Deunydd hyrwyddo

Taflen Wybodaeth Gwirio Treth

Diweddarwyd 22 May 2023

Beth sy’n newid

O 4 Ebrill 2022 ymlaen, bydd ychwanegiad bach at y gwiriadau sydd gan gyrff trwyddedu ar waith eisoes. Bydd angen i chi gwblhau gwiriad treth gyda Chyllid a Thollau EM (CThEM) pan fyddwch yn adnewyddu eich trwydded i wneud y canlynol:

  • gyrru tacsis neu gerbydau hurio preifat
  • gweithredu busnesau cerbydau hurio preifat
  • delio mewn metel sgrap

Dim ond yng Nghymru a Lloegr y bydd y newidiadau’n berthnasol.

Sut y gallai’r newidiadau effeithio arnoch

Bydd yr hyn y mae angen i chi ei wneud yn dibynnu ar p’un a ydych yn gwneud cais am drwydded am y tro cyntaf neu a ydych yn gwneud cais dilynol, fel adnewyddu trwydded.

Cael trwydded newydd

Os ydych yn gwneud cais am drwydded am y tro cyntaf, ni fydd angen i chi gwblhau’r gwiriad treth. Fodd bynnag, bydd cyrff trwyddedu yn gofyn i chi ddarllen arweiniad CThEM ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud i fod wedi’i gofrestru’n gywir ar gyfer treth yn y dyfodol a bydd angen i chi gadarnhau’ch bod wedi gwneud hyn.

Adnewyddu trwydded

O 4 Ebrill 2022 ymlaen, os byddwch yn adnewyddu neu’n gwneud cais am drwydded ddilynol o dan gorff trwyddedu gwahanol, bydd yn rhaid i chi wneud gwiriad treth. Byddwch yn gallu gwneud hyn ar-lein drwy wasanaeth digidol.

Ynglŷn â’r gwiriad treth

Byddwch yn gallu cwblhau’r gwiriad treth hwn ar GOV.UK, drwy’ch cyfrif Porth y Llywodraeth. Dim ond ychydig o gwestiynau y bydd angen i chi eu hateb i roi gwybod i CThEM sut rydych yn talu unrhyw dreth a allai fod yn ddyledus ar incwm yr ydych yn ennill o’ch masnach drwyddedig. Os nad oes gennych gyfrif Porth y Llywodraeth eisoes, gallwch gofrestru ar GOV.UK.

Dim ond ychydig funudau y dylai’r gwiriad treth ei gymryd. Bydd arweiniad ar GOV.UK a bydd unrhyw un sydd angen cymorth ychwanegol yn gallu cwblhau’r gwiriad treth dros y ffôn drwy linell gymorth cwsmeriaid CThEM.

Pan fyddwch wedi cwblhau’r gwiriad treth, byddwch yn cael cod. Mae’n rhaid i chi roi’r cod hwn i’ch corff trwyddedu. Ni all y corff trwyddedu symud ymlaen â’ch cais am drwydded neu adnewyddiad hyd nes y bydd y gwiriad treth wedi’i gwblhau a’i fod wedi cael y cod.

Bydd eich corff trwyddedu ond yn cael cadarnhad gan CThEM eich bod wedi cwblhau’r gwiriad treth, ni fydd ganddynt fynediad at wybodaeth am eich materion treth.

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud

Os nad ydych wedi cofrestru i dalu treth ar enillion o’ch masnach drwyddedig, ewch i GOV.UK i weld a oes angen i chi gofrestru cyn gynted â phosibl.

Os y dylech fod wedi eich cofrestru i dalu treth a’ch bod heb eich cofrestru, bydd CThEM yn gweithio gyda chi’n brydlon ac yn broffesiynol i’ch cael yn ôl ar y trywydd iawn. Eich cyfrifoldeb chi yw cael eich treth yn iawn, ond mae CThEM yma i helpu.

Gallwch gael help gan CThEM os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, er enghraifft os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat gwahanol neu os oes angen help arnoch i lenwi ffurflenni. Ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol.

Mae rhagor o arweiniad ar y gwiriad treth ar gael ar GOV.UK: www.gov.uk/guidance/changes-for-taxi-private-hire-or-scrap-metal-licence-applications-from-april-2022