Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref

Neidio i gynnwys y canllaw

Cymhwystra

Mae’n bosibl y byddwch yn dal i allu gwneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref (HRP), am flynyddoedd treth llawn (6 Ebrill i 5 Ebrill) rhwng 1978 a 2010, os oedd unrhyw un o’r canlynol yn wir:

  • roeddech yn hawlio Budd-dal Plant ar gyfer plentyn o dan 16 oed
  • roeddech yn gofalu am blentyn gyda’ch partner a hawliodd Fudd-dal Plant yn eich lle
  • roeddech yn cael Cymhorthdal Incwm oherwydd eich bod yn gofalu am rywun a oedd yn sâl neu’n anabl
  • roeddech yn gofalu am berson sâl neu anabl a oedd yn hawlio budd-daliadau penodol

Gallwch hefyd wneud cais os oeddech, am flwyddyn dreth lawn rhwng 2003 a 2010, naill ai:

  • yn ofalwr maeth
  • yn gofalu am blentyn ffrind neu aelod o’r teulu (‘gofalwr sy’n berthynas’) yn yr Alban

Gwnaeth credydau Yswiriant Gwladol ar gyfer rhieni a gofalwyr ddisodli HRP o 6 Ebrill 2010 ymlaen.

Pwy oedd yn gymwys yn awtomatig ar gyfer HRP

Cafodd y rhan fwyaf o bobl HRP yn awtomatig os oeddent:

  • yn cael Budd-dal Plant yn eu henw ar gyfer plentyn o dan 16 oed a’u bod wedi rhoi eu rhif Yswiriant Gwladol i’r Swyddfa Budd-dal Plant
  • yn cael Cymhorthdal Incwm ac nid oedd angen iddynt gofrestru ar gyfer gwaith oherwydd eu bod yn gofalu am rywun a oedd yn sâl neu’n anabl

Os oedd eich partner yn hawlio Budd-dal Plant yn eich lle

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu trosglwyddo HRP oddi wrth bartner y buoch yn byw gydag ef pe bai’n hawlio Budd-dal Plant tra bo’r ddau ohonoch yn gofalu am blentyn o dan 16 oed ac nid oes angen yr HRP arnoch.

Gall drosglwyddo’r HRP i chi am unrhyw ‘flynyddoedd cymhwysol’ sydd ganddo ar ei gofnod Yswiriant Gwladol rhwng Ebrill 1978 ac Ebrill 2010. Bydd hyn yn cael ei drosi’n gredydau Yswiriant Gwladol.

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2008, ni allwch drosglwyddo HRP.

Os oeddech yn gofalu am berson sâl neu anabl

Dim ond am y blynyddoedd y buoch yn gofalu am rywun ag anabledd neu salwch hirdymor rhwng 6 Ebrill 1978 a 5 Ebrill 2002 y gallwch hawlio HRP.

Mae’n rhaid i chi fod wedi treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu amdano ac mae’n rhaid iddo fod wedi cael un o’r budd-daliadau canlynol:

Mae’n rhaid i’r budd-dal fod wedi ei dalu am 48 wythnos o bob blwyddyn dreth ar neu ar ôl 6 Ebrill 1988 neu bob wythnos o bob blwyddyn dreth cyn 6 Ebrill 1988.

Gallwch wneud cais o hyd os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth (yn agor tudalen Saesneg). Fel arfer, ni fyddwch yn cael unrhyw gynnydd mewn Pensiwn y Wladwriaeth a allai fod wedi bod yn ddyledus am flynyddoedd blaenorol.

Os oeddech yn cael Lwfans Gofalwr

Nid oes angen i chi wneud cais am HRP os oeddech yn cael Lwfans Gofalwr. Byddwch yn cael credydau Yswiriant Gwladol yn awtomatig ac ni fyddai fel arfer wedi bod angen HRP arnoch.

Os oeddech yn ofalwr maeth neu’n gofalu am blentyn ffrind neu aelod o’r teulu

Mae’n rhaid i chi wneud cais am HRP os, am flwyddyn dreth lawn rhwng 2003 a 2010, roeddech naill ai:

  • yn ofalwr maeth
  • yn gofalu am blentyn ffrind neu aelod o’r teulu (‘gofalwr sy’n berthynas’) yn yr Alban

Mae’n rhaid i’r canlynol i gyd fod yn wir hefyd:

  • nad oeddech yn cael Budd-dal Plant
  • nad oeddech mewn gwaith am dâl
  • ni wnaethoch ennill digon mewn blwyddyn dreth iddo gyfrif tuag at Bensiwn y Wladwriaeth

Gwragedd priod neu weddwon

Ni allwch gael HRP am unrhyw flwyddyn dreth gyflawn os oeddech yn wraig briod neu’n weddw a bod y canlynol yn wir:

  • roeddech wedi dewis talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar gyfradd is (yn agor tudalen Saesneg) fel cyflogai (a elwir yn gyffredin fel y stamp bach)
  • roeddech wedi dewis peidio â thalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 pan oeddech yn hunangyflogedig

Gwirio a ydych yn gymwys

Gallwch ddefnyddio’r gwiriwr cymhwystra Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref i weld a ydych yn gymwys.

Gwiriwch nawr