Datganiad cadarnhau ar gyfer partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (LL CS01c - fersiwn newydd)
Defnyddiwch y ffurflen hon i gadarnhau bod manylion y partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (PAC) gyfoes.
Yn berthnasol i Gymru
Dogfennau
Manylion
Mae’r ffurflen hon yn cadarnhau bod manylion y PAC yn gyfredol ar gofrestr gyhoeddus Tŷ’r Cwmnïau. Y gost yw £62 i ffeilio eich datganiad cadarnhau ar bapur.
Dim ond os yw dyddiad cadarnhau eich PAC (dyddiad diwallu) ar 5 Mawrth 2024 neu’n hwyrach y gallwch ffeilio’r ffurflen hon.
Os yw dyddiad cadarnhau eich PAC ar 4 Mawrth 2024 neu’n gynharach, bydd angen i chi ddefnyddio’r fersiwn flaenorol o’r ffurflen LL CS01c.
Cyfeiriad e-bost cofrestredig
Rhaid i chi ddefnyddio Rhan 1 i ddarparu cyfeiriad e-bost cofrestredig os nad ydych eisoes wedi darparu un.
Mae proses wahanol os oes angen i chi newid cyfeiriad e-bost cofrestredig.
Adfer PAC
Os ydych yn adfer PAC i’r gofrestr, rhaid i chi roi dyddiad y datganiad a oedd yn ddyledus cyn iddo gael ei ddileu. Os nad ydych yn siŵr o’r dyddiad cywir, cysylltwch â Thŷ’r Cwmnïau cyn cwblhau eich datganiad cadarnhau.