Ffurflen

Datganiad cadarnhau ar gyfer partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (LL CS01c)

Defnyddiwch y ffurflen hon i gadarnhau bod manylion y partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (PAC) gyfoes.

Yn berthnasol i Gymru

Dogfennau

Manylion

Mae’r datganiad cadarnhau yn cadarnhau bod manylion y PAC yn gyfredol ar gofrestr gyhoeddus Tŷ’r Cwmnïau. Y gost yw £62 i ffeilio eich datganiad cadarnhau ar bapur.

Dim ond os yw dyddiad cadarnhau eich PAC (dyddiad diwallu) rhwng 30 Mehefin 2016 a 4 Mawrth 2024 y gallwch ffeilio’r ffurflen hon.

Os yw dyddiad cadarnhau eich PAC ar 5 Mawrth 2024 neu’n hwyrach, bydd angen i chi ddefnyddio’r fersiwn newydd o’r ffurflen CS01c.

Adfer PAC

Os ydych yn adfer PAC i’r gofrestr, rhaid i chi roi dyddiad y datganiad a oedd yn ddyledus cyn iddo gael ei ddileu. Os nad ydych yn siŵr o’r dyddiad cywir, cysylltwch â Thŷ’r Cwmnïau cyn cwblhau eich datganiad cadarnhau.

Cyhoeddwyd ar 3 May 2024