ r nad yw’r rhai na allant ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein yn cael eu hallgáu.

*Cam Gweithredu 3: byddwn yn ailgynllunio’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau drwy OPG, gan ganolbwyntio ar anghenion y defnyddiwr.

  • Cam Gweithredu 4: byddwn yn annog newid dulliau a marchnad o fewn ein gwasanaethau.

  • Cam Gweithredu 5: byddwn yn sicrhau bod y gwaith o gyflenwi gwasanaethau digidol yn gynaliadwy ac yn gost-effeithiol yn OPG.

  • Cam Gweithredu 6: byddwn yn cynyddu gallu digidol OPG.

  • Cam Gweithredu 7: byddwn yn cynorthwyo eraill y tu allan i OPG i ymgorffori ffyrdd o weithio digidol.

  • Cam Gweithredu 8: byddwn yn ymgorffori diwylliant agored sy’n rhannu.

Bydd y strategaeth hon yn cael ei diweddaru’n flynyddol.

Y cefndir a’r cyd-destun

Mae OPG yn un o asiantaethau gweithredol y Weinyddiaeth Cyfiawnder. Mae gan OPG gyfrifoldebau ar draws Cymru a Lloegr mewn pedwar prif faes:

  • cofrestru atwrneiaeth arhosol ac atwrneiaeth barhaus, sy’n caniatáu i bobl ddewis pwy y maent yn dymuno iddynt wneud penderfyniadau ar eu rhan os byddant yn colli galluedd meddyliol.

  • goruchwylio dirprwyon sy’n cael eu penodi gan y Llys Gwarchod (fel arfer pan na fydd twrnai wedi’i benodi cyn colli galluedd meddyliol)

  • ymchwilio i honiadau o gamdriniaeth yn erbyn twrneiod neu ddirprwyon

  • cynnal cofrestrau dirprwyon, atwrneiaeth arhosol ac atwrneiaeth barhaus, sydd ar gael i’r cyhoedd chwilio amdanynt.

Gweledigaeth OPG yw annog pawb i baratoi ar gyfer diffyg galluedd meddyliol posibl a chefnogi a diogelu’r rhai heb alluedd meddyliol yn awr. Rydym yn awyddus i gynyddu nifer y bobl sy’n trefnu atwrneiaeth arhosol, er mwyn i fwy o oedolion baratoi ar gyfer diffyg galluedd meddyliol, a goruchwylio dirprwyon sy’n cael eu penodi gan y llysoedd, mewn ffordd fwy effeithlon ac effeithiol, er mwyn i ni allu parhau i gyflawni ein rolau wrth i nifer ein cwsmeriaid gynyddu.

Mae galw cynyddol am wasanaethau OPG. Mae’r boblogaeth sy’n heneiddio yn y DU, ynghyd ag ymwybyddiaeth uwch am ein gwasanaethau, wedi arwain at gynnydd o tua 20% y flwyddyn mewn ceisiadau am atwrneiaeth arhosol; yn 2014-15, bydd OPG yn prosesu tua 375,000 o geisiadau. Mae nifer y dirprwyon sy’n cael eu goruchwylio gan OPG yn cynyddu tua 9% y flwyddyn, ac mae’r asiantaeth yn goruchwylio tua 54,000 o achosion dirprwyaeth yn awr. Byddwn ond yn gallu diwallu’r galw cynyddol hwn gan y cyhoedd drwy ddatblygu gwasanaethau digidol, er mwyn gwella profiad y cwsmer a gweithio’n fwy effeithlon.

Mae ein huchelgais ni hefyd yn cynyddu. Deilliodd y cymhelliant gwreiddiol i ddatblygu gwasanaethau digidol newydd i OPG yn 2011, yn sgîl yr angen i ddisodli systemau TG sy’n bwysig i’r busnes, ond sy’n heneiddio. Ers hynny rydym wedi:

  • lansio offer digidol atwrneiaeth arhosol yn swyddogol, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth

  • atgyfnerthu a datblygu ein tîm digidol a phenodi Pennaeth Digidol i arwain y gwaith o ddatblygu gwasanaethau ac ysgogi’r tîm

  • gweithio’n agos gyda Gwasanaethau Digidol y Weinyddiaeth Cyfiawnder er mwyn rhannu profiad a rhoi cymorth.

Rydym yn awyddus i adeiladu ar y llwyddiant hwn, a bod yn asiantaeth ddigidol yn bennaf erbyn 2015. Rydym eisiau sicrhau bod y gwasanaethau digidol wrth galon OPG, a sicrhau bod OPG wrth galon y gwaith o ddatblygu gwasanaethau digidol yn y llywodraeth. Rydym eisiau datblygu gwasanaethau digidol sydd mor dda, fel y bydd y bobl sy’n gallu eu defnyddio yn gwneud hynny, ond gan sicrhau’r un pryd nad yw’r bobl sydd methu eu defnyddio yn cael eu hallgáu. Rydym yn awyddus i bob un o’n gwasanaethau - gwybodaeth a thrafodion, mewnol ac allanol - gael eu cyflenwi drwy ddulliau digidol, yn hytrach na thrwy ddulliau wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy’r post.

Ein gweithredoedd

Er mwyn gwireddu ein gweledigaeth, byddwn yn gwneud y canlynol:

Cam Gweithredu 1: byddwn yn cynllunio gwasanaethau digidol newydd, gan ganolbwyntio ar y defnyddiwr yn bennafac (ar gyfer gwasanaethau cwsmeriaid wyneb-yn-wyneb) cyflawni’r Safon Gwasanaeth Digidol yn Bennaf.

Byddwn yn:

  • datblygu gwasanaeth dirprwyaeth ddigidol, er mwyn ei gwneud yn bosibl i ddirprwyon (a’r ymwelwyr sy’n rhan o raglen oruchwyliaeth OPG) allu cysylltu â ni yn gyfan gwbl ar-lein.

  • datblygu piblinell o gynhyrchion a gwasanaethau digidol i sicrhau’r gwerth gorau i’n cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid o fewn yr adnoddau sydd gennym ni.

  • defnyddio methodoleg ac egwyddorion rheoli prosiect Agile.

Beth mae Agile yn ei olygu i ni

  • Datblygu cynnyrch a gwasanaethau newydd ar sail anghenion y defnyddwyr

  • Bod yn agored: ynglŷn â’n ffyrdd o weithio, y ffordd yr ydym yn caffael, a’r ffordd yr ydym yn rhannu gwybodaeth gydag eraill

  • Grymuso ein staff i wella’r gwasanaeth rydym yn ei gynnig i gwsmeriaid

  • Parhau i bwysleisio’r holl wasanaethau digidol, er mwyn sicrhau eu bod bob amser yn gweithio yn y ffordd orau i’r defnyddiwr.

Rydym wedi defnyddio methodoleg Agile yn llwyddiannus ar gyfer pob un o’n prosiectau digidol hyd yma, ac mae’r canlyniadau wedi bod yn rhyfeddol. Mae’n ein galluogi i fod yn hyblyg ac i sicrhau bod y defnyddiwr bob amser yn ganolog i’r hyn a wnawn.

Rydym hefyd yn awyddus i ddarparu dulliau gweithio hawdd ei ddeall a’i ddefnyddio i’n staff, a byddwn yn datblygu dau wasanaeth newydd er mwyn diwallu’r angen hwn:

  • system rheoli achosion er mwyn prosesu ceisiadau atwrneiaeth arhosol, rheoli ein dulliau o gyfathrebu gyda dirprwyon a galluogi proses ddiogelu well.

  • system casglu dogfennau a data er mwyn gwneud ein prosesau cefn swyddfa yn gyflymach a haws.

Amserlen ar gyfer cyflwyno gwasanaethau digidol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Discovery Alpha Beta Live
Atwrneiaeth arhosol Chwef 2012 Tach 2012 Gorff 2013 Mai 2014
Dirprwyon digidol Ion 2014 Awst 2014 Tach 2014 Dechrau 2015
Rheoli achosion Awst 2013 Tach 2014 Mawrth 2014 Canol 2015
Casglu dogfennau a data Awst 2013 Tach 2014 Mawrth 2014 Canol 2015

Byddwn yn darparu’r profiad gorau posibl i’n cwsmeriaid a’n staff, drwy ailadrodd pob gwasanaeth yn rheolaidd, yn seiliedig ar adborth defnyddwyr.

Cam Gweithredu 2: byddwn yn datblygu darpariaeth ddigidol wedi’i chynorthwyo, ar gyfer

pob un o’n gwasanaethau ar-lein.

Byddwn yn:

  • gweithio ar draws y llywodraeth, a gyda’r trydydd sector, i sicrhau bod opsiynau digidol wedi’u cynorthwyo ar gael, er mwyn i’r bobl hynny sy’n cael anhawster i ddefnyddio ein gwasanaethau eu hunain yn derbyn cymorth ac nad ydynt yn cael eu hallgáu gan y newidiadau sy’n cael eu gwneud

  • sicrhau bod darpariaeth ddigidol wedi’i chynorthwyo yn gynaliadwy drwy gytundebau gyda’n partneriaid.

Cam Gweithredu 3: byddwn yn ailgynllunio’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau drwy OPG, gan ganolbwyntio ar anghenion y defnyddiwr.

Byddwn yn:

  • rhoi blaenoriaeth i’r defnyddiwr: byddwn yn cynllunio ac yn cynhyrchu gwasanaethau digidol sy’n seiliedig ar anghenion ein defnyddwyr, yn cynnwys y cyhoedd, ymarferwyr, staff, sefydliadau partner neu randdeiliaid, er mwyn creu’r profiad gorau posibl iddynt

  • annog proses o newid yn fewnol drwy:
    • gwneud ein timau gweithredol yn fwy effeithlon drwy wneud defnydd cynyddol o ddulliau digidol
    • alinio barn ein cwsmeriaid a gwaith ymchwil ar gyfer datblygu’r gwasanaeth digidol
  • datblygu polisi i ddileu llofnodion â llaw o’r broses Atwrneiaeth Arhosol, ac ymchwilio i’r cyfleoedd deddfwriaethol i wneud hynny

  • datblygu a defnyddio metrigau cywir i wneud dewisiadau da yngly^ n â sut i wella ein gwasanaethau drwy:
    • gwybod beth yr ydym eisiau ei fesur o’r dechrau
    • rhannu gwybodaeth reoli ar draws OPG er mwyn sicrhau bod gennym un safbwynt ar ymddygiad cwsmeriaid, a beth sy’n ei ysgogi
    • canolbwyntio ar bedwar dangosydd perfformiad Strategaeth Ddigidol y Llyowdraeth, fel ysgogwyr ar gyfer gwelliannau i wasanaethau ar-lein: cost drafodaethol, boddhad defnyddwyr, cynyddu’r nifer o bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau digidol a chyfradd gwblhau.

Cam Gweithredu 4: byddwn yn annog newid dulliau a marchnad o fewn ein gwasanaethau.

Byddwn yn:

  • codi ymwybyddiaeth o wasanaeth digidol Atwrneiaeth Arhosol o’r amser y bydd yn cael ei gyflwyno ym mis Mehefin 2014 ac, ymhen amser, ei gynnyrch a’i wasanaethau eraill, a hyrwyddo’r defnydd o’r dull digidol yn hytrach na’r opsiynau eraill

  • mandadu’r dull digidol ar gyfer rhai gwasanaethau a grwpiau defnyddwyr

  • archwilio’r cyfleoedd i bennu ffioedd gwahanol ar gyfer gwasanaethau ar-lein yn y dyfodol

  • datblygu gwybodaeth am y grwpiau defnyddwyr gwirioneddol a phosibl ar gyfer pob gwasanaeth

  • annog pob un o’n cwsmeriaid i ddefnyddio’r dulliau digidol yn hytrach na’r post neu’r ffôn, er mwyn lleihau ein costau rhedeg a chynyddu effeithlonrwydd gweithredol

  • lleihau galwadau fesul galwr i’n canolfan galwadau, drwy ddarparu canllawiau gwell ar-lein.

Cam Gweithredu 5: byddwn yn sicrhau bod y gwaith o gyflenwi gwasanaethau digidol yn

gynaliadwy ac yn gost-effeithiol yn OPG.

Byddwn yn:

  • datblygu modelau cymorth er mwyn gallu ailadrodd ein gwasanaethau digidol yn barhaus, gyda meddalwedd yn cael ei defnyddio’n rheolaidd

  • sefydlu tîm ymchwil mewnol, er mwyn i ni fod mewn cysylltiad parhaus gyda’n defnyddwyr a gallu datblygu ein gwasanaethau yn seiliedig ar eu hadborth

  • defnyddio opsiynau digidol pan fydd hynny’n bosibl, er mwyn lleihau costau a gwella profiad defnyddwyr drwy ail-fuddsoddi’r arbedion hynny yn ein gwasanaethau

  • lleihau ein dibyniaeth ar integreiddwyr systemau mawr, a dewis ehangach o gyflenwyr llai, sydd â chymhelliant i ddarparu gwasanaeth o safon uchel

  • rheoli ein gwasanaethau gan ddefnyddio timau cynnyrch mewnol, er mwyn sicrhau ein bod yn berchen ar ein gwasanaethau digidol ein hunain

  • defnyddio llwyfannau a gwasanaethau cyffredin gyda’r Weinyddiaeth Cyfiawnder, pan fydd hyn yn sicrhau arbedion costau neu fantais strategol, er enghraifft cynnal diogel.

Cam Gweithredu 6: byddwn yn cynyddu gallu digidol OPG.

Byddwn yn:

  • parhau i ddatblygu sgiliau proffesiynol ein tîm digidol, er mwyn gallu cefnogi uchelgeisiau digidol yr asiantaeth

  • dysgu drwy brofiad adrannau eraill, drwy ddatblygu rhwydwaith o gysylltiadau ar draws y llywodraeth

  • mynychu digwyddiadau a chynadleddau er mwyn sicrhau bod OPG yn parhau i fod yn arweinydd ym maes datblygu gwasanaethau digidol ar draws y llywodraeth

  • cynyddu gallu digidol mewnol drwy ddysgu a hyfforddi, er mwyn sicrhau bod y OPG cyfan yn symud tuag at ffyrdd mwy digidol o gydweithio

  • ysbrydoli newidiadau i brosesau a grymuso’r staff i sicrhau mai dulliau digidol yw’r dulliau arferol a ddefnyddir drwy’r asiantaeth gyfan, gyda thimau digidol a gweithredol yn cydweithio

  • buddsoddi yng nghynllun Llwybr Carlam y gwasanaeth sifil, sy’n cynnig rolau sy’n rhoi darlun gwirioneddol o gynllunio gwasanaethau digidol yn y llywodraeth

  • datblygu strategaeth gyfathrebu ddigidol ar gyfer cysylltiadau mewnol ac allanol.

Cam gweithredu 7: byddwn yn cynorthwyo eraill y tu allan i OPG i ymgorffori ffyrdd o weithio digidol.

Byddwn yn:

  • caffael yn gyflymach ac yn ddoethach

  • gweithio gyda busnesau bach a chanolig yn gyntaf, pan fydd yn bosibl

  • diffinio ffyrdd modern o achredu meddalwedd y llywodraeth, er mwyn symleiddio’r broses o’i derbyn yn y gwasanaeth

  • chwilio am gyfleoedd i greu partneriaethau hirdymor gyda’r trydydd sector a rhannu’r hyn rydym wedi’i ddysgu gyda hwy.

Cam Gweithredu 8: byddwn yn ymgorffori diwylliant agored sy’n rhannu.

Byddwn yn:

  • rhannu data gydag asiantaethau eraill, pryd bynnag y bydd yn bosibl

  • cyhoeddi cod ar gyfer pob gwasanaeth y byddwn yn eu datblygu

  • defnyddio safonau agored ym mhob gwasanaeth y byddwn yn ei greu, yn unol â chanllawiau Swyddfa’r Cabinet

  • cyhoeddi perfformiad ein gwasanaethau er mwyn cynyddu ymddiriedaeth y cyhoedd ynom

  • nodi fframweithiau cyffredin ar gyfer meysydd cyflenwi gwasanaethau digidol (er enghraifft cymorth a llywodraethu) a’u rhannu gydag eraill sy’n datblygu gwasanaethau digidol ar draws y llywodraeth

  • integreiddio gyda llwyfannau cyffredin Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth: GOV.UK, llwyfan perfformio ac yn y blaen

  • cynnal arferion llunio polisïau cydweithredol a thryloyw

Yr hyn yr ydym wedi’i wneud hyd yma

Rydym yn ailgynllunio gwasanaethau’r we, a hynny’n seiliedig ar anghenion y defnyddiwr: mewn partneriaeth â Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth, mae OPG eisoes wedi cyflwyno’r offer digidol ar gyfer atwrneiaeth arhosol, a basiodd y Safon Gwasanaeth Digidol yn Bennaf ym mis Ebrill. Lansiwyd yr offer yn swyddogol gennym ar 21 Mai 2014, fel rhan o raglen drawsnewid ehangach Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth – y gwasanaeth enghreifftiol cyntaf i basio’r asesiad safon gwasanaeth a’i gyflwyno’n swyddogol.

Rydym wedi dechrau gweithio ar gynnyrch ar-lein newydd ar gyfer ein cwsmeriaid: offer ‘dirprwyaethau digidol’, a fydd yn galluogi dirprwyon i gyfathrebu’n haws gyda staff OPG. Rydym ni wedi cyflawni gwaith ymchwil cychwynnol ar y defnyddiwr ar gyfer offer chwilio drwy gofrestrfeydd ar-lein, a fydd yn galluogi gweithwyr proffesiynol a phobl leyg i benderfynu a oes gan unigolyn dwrnai neu ddirprwy sy’n gyfrifol am eu materion, a bydd hyn yn rhan o’n piblinell o gynhyrchion digidol.

Rydym yn datblygu meddalwedd rheoli achosion newydd ar gyfer prosesu atwrneiaeth arhosol. Mae’r system hon yn syml a greddfol, ac mae wedi’i datblygu yn seiliedig ar anghenion y defnyddiwr, sy’n rhoi’r un profiad gwych i’n staff â’r profiad y byddwn yn disgwyl ei roi i gwsmeriaid yn awr. Bydd hyn yn cael ei gyflwyno yn alpha ym mis Tachwedd 2014, ynghyd â system casglu dogfennau a dogfen well o later.

Rydym yn trosglwyddo ein cynnwys digidol i GOV.UK, yn unol â Cham Gweithredu 7 strategaeth ddigidol y llywodraeth, er mwyn i ddefnyddwyr allu dod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt gennym yn gyflymach, ac er mwyn i’r wybodaeth fod yn gliriach pan fyddant yn ei derbyn.

Rydym yn fwy agored: rydym yn cyhoeddi metrigau ar gyfer y gwasanaeth atwrneiaeth arhosol ar lwyfan perfformio OPG, rydym yn blogio am ein profiadau ac rydym yn agor cod ffynhonnell ar gyfer gwasanaethau newydd.

Rydym yn cynyddu ein gallu digidol: rydym wedi penodi Pennaeth Digidol a Rheolwr Gwasanaeth, ac rydym yn datblygu tîm digidol OPG er mwyn sicrhau ei fod yn elfen ganolog o’r gwaith o wireddu ein cynllun busnes. Rydym yn cynnig hyfforddiant Agile i staff ac rydym yn codi ymwybyddiaeth o fanteision gwasanaethau digidol.

Rydym yn cydweithio gyda’n cydweithwyr y tu allan i OPG er mwyn galluogi ffyrdd o weithio digidol gwell: rydym yn caffael yn ddoethach ac yn gyflymach, o fframweithiau digidol modern, ac yn ysgrifennu contractau mewn ffordd sy’n gweithio orau i ni. Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr sicrwydd gwybodaeth er mwyn i’r broses achredu fod yn gyflymach ac yn fwy cymesur, ond yn cynnal y diogelwch a gynigir i gwsmeriaid yr un pryd.

Rydym yn gwneud i gyflenwi digidol fod yn gynaliadwy yn yr asiantaeth, drwy gynllunio modelau cymorth sy’n ein galluogi i ailadrodd pob un o’n cynhyrchion yn barhaus.

Mae ein hymagwedd at ddarparu digidol wedi’i chynorthwyo yn arloesol, ac rydym yn meithrin partneriaethau ar gyfer y gwasanaeth atwrneiaeth arhosol, sy’n galluogi defnyddwyr i wneud cais ar- lein heb unrhyw gost ychwanegol.

Rydym yn ymroddedig i fod yn asiantaeth hyfforddi ddigidol, sy’n nodi patrymau cyffredin a gwersi a ddysgwyd, a’u rhannu gydag eraill, er mwyn i’w teithiau hwy fod yn fwy esmwyth na’n taith ni.

Holl ganllawiau a ffurflenni Cymraeg Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus