Datganiad i'r wasg

Dyddiad cau credydau treth: cwsmeriaid mewn perygl o golli allan

Mae’n rhaid i gwsmeriaid y mae eu hamgylchiadau wedi newid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf neu sydd wedi cael llythyr i ail-gadarnhau eu manylion incwm gysylltu â CThEM cyn 31 Gorffennaf.

Wythnos yn unig sydd gan gwsmeriaid credydau treth i roi gwybod i Gyllid a Thollau EM (CThEM) am newidiadau yn eu hamgylchiadau neu eu hincwm cyn y dyddiad cau ar 31 Gorffennaf 2020.

Mae’n rhaid i gwsmeriaid y mae eu hamgylchiadau wedi newid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf neu sydd wedi cael llythyr i ail-gadarnhau eu manylion incwm gysylltu â CThEM.

Gall methu ag ymateb erbyn y dyddiad cau olygu bod cwsmeriaid yn cael taliadau credydau treth anghywir, ac efallai y bydd yn rhaid iddynt ad-dalu unrhyw ordaliadau yn y pen draw.

Meddai Angela MacDonald, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEM ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid:

Mae credydau treth yn darparu cymorth ariannol angenrheidiol iawn i’n cwsmeriaid. Ond rydym yn gwybod bod llawer o gwsmeriaid yn aros tan y funud olaf i adnewyddu eu dyfarniad credydau treth.

Nawr yw’r amser i adnewyddu eich credydau treth, does dim angen i chi aros tan y dyddiad cau ar 31 Gorffennaf.

Nid oes angen i gwsmeriaid wneud dim byd arall os ydynt wedi cael pecyn adolygu blynyddol neu neges destun, a’u bod wedi gwneud eu datganiad, gan gynnwys cadarnhau eu hincwm a’u hamgylchiadau.

Fodd bynnag, mae angen i gwsmeriaid gysylltu â CThEM ar unwaith os ydynt yn anghytuno ag unrhyw ran o’r wybodaeth yn y pecyn neu’r llythyr, os oes angen iddynt roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau, neu os ydynt yn hunangyflogedig a bod yr incwm sydd gennym ar gyfer 2019 i 2020 yn amcangyfrif oherwydd nad ydynt wedi cyflwyno’u Ffurflen Dreth eto (yn yr achos hwnnw, bydd ganddynt tan 31 Ionawr 2021 i roi gwybod i ni beth yw eu gwir incwm).

Sut i adnewyddu

Mae adnewyddu credydau treth ar-lein yn gyflym ac yn hawdd. Gall cwsmeriaid fewngofnodi i GOV.UK i wirio cynnydd eu cais i adnewyddu, i gael sicrwydd bod y cais yn cael ei brosesu, ac i wybod pryd y byddant yn clywed oddi wrth CThEM.

Gall cwsmeriaid ddefnyddio ap CThEM ar eu ffôn clyfar er mwyn:

  • adnewyddu eu credydau treth
  • gwirio’r amserlen ar gyfer talu eu credydau treth
  • cael gwybod faint maent wedi’i ennill ar gyfer y flwyddyn

Mae help a gwybodaeth am adnewyddu credydau treth ar gael i gwsmeriaid:

Gair ynghylch sgamiau

Dylai cwsmeriaid fod yn ymwybodol y gallai troseddwyr fanteisio ar adnewyddiadau credydau treth drwy anfon neges destun, e-bostio neu ffonio’r cyhoedd, gan gynnig cymorth ffug. Mae’r sgamiau yn dynwared negeseuon CThEM mewn ymgais i ymddangos yn ddilys.

Os bydd rhywun yn anfon neges destun, yn e-bostio neu’n ffonio ac yn honni ei fod yn gweithio i CThEM, gan ddweud bod cwsmer yn gallu adnewyddu dyfarniad credydau treth neu gael gafael ar gymorth ariannol, a’i fod yn gofyn am fanylion cerdyn credyd neu fanc, mae’n debygol o fod yn sgam. Dylai pobl wirio GOV.UK i gael gwybodaeth am sut i adnabod cysylltiadau dilys gan CThEM.

Rhagor o wybodaeth

Y dyddiad cau ar gyfer adnewyddu credydau treth yw 31 Gorffennaf 2020.

Ym mis Ebrill, cyhoeddodd CThEM y byddai cwsmeriaid Credyd Treth Gwaith yn cael hyd at £20 yn ychwanegol bob wythnos rhwng 6 Ebrill 2020 a 5 Ebrill 2021, fel rhan o nifer o fesurau i gynorthwyo’r wlad yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19). Er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth sydd gan CThEM yn gywir ac yn gyfredol, anfonwyd llythyrau at rai cwsmeriaid i ail-gadarnhau eu manylion incwm.

I gael gwybod sut y cyfrifwyd cyfanswm yr incwm, neu i roi gwybod am unrhyw newidiadau, defnyddiwch y gwasanaeth sgwrsio dros y we. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘tax credits general enquiries’.

Rhaid i gwsmeriaid sy’n hunangyflogedig, ac nad ydynt wedi cyflwyno eu Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020, amcangyfrif eu helw neu golled a rhoi gwybod i ni am hyn ar-lein erbyn 31 Gorffennaf 2020. Os na fyddant yn rhoi gwybod i ni, byddwn yn cwblhau eu dyfarniad gan ddefnyddio’r wybodaeth sydd gennym, ac ni fyddant yn gallu ei newid yn nes ymlaen. Ar ôl iddynt ddarparu amcangyfrif, bydd angen iddynt gysylltu â ni eto pan fyddant yn gwybod eu gwir incwm, a hynny erbyn 31 Ionawr 2021 fan bellaf.

Bydd credydau treth yn cael eu disodli’n raddol gan Gredyd Cynhwysol. Ni all cwsmeriaid gael credydau treth a Chredyd Cynhwysol ar yr un pryd. I gael rhagor o wybodaeth, mae angen iddynt fynd i’r dudalen Credyd Cynhwysol ar GOV.UK.

Cyngor CThEM ynghylch sgamiau

Stopio:

  • meddyliwch am funud cyn rhoi’ch gwybodaeth neu’ch arian
  • fel rheol, ni fydd sefydliadau dilys, fel banciau neu CThEM, yn cysylltu â chi’n ddirybudd i ofyn am fanylion personol

Herio:

Diogelu:

Cyhoeddwyd ar 24 July 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 July 2020 + show all updates
  1. Published Welsh language version.

  2. First published.