Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref

Neidio i gynnwys y canllaw

Yr hyn a gewch

Mae swm Pensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael ar oedran Pensiwn y Wladwriaeth (yn agor tudalen Saesneg) yn seiliedig ar eich cofnod Yswiriant Gwladol a nifer y ‘blynyddoedd cymhwysol’ sydd gennych.

Blwyddyn gymhwysol yw blwyddyn lle:

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010

Mae Diogelu Cyfrifoldebau Cartref (HRP) wedi lleihau nifer y blynyddoedd cymhwysol sydd eu hangen arnoch i gael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth hyd at 22 mlynedd.

I gael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth, roedd angen 39 o flynyddoedd cymhwysol ar fenyw a 44 o flynyddoedd cymhwysol ar ddyn.

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 06 Ebrill 2010

Cafodd HRP ei droi’n gredydau Yswiriant Gwladol, os oedd eu hangen arnoch, hyd at uchafswm o 22 o flynyddoedd cymhwysol.

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth rhwng 6 Ebrill 2010 a 5 Ebrill 2016

Roedd angen 30 o flynyddoedd cymhwysol arnoch ar eich cofnod Yswiriant Gwladol i gael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth.

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016

Mae’n bosibl eich bod wedi bod yn gymwys i gael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth os ydych yn gymwys i gael HRP oherwydd bod y canlynol yn wir:

  • cawsoch Fudd-dal Plant ar gyfer plentyn o dan 6 oed
  • roeddech yn gofalu am berson sâl neu anabl (gan gynnwys plentyn dros 6 oed) a oedd yn cael budd-daliadau penodol

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl 6 Ebrill 2016

Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael Pensiwn newydd y Wladwriaeth.