Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref

Neidio i gynnwys y canllaw

Sut i hawlio

I wneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref (HRP), gallwch wneud cais ar-lein neu drwy’r post. Gallwch hefyd wneud cais i drosglwyddo HRP oddi wrth rywun arall.

Gallwch hefyd gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF am ffurflen gais.

Os oeddech yn ofalwr maeth neu’n gofalu am blentyn ffrind neu aelod o’r teulu

Ar ôl i chi wneud cais, bydd angen i chi ddarparu llythyr gan eich cyngor lleol neu’r asiantaeth roeddech yn gweithio iddi.

Mae hyn er mwyn cadarnhau eich bod, drwy gydol y flwyddyn dreth lawn, naill ai:

  • yn ofalwr maeth cymeradwy
  • yn gofalu am blentyn ffrind neu aelod o’r teulu (‘gofalwr sy’n berthynas’) yn yr Alban

Os oeddech yn gofalu am berson sâl neu anabl

Mae’n rhaid i chi gynnwys tystiolaeth sy’n dangos faint o fudd-dal a dalwyd i’r person tra oeddech yn gofalu amdano, er enghraifft sy’n dangos tystiolaeth o fudd-dal. Gwiriwch pa fudd-daliadau sy’n gymwy.

Mae’n rhaid iddo fod wedi bod yn cael y budd-dal ar gyfer naill ai:

  • 48 wythnos o bob blwyddyn dreth ar neu ar ôl 6 Ebrill 1988
  • bob wythnos o bob blwyddyn dreth cyn 6 Ebrill 1988