Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol
Trosolwg
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu cyfraniadau Dosbarth 3 gwirfoddol i lenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol er mwyn bod yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth.
Fel arfer, gallwch ond dalu am fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol o’r 6 blwyddyn dreth ddiwethaf. Mae’r flwyddyn dreth yn dod i ben ar 5 Ebrill.
Er enghraifft, mae gennych hyd at 5 Ebrill 2030 i lenwi’r bylchau ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024.
Gallwch hefyd ddewis trefnu taliad rheolaidd i lenwi bylchau yn y flwyddyn dreth bresennol.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Cyn i chi dalu
Gwiriwch eich cofnod Yswiriant Gwladol i gael gwybod:
-
a oes gennych unrhyw fylchau
-
a ydych yn gymwys i dalu cyfraniadau gwirfoddol
-
faint fydd y gost
Nid yw cyfraniadau gwirfoddol bob amser yn cynyddu’ch Pensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, cysylltwch â Chanolfan Pensiwn y Dyfodol i weld a fyddwch yn elwa ar gyfraniadau gwirfoddol.
Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn i weld a fyddwch yn elwa ar gyfraniadau gwirfoddol.
Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael credydau Yswiriant Gwladol - gallai olygu nad oes rhaid i chi dalu.
Talu ar-lein
Gallwch dalu ar-lein drwy gymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein.
Cadarnhad o’ch taliad
Nid oes angen i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EF (CThEF) i wirio a yw’ch taliad wedi dod i law.
Bydd yn ymddangos yn eich cyfrif CThEF. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.
Faint o amser y mae’n ei gymryd
Gallwch wneud taliadau sy’n cyrraedd ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf:
-
drwy gymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein
-
drwy fancio ar-lein neu dros y ffôn (drwy Daliadau Cyflymach neu CHAPS)
-
yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu
Gallwch dalu cyn pen 3 diwrnod drwy ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn (drwy Bacs) neu â siec drwy’r post.
Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.
Os bydd 5 Ebrill ar benwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny (oni bai eich bod yn talu drwy ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn (drwy Daliadau Cyflymach).
Os ydych am wneud taliadau rheolaidd
Os ydych chi’n gwybod y bydd gennych fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol yn y flwyddyn dreth bresennol, gallwch wneud taliadau rheolaidd i dalu am y diffyg.
Os ydych am dalu’n chwarterol cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF. Byddant yn anfon cais am daliad atoch bob mis Gorffennaf, Hydref, Ionawr ac Ebrill.
Os hoffech dalu’n fisol, dylech drefnu Debyd Uniongyrchol.